Mathemateg i Rieni (Cyrsiau Byr a Dysgu Oedolion)
- Holwch am leoliad
Cyrsiau i helpu rhieni i helpu plant gyda gwaith cartref mathemateg, a ddarperir ar-lein neu mewn lleoliad cymunedol ledled Sir Gaerfyrddin / Ceredigion.
Manylion y cwrs
- Wyneb i Wyneb
Programme Description
Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer rhieni a/neu ofalwyr fyddai’n hoffi gwella eu hyder a’u gwybodaeth er mwyn cefnogi addysgu eu plentyn gartref. Bydd cyfranogwyr yn elwa o gyflwyniad i’r cwricwlwm mathemateg a fydd yn tynnu sylw at rai o’r meysydd pwnc y gall myfyrwyr a/neu rieni gael trafferth gyda nhw. Bydd rhieni neu ofalwyr sy’n mynychu’r cwrs yn ennill gwybodaeth ac yn deall sut y gellir torri’r pwnc i lawr er mwyn gwneud dysgu’n haws.
Mae Coleg Sir Gâr yn falch o fod yn gweithio gydag Addysg Oedolion Cymru a Phartneriaeth ACL Sir Gaerfyrddin i sicrhau bod cyrsiau ar gael mewn 25+ o leoliadau ar gyfer y rhai sy’n byw ac yn gweithio yn Sir Gaerfyrddin.
- Rhannu profiadau gyda rhieni / gofalwyr eraill
- Dysgu mewn grŵp bach
Rhieni neu ofalwyr pobl ifanc. Rhaid i’r cyfranogwr fod yn 19+ oed.