Skip page header and navigation

Coginio Proffesiynol a Gweini Bwyd Lefel 1 (Cwrs Coleg)

  • Campws Pibwrlwyd
1 flwyddyn

Sianelwch eich brwdfrydedd am fwyd i flwyddyn werth chweil o dwf personol a datblygiad sgiliau. 

Mae’r cwrs ymarferol hwn yn ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr sydd am ddatblygu eu hyder a’u sgiliau cyfathrebu a byddwch hefyd yn dysgu’r sgiliau a’r technegau sydd eu hangen i ddechrau gyrfa yn y celfyddydau coginio neu letygarwch.   

Mae’r cwrs yn borth i mewn i un o’r diwydiannau sy’n tyfu gyflymaf yn lleol ac yn genedlaethol.

Mae mwyafrif y myfyrwyr yn defnyddio’r cwrs hwn fel cam ar y ffordd i raglen lefel dau mewn coginio proffesiynol a sgiliau bwyd a diod proffesiynol.

Mae dysgwyr eraill yn symud ymlaen i brentisiaeth neu gyflogaeth.

Bydd y cwrs yn darparu cyfleoedd i ddatblygu ystod o sgiliau a thechnegau personol, sy’n hanfodol ar gyfer perfformiad llwyddiannus mewn bywyd gwaith.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
1 flwyddyn

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Elfen ganolog o’r cwrs yw’r profiad cysylltiedig â gwaith. Disgwylir i bob dysgwr redeg y gwasanaeth yng Nghegin Sir Gâr, sef y bwyty hyfforddi ar y safle. Yma byddwch yn cael golwg realistig ar alwadau gweithio yn y diwydiant arlwyo mewn amgylchedd diogel a chefnogol. Bydd staff profiadol yn dysgu sgiliau coginio a gwasanaeth bwyd a diod i chi trwy arddangosiadau bywiog a sesiynau sgiliau ymarferol.  Mae’r profiad ymarferol yn y bwyty hyfforddi yn darparu digonedd o gyfle i roi’r sgiliau hyn ar waith. 

Ar y cwrs hwn byddwch yn ennill Diploma mewn Coginio Proffesiynol a Thystysgrif mewn Sgiliau Bwyd a Diod. Fel rhan o’r cwrs byddwch yn astudio amrywiaeth o unedau bwyty a chegin.  Mae’r unedau craidd yn canolbwyntio ar ddiogelwch bwyd, hylendid a gweithio’n effeithiol fel tîm.  Mae’r unedau y byddwch chi’n eu cwmpasu yn cynnwys:

  • Cyflwyniad i gyflogadwyedd yn y diwydiant arlwyo a lletygarwch
  • Diogelwch bwyd mewn arlwyo
  • Cyflwyniad i fwydydd iachach a deietau arbennig
  • Dulliau coginio; fel berwi, potsio a stemio, pobi, rhostio a grilio.
  • Gwasanaeth bar
  • Delio gyda thaliadau a bwciadau
  • Deall a chynllunio bwydlenni
  • Sgiliau diodydd poeth 
  • Sgiliau gwasanaeth bwyd a diod

Mae llythrennedd a rhifedd yn bwysig i bob myfyriwr. Bydd myfyrwyr nad oes ganddynt radd C neu uwch mewn mathemateg, Saesneg neu Gymraeg (iaith gyntaf) yn cael addysgu a chymorth ychwanegol i astudio naill ai TGAU neu Sgiliau Hanfodol yn dibynnu ar eu lefel gyfredol.

Cewch ddigon o gymorth wrth ddatblygu eich sgiliau gwasanaeth cwsmer a sgiliau a thechnegau cegin, a bydd eich profiadau ar y cwrs yn eich helpu i ddeall y llwybrau sy’n agored i chi yn y diwydiant. Bydd cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus yn eich galluogi i symud ymlaen i gyrsiau lefel uwch megis Lefel 2 mewn Coginio Proffesiynol a Sgiliau Gwasanaeth Bwyd a Diod, neu gall dysgwyr hefyd symud ymlaen i brentisiaeth. 

Asesir unedau drwy asesu gwaith ymarferol yn y gegin ac yn y bwyty wrth arsylwi gwaith ymarferol yng Nghegin Sir Gâr, a thrwy gwblhau profion gwybodaeth greiddiol ac aseiniadau ysgrifenedig yn llwyddiannus.

Mae’r cymhwyster hwn ar gael i’w asesu drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.

Bydd angen o leiaf tri TGAU graddau D i G arnoch i astudio’r cwrs hwn, geirdaon da a chyfweliad llwyddiannus. Bydd y rheiny heb gymwysterau ffurfiol yn cael eu hystyried yn dilyn cyfweliad, geirdaon a phrawf mynediad.

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.  Bydd angen i bob myfyriwr brynu cit y mae’n orfodol ei ddefnyddio yn ystod sesiynau ymarferol a gwasanaeth sy’n cynnwys dillad gwyn cegin ac iwnifformau blaen tŷ priodol. Gellir archebu’r rhain drwy’r adran arlwyo.

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.