Blas ar Gymru - Cwrs Coginio (Cyrsiau Byr a Dysgu Oedolion)
- Campws Pibwrlwyd
Mae’r cwrs coginio Taste of Wales/Blas ar Gymru yn fan cychwyn ardderchog ar gyfer rhai a’u bryd ar fod yn ben-cogyddion, cogyddion cartref ymroddedig a rhai sy’n frwdfrydig ynghylch bwyd, i ddod a dathlu’r gorau oll sydd gan gynnyrch o Gymru i’w gynnig.
Bydd y cwrs yn cynnig gwybodaeth arbenigol a chyngor gan ben-cogydd brwdfrydig ac ymrwymedig, technegau proffesiynol ac un neu ddwy gyfrinach o eiddo’r pen-cogydd ar hyd y ffordd.
Bydd y cwrs yn dathlu’r cynnyrch tymhorol gorau oll sydd ar gael ar hyd a lled Cymru yn ogystal â chyflwyno cyfuniadau o flasau o ffynonellau eraill gan ddathlu goreuon y ddaear, tir a môr.
Manylion y cwrs
- Rhan amser
- Saesneg
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Cwrs coginio gyda’r nos yw hwn ar gyfer unrhyw un 16+ oed. Darperir yr holl gynhwysion, ffedog pen-cogydd wedi’i brandio a’r defnydd o gyllyll. Bydd amrywiol ddulliau coginio, bwtsiera, trin pysgod a sgiliau patisserie yn cael eu cyflwyno ym mhob sesiwn.
Bydd pob sesiwn yn canolbwyntio ar agweddau allweddol ar gynnyrch tymhorol a bydd yn tywys myfyrwyr trwy ystod o dechnegau ar gyfer paratoi seigiau blasus gan gynnwys cynhwysion fel pysgod o ffynonellau cynaliadwy, cig, llysiau a phwdinau.
Gallai’r cwrs coginio Taste of Wales/ Blas ar Gymru fod yn fan cychwyn ysbrydoledig a bydd yn darparu sylfaen ardderchog ar gyfer ysbrydoli pen-cogyddion y dyfodol, gyda’r opsiwn o’r cam nesaf sef cofrestru ar gwrs arlwyo llawn neu ran-amser.
Bydd y cwrs yn agor y drws i gyfleoedd yn y dyfodol gyda chyrsiau eraill yn cael eu cynnig megis addurno cacennau, pobi cacennau, pobi bara artisan, patisserie a danteithion a choginio cartref uwch.
Mae darlithwyr yn darparu cyngor arbenigol i ddysgwyr ynghylch cymwysterau galwedigaethol a seiliedig ar waith ac opsiynau dilyniant.
Arsylwi gwaith ymarferol ac adborth ar seigiau a gynhyrchwyd yn ystod pob sesiwn. Bydd myfyrwyr yn casglu tystiolaeth ar gyfer portffolio a fydd yn cael ei asesu ar hyd y cwrs.
Terfynau oedran 16+ oed. Does dim gofynion academaidd. Bydd rheolau iechyd a diogelwch a gyflwynir yn y sesiwn gyntaf yn berthnasol.
Cyfrifwyd costau ar gyfer y cwrs, a oedd yn cynnwys cynnyrch a ffedog wedi’i brandio. Band ffi I