Skip page header and navigation

Ffabrigo a Weldio Lefel 3 (Cwrs Coleg)

  • Campws Y Graig
1 neu 2 Flynedd yn dibynnu ar y dull astudio

Mae weldio’n broses hynod ddiddorol a hanfodol sy’n dod â chrefftwaith a manwl gywirdeb peirianneg ynghyd.

Mae’r rhaglen hon yn darparu datblygiad sgiliau weldio a ffabrigo ymarferol yn ogystal â gwybodaeth theori’n cwmpasu: weldio arc metel â llaw, weldio arc twngsten ag amddiffyniad nwy, weldio arc metel ag amddiffyniad nwy, weldio ocsi-asetylen, ffabrigo dur, torri ocsi-asetylen a lluniadu peirianegol.

Mae’r rhaglen ddysgu Ffabrigo a Weldio lefel 3 hon yn dilyn Diploma lefel 3 60 credyd City & Guilds a’r unedau Sgiliau Hanfodol Cymru ble bo’n berthnasol.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Llawn amser
Hyd y cwrs:
1 neu 2 Flynedd yn dibynnu ar y dull astudio

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

  • Bodloni gofynion Tystysgrif Dechnegol cynllun y Brentisiaeth Fodern
  • Cymhwyster a gydnabyddir gan y diwydiant
  • Mae’n profi cymhwysedd gallu technegol ac ymarferol

Mae’r cwrs hwn yn adeiladu ar yr unedau rhagarweiniol a gwmpaswyd ar y cwrs ffabrigo a weldio lefel dau, i ymestyn gwybodaeth bresennol a chyflwyno cysyniadau a meysydd pwnc newydd, gan gynnwys:  Egwyddorion ffabrigo a weldio, egwyddorion peirianneg, ac ymarfer a datblygu templedi a phatrymau.

Mae’r rhaglen hon yn cyfrannu at y Fframwaith Prentisiaeth Fodern, a gydnabyddir gan gyflogwyr.

Mae symud ymlaen o gwrs weldio yn agor byd o gyfleoedd i unigolion sydd â diddordeb mewn dilyn gyrfa mewn weldio a meysydd cysylltiedig.

Seilir yr asesu ar gwblhau ymarferion cymhwysedd ymarferol, aseiniadau seiliedig ar theori ac arholiadau a osodir yn allanol.

Mae’r cymhwyster hwn ar gael i’w asesu drwy gyfrwng y Saesneg yn unig.

Fel rheol byddai’r cwrs hwn yn dilyn ymlaen o gwblhau cwrs NVQ lefel 2 a’r cwrs City & Guilds 2850 lefel 2 yn llwyddiannus.

Mae’r holl gyrsiau peirianneg llawn amser yn cynnwys mecanyddol, trydanol/electronig/ffabrigo a weldio a cherbydau modur, yn cael eu hariannu’n llawn. 

Yn ogystal bydd gofyn i’r dysgwr ddarparu ei ddeunydd ysgrifennu ei hun a chyfarpar dosbarth sylfaenol sy’n briodol i’w gwrs (e.e. pennau a chyfrifiannell). 

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.