Deall Eich Slip Cyflog (Cyrsiau Byr a Dysgu Oedolion)
- Holwch am leoliad
Yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni, mae’n hanfodol deall sut mae’ch cyflog yn cael ei gyfrifo er mwyn sicrhau nad ydych yn gordalu ar drethi. Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sydd angen eglurder ar sut mae didyniadau fel Yswiriant Gwladol, treth, a chyfraniadau pensiwn yn cael eu cyfrifo. Mae’n arbennig o ddefnyddiol i weithwyr sy’n gweithio oriau amrywiol neu’r rhai sy’n gweithio goramser.
Manylion y cwrs
- Wyneb i Wyneb
Disgrifiad o'r Rhaglen
Mae’r cwrs hwn yn berffaith ar gyfer oedolion 19+ oed nad oes ganddynt TGAU gradd C neu uwch (neu gyfwerth) ac sy’n edrych i gael gwell dealltwriaeth o’u slipiau cyflog. Bydd y cwrs yn ymdrin â sut mae didyniadau’n effeithio ar ei gilydd, sut i amcangyfrif tâl mynd adref yn y dyfodol, a sut i gyfrifo buddion cyfraniadau pensiwn. Erbyn diwedd y cwrs, bydd gan gyfranogwyr y sgiliau i gynllunio eu harian yn well a deall goblygiadau eu henillion a’u didyniadau.
Mae Coleg Sir Gâr yn falch o fod yn gweithio gydag Addysg Oedolion Cymru a Phartneriaeth ACL Sir Gaerfyrddin i sicrhau bod cyrsiau ar gael mewn 25+ o leoliadau ar gyfer y rhai sy’n byw ac yn gweithio yn Sir Gaerfyrddin.
- Cael dealltwriaeth glir o ddidyniadau slip cyflog.
- Dysgwch sut i amcangyfrif tâl mynd adref yn gywir yn y dyfodol.
- Deall buddion ariannol cyfraniadau pensiwn.
Unrhyw un 19+ oed a hoffai gefnogaeth i ddod yn fwy hyderus mewn materion sy’n gysylltiedig â rhifedd a/neu eisiau ennill cymhwyster achrededig cydnabyddedig yn y pen draw.