Skip page header and navigation

HND mewn Peirianneg Drydanol / Electronig (Cwrs Coleg)

  • Campws Y Graig
2 Flynedd yn Llawn Amser neu 3 blynedd yn Rhan-amser

Mae astudio peirianneg drydanol yn cynnig ystod eang o gyfleoedd a gyrfa helaeth ac yn darparu sylfaen gadarn mewn mathemateg, ffiseg ac egwyddorion peirianneg.  

Mae’r pwyslais trwy gydol y cwrs ar ddysgu sy’n canolbwyntio ar y myfyriwr,  sy’n dasg gyfeiriedig, gyda digon o gyfle ar gyfer gwaith aseiniad ymarferol. Lle bynnag y bo hynny’n bosibl, bydd prosiectau, a wneir yn yr ail flwyddyn, yn cael eu seilio ar ddiwydiant gyda goruchwylwyr diwydiannol yn cymryd rhan lawn ynddynt. Mae hwn yn gwrs rhan-amser tair blynedd, sefydledig, sy’n darparu sylfaen gadarn ym mhob agwedd ar beirianneg drydanol ac electronig ac mae’n cyfuno’r meysydd pwnc caledwedd a meddalwedd y mae’r diwydiant yn galw amdanynt.

Mae yna un dyfarniad canolradd, sef yr HNC. Gellir cyflawni’r dyfarniad hwn ar ôl dwy flynedd o astudiaeth ran-amser a gellir ei uwchraddio i HND ar ôl blwyddyn arall o astudiaeth ran-amser. Fel rheol caiff myfyrwyr eu cofrestru ar yr HNC yn gyntaf ac mae ganddynt gyfle i ddychwelyd i uwchraddio i’r HND. Hefyd gellir cyflawni’r HND mewn dwy flynedd wrth astudio’n llawn amser. Ar ôl ennill yr HND, caiff myfyrwyr wedyn y cyfle i uwchraddio i radd anrhydedd lawn gyda dwy flynedd bellach o astudiaeth ran-amser. 

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Llawn amser
  • Rhan amser
Hyd y cwrs:
2 Flynedd yn Llawn Amser neu 3 blynedd yn Rhan-amser

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae gan y dyfarniad hwn y nodau addysgol cyffredinol canlynol:

  • a) Datblygu lefel eang o ddealltwriaeth o egwyddorion peirianneg drydanol ac electronig, mathemateg a rhaglennu.
  • b) Datblygu’r gallu i gymhwyso’r wybodaeth a’r sgiliau a enillwyd i ddatrys ystod eang o broblemau peirianegol.
  • c) Datblygu’r gallu i gymathu a chyfathrebu gwybodaeth mewn amrywiaeth o ffyrdd, gan gynnwys TGCh.
  • d) Paratoi myfyriwr ar gyfer byd gwaith neu i wella ei ragolygon gyrfa o fewn gwaith presennol trwy ddatblygu ystod eang o sgiliau ymarferol, personol a throsglwyddadwy.
  • e) Gwneud y myfyriwr yn ymwybodol o gyfrifoldebau sy’n gysylltiedig â materion iechyd a diogelwch, busnes, rheolaeth, amgylcheddol a chynaladwyedd ar lefel eang.

Lefel 4: Egwyddorion Trydanol ac Electronig, Mathemateg Peirianneg, Electroneg I, Rheolyddion Rhesymeg Rhaglenadwy, Cyflwyniad i Raglennu C a Systemau wedi’u Mewnblannu, Offeryniaeth a Systemau Awtomatiaeth Integredig, Prosiect Peirianneg Drydanol ac Electronig HNC.

Lefel 5: Electroneg II, Mathemateg Peirianneg Bellach, Egwyddorion Trydanol, Dulliau ac Efelychu, Rheoli ac Offeryniaeth, Ffurfweddiad a Rhaglennu Systemau wedi’u Mewnblannu, Signalau a Chyfathrebu Digidol, Pŵer a Pheiriannau, Systemau Offeryniaeth Rhithwir a Systemau Rheoli, Systemau Rhwydweithio ar gyfer Peirianwyr, Peirianneg Rheoli.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn gallu cyflawni dyletswyddau technegol mewn swyddi sy’n gofyn am ddealltwriaeth fanwl o beirianneg drydanol ac electronig. Dylent fod yn gallu dylunio, datblygu, gweithgynhyrchu, cynnal a rheoli cymwysiadau o dechnoleg gyfredol a datblygol ar lefel uchel. Byddant yn barod i ymarfer fel peirianwyr corfforedig a hefyd bydd ganddynt y wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer parhau mewn addysg.

Arholiad a hyd at ddau ddarn o waith cwrs ar gyfer modiwlau nad ydynt yn brosiectau. Cyflwyniad llafar ac adroddiadau prosiect ar gyfer y modiwl prosiect.

Mae’r cymhwyster hwn ar gael i’w asesu drwy gyfrwng y Saesneg yn unig.

Mynediad i flwyddyn 1: Diploma Cenedlaethol Lefel 3 mewn Peirianneg Drydanol ac Electronig neu debyg neu Safon Uwch mewn 2 bwnc addas (e.e. mathemateg, gwyddoniaeth, cyfrifiadura) gradd C neu uwch.  TGAU mathemateg, Saesneg ac un pwnc gwyddoniaeth gradd C neu uwch.

Mynediad uniongyrchol i flwyddyn 3 rhan-amser neu flwyddyn 2 llawn amser - HNC Peirianneg Drydanol ac Electronig.

Mae ffioedd Addysg Uwch yn gymwys a chaiff unrhyw gostau ychwanegol eu pennu’n flynyddol gan y coleg. Uwchraddio i HND o HNC ar gyfer y flwyddyn academaidd 2023-24: £2,196. Yn ogystal bydd gofyn i’r dysgwr ddarparu ei ddeunydd ysgrifennu ei hun a chyfarpar dosbarth sylfaenol sy’n briodol i’w gwrs (e.e. pennau a chyfrifiannell).