Skip page header and navigation

Coginio Proffesiynol a Gweini Bwyd Lefel 2 (Cwrs Coleg)

  • Campws Pibwrlwyd
1 flwyddyn

Sianelwch eich brwdfrydedd am fwyd i flwyddyn werth chweil o ddatblygiad sgiliau a chreadigrwydd coginiol.

Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr sydd am ddatblygu eu sgiliau coginio a’u sgiliau bwyd a diod ymhellach. Mae’n borth ardderchog i mewn i un o’r diwydiannau sy’n tyfu gyflymaf yn lleol ac yn genedlaethol.

Mae mwyafrif y myfyrwyr yn defnyddio’r cwrs hwn fel dilyniant i raglen lefel tri mewn coginio proffesiynol, a sgiliau gwasanaeth bwyd a diod neu i mewn i brentisiaeth. 

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Llawn amser
Iaith:
  • Cymysg
Hyd y cwrs:
1 flwyddyn

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Elfen ganolog o’r cwrs yw’r profiad cysylltiedig â gwaith. Mae pob dysgwr yn rhedeg y gwasanaeth yng Nghegin Sir Gâr, sef y bwyty hyfforddi ar y safle. Yma byddwch yn cael golwg realistig ar alwadau gweithio yn y diwydiant arlwyo mewn amgylchedd diogel a chefnogol.

Bydd staff profiadol yn dysgu sgiliau coginio a gwasanaeth bwyd a diod i chi trwy arddangosiadau bywiog a sesiynau sgiliau ymarferol.  Mae’r profiad ymarferol yn y bwyty hyfforddi yn darparu digonedd o gyfle i roi’r sgiliau hyn ar waith. 

Byddwch yn astudio amrywiaeth o unedau ond mae’r unedau craidd yn canolbwyntio ar weithio’n effeithiol fel tîm a diogelwch bwyd a hylendid. Mae unedau eraill yn cwmpasu pynciau megis paratoi seigiau cig, pysgod, dofednod a llysiau, gwneud isgellau, cawliau a sawsiau, pobi bara a chacennau, sbwnjis a theisennau crwst bach a phwdinau, gwneud coctels, paratoi diodydd poeth, gwasanaeth gwin, bwrdd gweini symudol Gueridon, gwasanaeth arian a gweini cwsmeriaid.  

Bydd aseiniadau’n cynnwys ymchwiliadau i gwmpas a phwysigrwydd y diwydiant arlwyo a lletygarwch i economi’r DU, iechyd a diogelwch yn y diwydiant, cynllunio bwydlenni a chostiadau bwyd. Asesir gwybodaeth uned trwy bapurau prawf ac arsylwadau ymarferol ar gyfer paratoi, cyflwyno a gweini bwyd a diodydd wrth y bwrdd.

Mae llythrennedd a rhifedd yn bwysig i bob myfyriwr. Bydd myfyrwyr nad oes ganddynt radd C neu uwch mewn mathemateg, Saesneg neu Gymraeg (iaith gyntaf) yn cael addysgu a chymorth ychwanegol i astudio naill ai TGAU neu Sgiliau Hanfodol yn dibynnu ar raddau TGAU. 

Cewch ddigon o gymorth wrth ddatblygu eich sgiliau gweithio mewn tîm a gwasanaeth cwsmer gydag amgylchedd gwaith realistig a bydd eich profiadau ar y cwrs yn eich helpu i ddeall y diwydiant lletygarwch a’ch llwybrau posibl oddi fewn iddo. Bydd cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus yn eich galluogi i symud ymlaen i gyrsiau lefel uwch megis y rhaglen Diploma Lefel 3 mewn Coginio Proffesiynol a Sgiliau Bwyd a Diod, prentisiaeth neu gyflogaeth sy’n gysylltiedig â’r diwydiant. 

Asesir unedau trwy arsylwi ar dasgau ymarferol a gofyn cwestiynau sy’n seiliedig ar wybodaeth a all fod yn ysgrifenedig neu ar lwyfannau cyfryngau.  

Mae’r cymhwyster hwn ar gael i’w asesu drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.

Bydd angen i chi fod wedi cwblhau cymhwyster lefel un mewn coginio proffesiynol a sgiliau gwasanaeth bwyd a diod yn llwyddiannus. Rhoddir ystyriaeth yn ogystal i ddysgwyr sydd â phrofiad blaenorol perthnasol yn y diwydiant.

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru. 

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.