Skip page header and navigation

Addurno Cacennau: Dyfarniad Lefel 2 NCFE Mewn Crefft Greadigol (Cyrsiau Byr a Dysgu Oedolion)

  • Campws Pibwrlwyd
13 wythnos - 3 awr yr wythnos

Oes diddordeb brwd gennych yn y crefftau creadigol?

Gall addurno cacennau fod yn hobi llawn hwyl ac i lawer o bobl, maen nhw’n cael pleser wrth bobi ac addurno cacennau i’w teulu a’u ffrindiau.

Bydd y cwrs hwn yn rhannu arbenigedd pobyddion ac addurnwyr profiadol a fydd yn cynnig anogaeth ynghyd ag arbenigedd o ran awgrymiadau a syniadau addurno.

Felly beth am fynd â’ch hobi i’r lefel nesaf drwy ddysgu’r sgiliau a’r technegau a fydd yn troi eich cacennau o rai cartref i rai proffesiynol.   

Nid yw hwn yn gwrs achrededig ond byddwch yn derbyn tystysgrif gwblhad coleg.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Rhan amser
Hyd y cwrs:
13 wythnos - 3 awr yr wythnos

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Elfen ganolog y cwrs yw:

  • Dysgu defnyddio deunyddiau, offer a chyfarpar i ddatblygu technegau crefft.
  • Datblygu syniadau crefft.
  • Creu, cyflwyno a gwerthuso eitemau cacennau addurnol terfynol.
  • Dysgu gorchuddio ac addurno cacennau gyda marsipán, pâst siwgr, eisin caled a phâst blodau.
  • Datblygu eich sgiliau peipio, modelu a gwneud blodau sylfaenol.
  • Datblygu technegau addurnol gan gynnwys crychwaith, modelu, rhediadau, ysgrifennu a syniadau addurnol am gacennau cwpan ar gyfer amrywiaeth o achlysuron.

£205 Band H, Efallai y bydd angen cyfarpar ychwanegol wrth i’r cwrs fynd yn ei flaen a bydd angen i’r dysgwr ei brynu. 

Does dim angen profiad blaenorol.