Skip page header and navigation

Peirianneg Drydanol/Electronig Lefel 3 (Cwrs Coleg)

  • Campws Y Graig
2 Flynedd

Mae Peirianneg yn faes deinamig ac amrywiol sy’n cynnig nifer o gyfleoedd gyrfa cyffrous.

Mae’r cwrs trydanol ac electronig hwn wedi’i gynllunio i roi i unigolion y sgiliau ymarferol, y wybodaeth a’r ddealltwriaeth sy’n ofynnol i fod yn llwyddiannus yn eu cyflogaeth bresennol a symud ymlaen i gyfleoedd cyflogaeth yn y dyfodol mewn ystod o alwedigaethau cysylltiedig, gan gynnwys: dylunio, peirianneg cynnal a chadw, rheoli ac offeryniaeth, gwerthiannau technegol, addysgu, rheoli proses a rheoli PLC. 

Mae’r rhaglen yn dilyn Diploma Estynedig Technegol EAL mewn Technoleg Peirianneg Drydanol/Electronig gyda 149 credyd.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Llawn amser
Hyd y cwrs:
2 Flynedd

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

  • Mae’n darparu’r cyfle i arbenigo mewn disgyblaeth yrfaol benodol, neu i ddewis rhaglen integredig. 
  • Mae’n cadarnhau perthnasedd peirianneg i broblemau’r byd go iawn. 
  • Mae’n darparu craidd cyffredin o astudiaethau gydag unedau arbenigol perthynol sy’n arwain at gyflogaeth, dilyniant proffesiynol neu academaidd i addysg uwch. 
  • Mae’n datblygu’r ystod sgiliau, gwybodaeth, nodweddion personol ac agweddau sy’n hanfodol ar gyfer datblygiad gyrfaol a dilyniant o fewn y diwydiant peirianneg eang a sectorau cysylltiedig. 
  • Mae’n canolbwyntio ar gymhwyso gwybodaeth yn ymarferol a datblygu sgiliau’n ymwneud â gwaith sy’n ofynnol ar gyfer cyflogaeth o fewn y diwydiant peirianneg drydanol ac electronig. 

Yr unedau blwyddyn un yw Peirianneg ac Iechyd a Diogelwch Amgylcheddol, Egwyddorion Trydanol ac Electronig, Mathemateg Peirianneg, Rheolyddion Rhesymeg Rhaglenadwy (PLCs) ac Electroneg Ddigidol.

Ym mlwyddyn dau, mae’r canlynol yn enghreifftiau o unedau a gwmpesir: Mathemateg Bellach, Egwyddorion Trydanol ac Electronig Pellach, Peirianneg Systemau Analog, Electroneg Analog, Pŵer Trydanol, Prosiect, Gwyddor Beirianegol Bellach, Offeryniaeth Beirianegol a Chyfathrebu Peirianegol.

Gall myfyrwyr sy’n cwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus symud ymlaen i gyrsiau HND neu gyrsiau gradd mewn pynciau perthynol. Mae swyddi sy’n ymwneud yn uniongyrchol â pheirianneg drydanol ac electronig yn cynnwys ymchwil dylunio a datblygu, rheoli ac offeryniaeth, gwerthiannau technegol, addysgu, peirianneg cynnal a chadw, rheoli proses a rheoli Plc.

Asesir pob uned trwy arholiadau, profion, aseiniadau a gweithgareddau ymarferol.

Mae’r cymhwyster hwn ar gael i’w asesu drwy gyfrwng y Saesneg yn unig.

Pedwar TGAU graddau A* - C sy’n cynnwys mathemateg a Saesneg/Cymraeg iaith gyntaf. 

Cyfweliad llwyddiannus yn dangos cymhelliant ac ymrwymiad i’r rhaglen yn cynnwys prawf tueddfryd ac asesiad cychwynnol. 

Croesewir mynediad i fyfyrwyr hŷn sydd heb gymwysterau ffurfiol yn ôl disgresiwn y gyfadran. 

Mae’r holl gyrsiau peirianneg llawn amser yn cynnwys mecanyddol, trydanol/electronig/ffabrigo a weldio a cherbydau modur, yn cael eu hariannu’n llawn. 

Yn ogystal bydd gofyn i’r dysgwr ddarparu ei ddeunydd ysgrifennu ei hun a chyfarpar dosbarth sylfaenol sy’n briodol i’w gwrs (e.e. pennau a chyfrifiannell).

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.