Mynediad i Addysg Uwch - Celf a Dylunio (BSc)
- Campws Y Graig
Mae Peirianneg yn faes deinamig ac amrywiol sy’n cynnig nifer o gyfleoedd gyrfa cyffrous.
Bwriedir y cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr sy’n dymuno astudio’n rhan-amser ar gyfer gradd anrhydedd. Mae’r cwrs yn rhedeg dros gyfnod o dair blynedd (yn dilyn HNC). Mae gofyn bod myfyrwyr yn mynychu am un diwrnod yr wythnos ar hyd y flwyddyn academaidd. Mae’r cwrs yn arbennig o addas ar gyfer myfyrwyr hŷn sy’n dychwelyd i addysg ar ôl cyfnod i ffwrdd neu’r myfyrwyr hynny sydd wedi ennill dyfarniad HNC yn ddiweddar ac sy’n bwriadu symud ymlaen ymhellach.
Achredir y radd gan Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol (IMechE).
Mae’r dyfarniad ar gael hefyd fel gradd-brentisiaeth wedi’i hariannu’n llawn, sydd wedi’i datblygu ar y cyd â chyflogwyr i sicrhau ei bod yn bodloni gofynion cyfredol diwydiant ac yn cyd-fynd ag anghenion dilyniant gyrfaol. Bydd y rhaglen yn helpu prentisiaid i ddatblygu eu sgiliau proffesiynol a thechnegol trwy astudio’n gysylltiedig â dysgu yn y gweithle. Rhoddir ystyriaeth i brofiad a chymwysterau blaenorol er mwyn sicrhau eich bod yn cael mynediad i’r rhaglen ar y lefel gywir, boed hynny ar Lefel 4, 5, neu 6.
Manylion y cwrs
- Rhan amser
What you will learn
- Bydd y cwrs yn cadarnhau perthnasedd peirianneg i broblemau’r byd go iawn.
- Mae cynnwys y cwrs yn cyd-fynd ag anghenion diwydiant modern a chymdeithas yn gyffredinol.
- Mae’n ymgorffori iechyd a diogelwch, materion amgylcheddol a chynaladwyedd drwy gydol y radd.
- Gall dysgwyr ddatblygu dealltwriaeth o faterion megis dyluniad, dibynadwyedd a chynnal a chadw, ansawdd a gwerth cynnyrch, marchnata a diogelwch.
- Mae’n meithrin lefel uchel o hyfedredd technegol mewn prif faes peirianneg, gan gynnwys y gallu i fynd i’r afael ag amrywiaeth o broblemau ymarferol, waeth pa mor arbenigol.
- Mae’n datblygu dealltwriaeth o berthnasoedd gyda chleientiaid, cwsmeriaid a chydweithwyr, gan gynnwys goruchwylio staff, a’r gallu i weithio fel aelod o dîm peirianneg.
Enghraifft o strwythur y cwrs:
- Blwyddyn 1: Gwyddor Fecanyddol, Offeryniaeth a Rheoli, Dylunio Peirianegol, Mathemateg Beirianegol, Technoleg Awtomatiaeth.
- Blwyddyn 2: Thermohylifau, Technoleg Awtomatiaeth Uwch, Dylunio Peirianegol, Rheoli Peirianneg.
- Blwyddyn 3: Prosiect, Dulliau Ymchwil, CAD a Dadansoddi, Mecaneg Gymhwysol, Thermodynameg.
Bydd peirianwyr sydd angen cymwysterau ffurfiol sy’n gymesur â’u swydd bresennol neu sy’n chwilio am ddilyniant gyrfa yn gweld y cwrs hwn yn werthfawr iawn. Cyfleoedd ar gyfer statws Peiriannydd Corfforedig neu fynediad i gymwysterau uwch yn arwain at statws Peiriannydd Siartredig.
Bydd asesiad y cwrs hwn yn cynnwys cyfuniad o aseiniadau ac arholiadau.
HNC mewn Peirianneg Fecanyddol neu HNC mewn Peirianneg Gweithgynhyrchu. Rhoddir ystyriaeth hefyd i fyfyrwyr hŷn sy’n meddu ar gymhwyster cyfwerth â HNC a phrofiad diwydiannol perthnasol.
Mae ffioedd Addysg Uwch yn gymwys a chaiff unrhyw gostau ychwanegol eu pennu’n flynyddol gan y coleg. Ffioedd ar gyfer blwyddyn academaidd 2023-24: blwyddyn 1af £2,196, 2il Flwyddyn £2,097, 3edd Flwyddyn £2,013.
Hefyd, bydd angen i’r dysgwr ddarparu ei ddeunydd ysgrifennu ei hun a chyfarpar ystafell ddosbarth sylfaenol sy’n briodol i’w gwrs (e.e. pennau ysgrifennu a chyfrifiannell).