Goruchwylio Gweini bwyd a diod a Diploma mewn Coginio Proffesiynol Paratoi a Choginio Lefel 3 (Cwrs Coleg, Lefel 3)
- Campws Aberystwyth
- Campws Aberteifi
Mae coginio proffesiynol a lletygarwch yn yrfa heriol ond gwerth chweil gyda phosibiliadau gyrfaol sy’n ymestyn cyn belled â gweithio mewn bwytai, gwestai, sbâu a hyd yn oed llongau gwyliau.
Ble bynnag y gweinir bwyd o ansawdd, mae angen rhywun i’w greu a’i weini.
Ymunwch â ni a sianelwch eich brwdfrydedd am fwyd i flwyddyn werth chweil o ddatblygiad sgiliau a chreadigrwydd coginiol.
Mae’r rhaglen lefel tri yn cynnig llwybr i ymgeiswyr i gyflogaeth ac addysg uwch ar lefel prifysgol.
Byddwch yn paratoi, coginio a gorffennu ystod o seigiau cymhleth ac uwch. Byddwch hefyd yn datblygu eich sgiliau goruchwylio a sgiliau a thechnegau gwasanaeth bwyd uwch sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth yn y lleoliadau lletygarwch a’r sefydliadau mwyaf mawreddog yn y byd.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Elfen ganolog o’r cwrs yw’r profiad sy’n gysylltiedig â gwaith. Mae dysgwyr lefel tri yn arwain wrth redeg y gwasanaeth yn y bwyty hyfforddi ar y safle. Yma byddwch yn cael golwg realistig ar ofynion gweithio yn y diwydiant bwytai mewn amgylchedd ysgogol a chefnogol.
Bydd staff profiadol yn dysgu sgiliau coginio a gweini bwyd uwch i chi trwy arddangosiadau bywiog a sesiynau sgiliau ymarferol. Mae’r profiad ymarferol yn y bwyty hyfforddi yn darparu digonedd o gyfle i roi sgiliau ar waith mewn amgylchedd gwaith.
Mae’r rhaglen coginio proffesiynol yn rhoi cyfle i ymgeiswyr arbenigo mewn amrywiol unedau, o gig, pysgod, pysgod cregyn, dofednod a helgig, i grefft siwgr, pwdinau poeth a chacennau a sbwjis, i gynllunio, creu a chyflwyno seigiau cymhleth.
Mae’r rhaglen gwasanaeth bwyd yn caniatáu i ddysgwyr ennill mwy o wybodaeth am win, coctels a gwaith barista, yn ogystal â datblygu sgiliau goruchwylio sydd eu hangen ar gyfer rôl reoli o fewn y diwydiant gwasanaeth bwyd. Hefyd, cynigir cyrsiau allanol ar win, diogelwch bwyd a thrwyddedau personol.
Byddwch yn datblygu eich sgiliau arwain a gwaith tîm a gwasanaeth cwsmer ynghyd â sgiliau cegin mwy datblygedig mewn amgylchedd gwaith realistig. Bydd eich profiadau ar y cwrs yn eich helpu i ddeall y diwydiant lletygarwch a’r ystod eang o lwybrau posibl oddi fewn iddo.
Bydd cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus yn eich galluogi i symud ymlaen i gyflogaeth yn y diwydiant neu ymlaen i addysg uwch ar gyfer graddau lletygarwch.
Asesir unedau coginio proffesiynol trwy arsylwi ar dasgau ymarferol a gofyn cwestiynau sy’n seiliedig ar wybodaeth a all fod yn ysgrifenedig neu ar lwyfannau digidol. Asesir y Gwasanaeth Bwyd gan gymysgedd o aseiniadau ysgrifenedig, profion ysgrifenedig ac arholiad ymarferol, mewn amgylchedd gwaith go iawn a hefyd arholiadau gosodedig.
Asesir goruchwylio ac arwain lletygarwch trwy gymysgedd o aseiniadau ysgrifenedig, asesiadau ymarferol a thystiolaeth go iawn yn y gwaith.
Cwblhau cymhwyster lefel dau mewn coginio proffesiynol yn llwyddiannus. Rhoddir ystyriaeth yn ogystal i ddysgwyr sydd â phrofiad blaenorol perthnasol yn y diwydiant.
Bydd pob dysgwr yn dilyn Llwybr Sgiliau lle byddant yn datblygu eu sgiliau llythrennedd a rhifedd ar gyfer cyflogaeth. Bydd myfyrwyr nad ydynt hyd yma wedi cael y graddau TGAU angenrheidiol ar C neu uwch yn cael addysgu a chymorth ychwanegol i astudio ar gyfer naill ai TGAU neu Gymwysterau Sgiliau Hanfodol yn dibynnu ar raddau TGAU blaenorol.
Bydd rhaid prynu iwnifform lawn sy’n cadw at reoliadau diogelwch bwyd a chod gwisg y coleg, gwerslyfr a set o gyllyll. Gellir prynu’r rhain trwy ein cyflenwr enwebedig, neu gellir derbyn iwnifform a chyfarpar a brynwyd yn flaenorol gyda chaniatâd tiwtor y cwrs. Mae gwibdeithiau addysgol gartref a thramor hefyd yn cael eu cynnig i ddysgwyr ar y cwrs hwn. Gellir cynnig profiad gwaith heb unrhyw gost ychwanegol i’r dysgwr.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.