Diploma Lefel 1 mewn Coginio Proffesiynol a Gweini bwyd a Diod (Cwrs Coleg, Lefel 1)
- Campws Aberystwyth
- Campws Aberteifi
Mae coginio proffesiynol a lletygarwch yn yrfa heriol ond gwerth chweil gyda phosibiliadau gyrfaol sy’n ymestyn cyn belled â gweithio mewn bwytai, gwestai, sbâu a hyd yn oed llongau gwyliau.
Ble bynnag y gweinir bwyd o ansawdd, mae angen rhywun i’w greu a’i weini.
Mae’r cwrs hwn yn garreg sarn i’r ysgol honno lle gallwch sianelu eich brwdfrydedd am fwyd i fod yn amser gwerth chweil o dwf personol a datblygu sgiliau.
Mae’r cwrs ymarferol hwn yn ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr sydd am ddatblygu eu hyder a’u sgiliau cyfathrebu. Hefyd, byddwch yn meistroli’r sgiliau a’r technegau sydd eu hangen i roi cychwyn ar yrfa yn y celfyddydau coginio neu letygarwch.
Mae’r cwrs yn borth i mewn i un o’r diwydiannau sy’n tyfu gyflymaf yn lleol ac yn genedlaethol. Mae mwyafrif y myfyrwyr yn defnyddio’r cwrs hwn i symud ymlaen i raglen lefel dau mewn coginio proffesiynol gwasanaeth bwyd a diod, neu i gyflogaeth. Hefyd bydd y cwrs yn darparu cyfleoedd i ddatblygu ystod o sgiliau a thechnegau personol, sy’n hanfodol ar gyfer perfformiad llwyddiannus mewn bywyd gwaith.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
- Saesneg
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Elfen ganolog o’r cwrs yw’r profiad sy’n gysylltiedig â gwaith. Mae’r holl ddysgwyr yn rhedeg y gwasanaeth ym Mwyty Maes y Parc neu Aberista, y bwytai hyfforddi ar y safle ar ein campysau yn Aberteifi ac Aberystwyth. Yma byddwch yn cael golwg realistig ar alwadau gweithio yn y diwydiant arlwyo mewn amgylchedd diogel a chefnogol.
Bydd staff profiadol yn dysgu sgiliau coginio a gweini bwyd i chi trwy arddangosiadau bywiog a sesiynau sgiliau ymarferol. Mae’r profiad ymarferol yn y bwyty hyfforddi yn darparu digonedd o gyfle i roi’r sgiliau hyn ar waith.
Mae’r rhaglen Cyflwyniad i Goginio Proffesiynol yn rhoi cyfle i ymgeiswyr ddatblygu’r sgiliau sylfaenol mewn arlwyo trwy archwilio’r dulliau coginio sydd eu hangen i baratoi, coginio a gorffennu bwyd Ffrengig traddodiadol.
Mae’r rhaglen Gwasanaeth Bwyd yn caniatáu i ddysgwyr ennill gwybodaeth am y diwydiant gwasanaeth bwyd trwy ddetholiad o unedau wedi’u teilwra at ofynion gweinydd proffesiynol, o waith bar, gwasanaeth coffi arbenigol a derbyn arian.
Cewch ddigon o gymorth wrth ddatblygu eich sgiliau gwasanaeth cwsmer a sgiliau a thechnegau cegin, a bydd eich profiadau ar y cwrs yn eich helpu i ddeall y llwybrau sy’n agored i chi yn y diwydiant.
Bydd cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus yn eich galluogi i symud ymlaen i gyrsiau lefel uwch megis y rhaglen Coginio Proffesiynol lefel dau, a’r cyrsiau Bwyd a Diod Proffesiynol lefel dau.
Asesir yr unedau trwy arsylwi ar waith ymarferol yn ein bwytai hyfforddi ac arholiadau coginio ymarferol a osodir gan y corff dyfarnu. Yn ogystal, rhaid i ymgeiswyr gwblhau cwestiynau gwybodaeth greiddiol yn llwyddiannus. Gall y cwestiynau hyn fod ar ffurf ysgrifenedig neu wedi’u recordio gan ddefnyddio llwyfannau cyfryngau, prosiectau, neu aseiniadau ysgrifenedig estynedig.
Graddau TGAU A*-G mewn naill ai Cymraeg (Iaith gyntaf) neu Saesneg a bydd mathemateg o fantais. Mae cyfweliad llwyddiannus hefyd yn ofynnol.
Bydd pob dysgwr yn dilyn Llwybr Sgiliau lle byddant yn datblygu eu sgiliau llythrennedd a rhifedd ar gyfer cyflogaeth. Bydd myfyrwyr nad ydynt hyd yma wedi cael y graddau TGAU angenrheidiol ar C neu uwch yn cael addysgu a chymorth ychwanegol i astudio ar gyfer naill ai TGAU neu Gymwysterau Sgiliau Hanfodol yn dibynnu ar raddau TGAU blaenorol.
Bydd rhaid prynu iwnifform lawn sy’n cadw at reoliadau diogelwch bwyd a chod gwisg y coleg, gwerslyfr a set o gyllyll. Gellir prynu’r rhain trwy ein cyflenwr enwebedig, neu gellir derbyn iwnifform a chyfarpar a brynwyd yn flaenorol gyda chaniatâd tiwtor y cwrs.
Mae gwibdeithiau addysgol gartref a thramor hefyd yn cael eu cynnig i ddysgwyr ar y cwrs hwn. Gellir cynnig profiad gwaith heb unrhyw gost ychwanegol i’r dysgwr. Hefyd, cynigir cymhwyster Diogelwch Bwyd lefel dau heb unrhyw gost ychwanegol.