Cwrs Coginio Cartref Uwch (Cyrsiau Byr a Dysgu Oedolion)
- Campws Pibwrlwyd
Gallai’r cwrs coginio cartref uwch yng Ngholeg Sir Gâr fod yn fan cychwyn ardderchog ar gyfer rhai â’u bryd ar fod yn ben-cogyddion, cogyddion cartref ymroddedig a rhai sy’n frwdfrydig ynghylch bwyd i ddod draw a mireinio eu sgiliau cegin.
Bydd y cwrs yn cynnig gwybodaeth arbenigol a chyngor gan ben-cogydd brwdfrydig ac ymrwymedig, technegau proffesiynol ac un neu ddwy gyfrinach o eiddo’r pen-cogydd ar hyd y ffordd. Bydd y cwrs yn dathlu’r cynnyrch tymhorol gorau oll sydd ar gael ar hyd a lled y byd, gan ddathlu goreuon y ddaear, tir a môr.
Manylion y cwrs
- Rhan amser
- Saesneg
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Cwrs coginio gyda’r nos yw hwn ar gyfer unrhyw un 16+ oed. Darperir y rhan fwyaf o’r cynhwysion, ffedog pen-cogydd wedi’i brandio a’r defnydd o gyllyll. Bydd amrywiol ddulliau coginio, bwtsiera, trin pysgod a sgiliau patisserie yn cael eu cyflwyno ym mhob sesiwn. Bydd y bwyd y byddwch yn ei goginio yn eiddo i chi i fynd ag ef a’i fwynhau gartref.
Bydd pob sesiwn yn canolbwyntio ar agweddau allweddol ar gynnyrch tymhorol, tarddiad a ffyrdd cost effeithiol o fwydo’r teulu.
Byddwn yn canolbwyntio ar gynaladwyedd ac yn canolbwyntio ar goginio trwyn i gynffon gan wneud y mwyaf o’r cynnyrch a ddefnyddiwn a’i barchu.
Gallai’r cwrs Coginio cartref uwch yng Ngholeg Sir Gâr fod yn fan cychwyn a bydd yn darparu sylfaen ragorol ar gyfer ysbrydoli pen-cogyddion y dyfodol, a’r cam nesaf fydd cofrestru yng Ngholeg Sir Gâr ar gwrs arlwyo llawn amser neu ran-amser.
Bydd y cwrs yn agor y drws i gyfleoedd yn y dyfodol yn y coleg gyda chyrsiau eraill yn cael eu cynnig megis addurno cacennau, patisserie, Bara Artisan a chyrsiau coginio feganaidd a llysieuol penodol.
Gall darlithwyr ddarparu cyngor arbenigol i ddysgwyr ynghylch cymwysterau galwedigaethol a seiliedig ar waith ac opsiynau dilyniant.
Arsylwi gwaith ymarferol, adborth ar seigiau a gynhyrchir yn ystod pob sesiwn.
Lefel 2 NCFE crefft greadigol coginio - bydd asesu yn digwydd yn ystod y cwrs.
Terfynau oedran 16+ oed. Does dim gofynion academaidd. Bydd rheolau iechyd a diogelwch a gyflwynir yn y sesiwn gyntaf yn berthnasol.
Cyfrifwyd costau ar gyfer y cwrs, sydd yn cynnwys y rhan fwyaf o gynnyrch bwyd, staff a ffedog wedi’i brandio. Band ffi I