
Sialens Pysgota 1 Diwrnod Am Ddim
- Pysgodfa Garnffrwd
Mae’r cwrs 1 diwrnod rhad ac am ddim hwn yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un a hoffai roi cynnig ar bysgota am y tro cyntaf, neu i bysgotwyr mwy profiadol sydd am wella eu techneg a chael un neu ddau o awgrymiadau arbenigol. Nod y cwrs yw gwella sgiliau lles a rhifedd tra’n rhoi cyfle i gwrdd â phobl eraill sydd hefyd yn mwynhau diwrnod allan yn pysgota.
Hyfforddiant arbenigol gyda Hywel Morgan.
Manylion y cwrs
- Wyneb i Wyneb
Disgrifiad o'r Rhaglen
Perffaith ar gyfer oedolion 19+ oed heb radd C TGAU (neu gyfwerth), sydd wrth eu bodd yn yr awyr agored ac a hoffai gymryd rhan mewn Her Pysgota / Rhifedd. Mae’r cwrs yn cynnwys 1 diwrnod o bysgota plu neu fras am ddim ar Lyn yn Sir Gaerfyrddin, cinio am ddim a lluniaeth. Erbyn diwedd y cwrs, bydd y cyfranogwyr wedi gwella eu sgiliau pysgota a rhifedd a gobeithio wedi mwynhau diwrnod allan yn yr awyr iach, yng nghefn gwlad prydferth Cymru!
Pysgodfa Garnffrwd
Mynyddcerrig
Llanelli
Sir Gaerfyrddin
SA15 5BB
Pysgota llyn 1 diwrnod AM DDIM yn Sir Gaerfyrddin.
Hyfforddiant arbenigol AM DDIM.
Cinio a lluniaeth am ddim.
Sialens Bysgota ryngweithiol am ddim.
Trwydded bysgota 1 diwrnod am ddim (os oes angen)
Testimonial
"Fe wnes i fwynhau'r diwrnod yn fawr iawn ... roedd y cwrs rhifedd yn ddiddorol a gwnaeth i mi ddefnyddio celloedd fy ymennydd, yn hytrach na defnyddio cyfrifiannell. A fyddai'n dderbyniol gwneud bwciad ar gyfer cwrs arall o'r fath?"