Skip page header and navigation

Coginio Proffesiynol a Sgiliau Gwasanaeth Bwyd a Diod Lefel 3 (Cwrs Coleg)

  • Campws Pibwrlwyd
1 flwyddyn

Sianelwch eich brwdfrydedd am fwyd i flwyddyn werth chweil o ddatblygiad sgiliau a chreadigrwydd coginiol.  

Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr sydd am ddatblygu eu sgiliau coginiol, bwyd a diod a goruchwylio gwasanaeth ymhellach. Mae’n llwybr i un o’r diwydiannau sy’n tyfu gyflymaf yn lleol ac yn genedlaethol. Mae mwyafrif y myfyrwyr yn defnyddio’r cwrs hwn i symud ymlaen yn uniongyrchol i gyflogaeth. Byddwch yn paratoi ystod eang o seigiau a fydd yn caniatáu i chi ddatblygu sgiliau cyllyll, a gwybodaeth am amrywiaeth o ddulliau coginio a thechnegau paratoi bwyd.  Byddwch hefyd yn dysgu sut i baratoi a gweini diodydd ac yn datblygu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer amgylchedd gwasanaeth bwyd proffesiynol.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Llawn amser
Hyd y cwrs:
1 flwyddyn

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Elfen ganolog o’r cwrs yw’r profiad cysylltiedig â gwaith. Disgwylir i ddysgwyr lefel tri arwain y gwaith o redeg y gwasanaeth yng Nghegin Sir Gâr, sef y bwyty hyfforddi ar y safle. Yma byddwch yn cael golwg realistig ar ofynion gweithio yn y diwydiant bwytai mewn amgylchedd ysgogol a chefnogol. 

Bydd staff profiadol yn dysgu sgiliau celfyddyd coginio a gwasanaeth bwyd a diod uwch i chi trwy arddangosiadau bywiog a sesiynau sgiliau cegin ymarferol.  Mae’r profiad ymarferol yn y bwyty hyfforddi yn darparu digonedd o gyfle i roi sgiliau ar waith mewn amgylchedd gwaith.  Dyma rai o’r unedau gorfodol y byddwch chi’n eu cwmpasu:

  • Egwyddorion goruchwylio gwasanaethau bwyd a diod
  • Egwyddorion goruchwylio diogelwch bwyd ar gyfer arlwyo 
  • Egwyddorion hyrwyddo gwasanaethau a chynhyrchion bwyd a diod
  • Deddfwriaeth mewn gwasanaeth bwyd a diod.

Byddwch yn datblygu eich sgiliau arwain a gwaith tîm a gwasanaeth cwsmer ynghyd â sgiliau cegin mwy datblygedig mewn amgylchedd gwaith realistig. Bydd eich profiadau ar y cwrs yn eich helpu i ddeall y diwydiant lletygarwch a’r ystod eang o lwybrau posibl oddi fewn iddo. Bydd cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus yn eich galluogi i symud ymlaen i gyflogaeth yn y diwydiant.

Asesir unedau trwy arsylwi ar dasgau ymarferol a gofyn cwestiynau sy’n seiliedig ar wybodaeth a all fod yn ysgrifenedig neu ar lwyfannau cyfryngau.

Mae’r cymhwyster hwn ar gael i’w asesu drwy gyfrwng y Saesneg yn unig.

Bydd angen i chi fod wedi cwblhau cymhwyster lefel dau mewn coginio proffesiynol a gwasanaeth bwyd a diod yn llwyddiannus. Rhoddir ystyriaeth yn ogystal i ddysgwyr sydd â phrofiad blaenorol perthnasol yn y diwydiant. 

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru. Bydd angen i bob myfyriwr brynu cit y mae’n orfodol ei ddefnyddio yn ystod sesiynau ymarferol a gwasanaeth sy’n cynnwys dillad gwyn cegin ac iwnifformau blaen tŷ priodol. Gellir archebu’r rhain drwy’r adran arlwyo.

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.