Peirianneg Gyffredinol Lefel 2 (Cwrs Coleg)
- Campws Y Graig
Peirianneg yw’r grefft o droi dychymyg yn realiti, lle mae arloesedd a chreadigrwydd yn cwrdd ag egwyddorion gwyddonol.
Mae’r cwrs hwn yn cynnwys Tystysgrif lefel dau City & Guilds. Cynlluniwyd y cwrs hwn i fodloni ymgeiswyr sy’n dymuno symud ymlaen, ond sydd ddim yn barod ar gyfer rhaglen lefel tri ac sydd am ennill cymwyseddau peirianneg lefel dau mewn amgylchedd dan reolaeth.
Mae yna gyfle i ailsefyll TGAU Saesneg a mathemateg ar gael gyda’r cwrs hwn, gofynion hanfodol ar gyfer dilyniant i gyrsiau peirianneg lefel tri.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r rhaglen hon yn galluogi myfyrwyr i ddarparu tystiolaeth eu bod yn gallu cyflawni swydd benodol neu sgil. Mae’n darparu sylfaen dda gyda hyblygrwydd i ddiwallu arferion peirianegol cyfredol a rhai’r dyfodol hefyd
Cynlluniwyd y rhaglen i gefnogi ymgeiswyr sydd am ennill cymwyseddau peirianneg mewn amgylchedd gwarchodol a rheoledig.
Mae’r llwybr dilyniant i brentisiaeth sylfaen a / neu EAL lefel 3. Hefyd anogir ymgeiswyr i ailsefyll TGAU mathemateg, Saesneg a gwyddoniaeth ble y bo’n briodol.
Mae’r rhaglen yn cynnwys cwmpasu Tystysgrif L2 City & Guilds ac ailsefyll TGAU Mathemateg/Saesneg fel y bo’n berthnasol.
Asesiad parhaus o waith cwrs ymarferol, datblygiad portffolio, aseiniadau a phrofion.
Mae’r cymhwyster hwn ar gael i’w asesu drwy gyfrwng y Saesneg yn unig.
Mae’r rhaglen yn darparu tystiolaeth eich bod yn gallu gwneud swydd benodol neu sgil hyd at safon lefel 2 a gall eich helpu i symud ymlaen i gyflogaeth neu i NVQ/EAL lefel uwch neu gymhwyster tebyg. Bydd yn datblygu dysgwyr sydd â sgiliau peirianneg eang ac fe fydd yn eu helpu i benderfynu ar arbenigedd peirianegol penodol (h.y. mecanyddol neu drydanol).
Y gofyniad mynediad ar gyfer y dyfarniad hwn yw o leiaf dau TGAU ar radd C a dau ar radd D. Dylai hyn gynnwys Mathemateg a Saesneg neu Gymraeg iaith gyntaf ar radd D o leiaf, ac mae derbyn yn amodol ar gyfweliad sy’n cynnwys prawf diagnostig.
Mae rhaid i ymgeiswyr ddangos y sgiliau sylfaenol sy’n ofynnol ar gyfer y cwrs hwn, ynghyd ag awydd brwd i ennill cymhwyster peirianneg.
Mae’r holl gyrsiau peirianneg llawn amser yn cynnwys mecanyddol, trydanol/electronig/ffabrigo a weldio a cherbydau modur, yn cael eu hariannu’n llawn.
Yn ogystal bydd gofyn i’r dysgwr ddarparu ei ddeunydd ysgrifennu ei hun a chyfarpar dosbarth sylfaenol sy’n briodol i’w gwrs (e.e. pennau a chyfrifiannell).
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.