Skip page header and navigation

Pobi Bara Artisan (Cyrsiau Byr a Dysgu Oedolion)

  • Campws Pibwrlwyd
8 wythnos, cwrs nos o 5.00 – 9:00 pm - derbynnir myfyrwyr ym mis Medi, Ionawr a Mawrth

Gallai’r cwrs pobi bara artisan fod yn fan cychwyn ardderchog ar gyfer pobyddion uchelgeisiol, cogyddion cartref ymroddedig a selogion bwyd i ddod draw a dathlu’r brwdfrydedd sydd ei angen er mwyn pobi’r dorth orau bosibl a chynnyrch burum arall.    

Bydd y cwrs yn cynnig gwybodaeth arbenigol a chyngor gan ben-cogydd brwdfrydig ac ymrwymedig, technegau proffesiynol ac un neu ddwy gyfrinach o eiddo’r pen-cogydd ar hyd y ffordd. Bydd y cwrs yn dathlu’r ryseitiau gorau oll, technegau pobi modern a chlasurol a ddefnyddir mewn ceginau proffesiynol a phoptai heddiw.

Ar ddiwedd y cwrs coginio byddwch yn ennill tystysgrif Uned Pobi Agored Cymru.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Rhan amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
8 wythnos, cwrs nos o 5.00 – 9:00 pm - derbynnir myfyrwyr ym mis Medi, Ionawr a Mawrth

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Cwrs coginio gyda’r nos yw hwn ar gyfer unrhyw un 16+ oed.
Darperir yr holl gynhwysion, ffedog pen-cogydd wedi’i brandio a’r defnydd o gyllyll. Caiff amrywiol ddulliau coginio a sgiliau cegin eu cyflwyno ym mhob sesiwn.

Byddwch yn coginio o leiaf 2 fath o fara’n wythnosol.

Bydd pob sesiwn yn canolbwyntio ar agweddau allweddol ar bobi.  Gan ddechrau gyda’r hanfodion, ein nod yw archwilio’r amrywiaethau o fara melys a sawrus sydd ar gael yn fyd-eang. 

Rhoddir sylw ac ystyriaeth arbennig i gynnyrch lleol, tymhorol.

Gallai’r cwrs bara artisan fod yn fan cychwyn a bydd yn darparu sylfaen ragorol ar gyfer ysbrydoli pen-cogyddion a phobwyr y dyfodol, a’r cam nesaf fydd cofrestru yng Ngholeg Sir Gâr ar gwrs arlwyo llawn amser neu ran-amser.

Bydd y cwrs yn agor y drws i gyfleoedd yn y dyfodol yn y coleg gyda chyrsiau eraill yn cael eu cynnig megis coginio Blas ar Gymru, addurno cacennau, patisserie a chwrs siocledwr. 

Gall darlithwyr ddarparu cyngor arbenigol i ddysgwyr ynghylch cymwysterau galwedigaethol a seiliedig ar waith ac opsiynau dilyniant i’r diwydiant.

Asesiad ymarferol gyda chymorth ryseitiau.
Bydd angen i fyfyrwyr ddarparu tystiolaeth o bobi amrywiaeth o fara ar gyfer eu portffolio.
Ceir Tystysgrif Agored Cymru mewn pobi bara ar gwblhau.

  • Terfynau oedran 16+ oed. 
  • Does dim gofynion academaidd.
  • Bydd rheolau iechyd a diogelwch a gyflwynir yn y sesiwn gyntaf yn berthnasol.

Cyfrifwyd costau ar gyfer y cwrs, a oedd yn cynnwys rhai o gynhwysion y cynnyrch a ffedog wedi’i brandio ar gyfer pob myfyriwr.
 

Band Ffi’r cwrs G.