Skip page header and navigation

Cwrs Patisserie a Melysion (Cwrs Coleg)

  • Campws Pibwrlwyd
1 flwyddyn, 3 awr yr wythnos (5pm-8pm)

Mae’r cymhwyster newydd hwn yn galluogi unrhyw un sydd â diddordeb mewn pobi i ddatblygu eu sgiliau coginiol mewn gwneud melysfwyd poeth ac oer, pwdinau, bisgedi, cacennau, sbwnjis, past a phatisserie seiliedig ar does.  

Bydd myfyrwyr yn elwa ar arbenigedd pen-cogyddion patisserie a danteithion profiadol a fydd yn eich arwain yn y technegau sydd eu hangen i gynhyrchu’r cynhyrchion hynod flasus hyn.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Rhan amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
1 flwyddyn, 3 awr yr wythnos (5pm-8pm)

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Cwrs coginio gyda’r nos yw hwn ar gyfer unrhyw un 16+ oed. Darperir ffedog pen-cogydd wedi’i brandio a defnydd o’r holl gyfarpar sydd ei angen.  Bydd amrywiol ddulliau coginio, sgiliau pobi a phatisserie yn cael eu cyflwyno ym mhob sesiwn.

  • Bydd pob sesiwn yn canolbwyntio ar agweddau allweddol ar batisserie a danteithion. 
  • Cynhyrchu melysfwyd a phwdinau poeth ac oer - Bavarois, mousses, tartenni, peis, pwdinau sbwnj, souffle oer a sawsiau.
  • Cynhyrchu cynhyrchion bisgedi, cacennau a sbwnjis - Sbwnjis Genoise, Gateaux, Teisen Frau, Teisen Madeira, Teisen Ffrwythau, Sbwnjis wedi’u Chwisgo.
  • Paratoi, coginio a gorffennu cynhyrchion toes wedi’u heplesu i’w gweini, rholiau bara amrywiol, toesenni, byns melys a bara â blas.
  • Datblygu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau i baratoi, coginio a gorffennu cynhyrchion pâst, pâst choux, pâst melys, crwst brau a chrwst pwff.

Gallai’r cwrs hwn fod yn fan cychwyn ysbrydoledig a bydd yn darparu sylfaen ardderchog ar gyfer darpar ben-cogyddion y dyfodol neu gellir ei astudio yn gyfan gwbl oherwydd brwdfrydedd dros wneud cacennau a danteithion.  Bydd y cwrs yn agor y drws i gyfleoedd yn y dyfodol gyda chyrsiau llawn amser neu ran-amser eraill yn cael eu cynnig megis ein dosbarth nos addurno cacennau, cwrs siocledwr undydd a chwrs coginio Blas ar Gymru.

Mae darlithwyr yn darparu cyngor arbenigol i ddysgwyr ynghylch cymwysterau galwedigaethol a seiliedig ar waith ac opsiynau dilyniant.

Asesir myfyrwyr wrth arsylwi gwaith ymarferol, adborth ar seigiau a gynhyrchir yn ystod pob sesiwn.  Bydd hefyd yn ofynnol i fyfyrwyr gynhyrchu portffolio o dystiolaeth i fodloni deilliannau dysgu’r cwrs.  Yn ogystal â’r asesiadau ymarferol bydd angen i ddysgwyr ddangos gwybodaeth trwy gwblhau papurau cwestiynau ysgrifenedig.

Terfynau oedran 16+ oed.  Does dim gofynion academaidd. Bydd rheolau iechyd a diogelwch a gyflwynir yn y sesiwn gyntaf yn berthnasol.

Cyfrifwyd costau ar gyfer y cwrs, sy’n cynnwys cynhwysion y rhan fwyaf o gynhyrchion a ffedog wedi’i brandio am ddim. Band ffi I