Peirianneg Fecanyddol Lefel 3 (Cwrs Coleg)
- Campws Y Graig
Mae Peirianneg Fecanyddol yn faes amrywiol a deinamig sy’n cwmpasu dylunio, dadansoddi, a gweithgynhyrchu systemau a dyfeisiau mecanyddol.
Mae’r rhaglen maes dysgu lefel 3 hon wedi’i chynllunio i roi i unigolion y sgiliau ymarferol, gwybodaeth a dealltwriaeth sy’n ofynnol i fod yn llwyddiannus mewn swyddi cyfredol ac ar gyfer dilyniant i gyflogaeth yn y dyfodol mewn ystod o alwedigaethau gweithgynhyrchu gan gynnwys: dylunio, cynllunio, drafftio, peiriannu, prosesu lled-ddargludyddion a pheirianneg cynhyrchu sy’n cwmpasu gofynion mecanyddol ac aml-sgiliau’r diwydiant peirianneg gweithgynhyrchu.
Mae’r rhaglen yn dilyn Diploma Estynedig Technegol EAL mewn Technoleg Peirianneg Fecanyddol gyda 149 credyd.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’n cadarnhau perthnasedd peirianneg i broblemau’r byd go iawn.
Bydd y Diploma Estynedig Technegol yn canolbwyntio ar gymhwyso gwybodaeth yn ymarferol a datblygu sgiliau’n ymwneud â gwaith sy’n ofynnol ar gyfer cyflogaeth o fewn y diwydiant peirianneg gweithgynhyrchu. Bydd yn darparu craidd cyffredin o astudiaethau gydag unedau arbenigol perthynol sy’n arwain at gyflogaeth, dilyniant proffesiynol neu academaidd i addysg uwch.
Mae rhaglen y cymhwyster hwn yn rhoi mynediad i unedau mwy arbenigol ac felly mae’n ehangu ac yn dyfnhau profiad y dysgwyr wrth baratoi ar gyfer byd gwaith.
Mae’n datblygu ystod o sgiliau a gwybodaeth, nodweddion personol ac agweddau sy’n hanfodol ar gyfer datblygiad gyrfaol a dilyniant o fewn y diwydiant peirianneg eang a sectorau cysylltiedig. Mae hefyd yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol i ddysgwyr yn ymwneud ag iechyd, diogelwch a lles, yr amgylchedd a chynaladwyedd gan ei fod yn dylanwadu ar y sector peirianneg gweithgynhyrchu ac yn effeithio arno.
Mae’n darparu’r cyfle i arbenigo mewn disgyblaeth yrfaol benodol, neu i ddewis rhaglen integredig o astudiaeth bellach.
Mae unedau’r flwyddyn gyntaf yn cynnwys Peirianneg ac Iechyd a Diogelwch Amgylcheddol, Egwyddorion Peirianneg Fecanyddol, Mathemateg Beirianegol, Proses Ddylunio Beirianegol a Chyfathrebu mewn Peirianneg.
Ym mlwyddyn dau, mae’r canlynol yn enghreifftiau o unedau a gwmpesir: Mathemateg Beirianegol Bellach, Gwyddor Beirianegol Bellach, Technegau CAD, Cynnal a Chadw Systemau Mecanyddol, CNC Uwch, PLCs, Egwyddorion Trydanol ac Electronig, Technegau Gweithgynhyrchu Uwch a Phrosiect.
Gall myfyrwyr sy’n cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus symud ymlaen i gyrsiau HND neu gyrsiau gradd mewn pynciau perthynol. Mae swyddi sy’n ymwneud yn uniongyrchol â pheirianneg gweithgynhyrchu yn cynnwys ymchwil dylunio a datblygu, gweithgynhyrchu, peirianneg cynhyrchu, cynllunio cynhyrchu a sicrhau ansawdd. Byddai gyrfaoedd eraill lle gallai’r sgiliau a ddatblygwyd drwy beirianneg gweithgynhyrchu fod yn ddefnyddiol gynnwys gwerthiannau technegol a marchnata, addysgu neu waith patent.
Asesir pob uned trwy arholiadau, profion, aseiniadau a gweithgareddau ymarferol.
Mae’r cymhwyster hwn ar gael i’w asesu drwy gyfrwng y Saesneg yn unig.
Fel rheol bydd angen i fyfyrwyr 16-19 oed gael o leiaf 4 TGAU graddau A* - C, gan gynnwys mathemateg a Saesneg/Cymraeg iaith gyntaf. Mae mynediad i fyfyrwyr hŷn sydd heb y cymwysterau ffurfiol hyn yn ôl disgresiwn y gyfadran.
Mae’r holl gyrsiau peirianneg llawn amser yn cynnwys mecanyddol, trydanol/electronig/ffabrigo a weldio a cherbydau modur, yn cael eu hariannu’n llawn.
Yn ogystal bydd gofyn i’r dysgwr ddarparu ei ddeunydd ysgrifennu ei hun a chyfarpar dosbarth sylfaenol sy’n briodol i’w gwrs (e.e. pennau a chyfrifiannell).
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.