Skip page header and navigation

HNC Peirianneg Drydanol / Electronig (Cwrs Coleg)

  • Campws Y Graig
2 flynedd yn rhan-amser

Ydych chi’n barod i gymryd y cam nesaf yn eich gyrfa ym maes peirianneg? Mae ein cwrs Peirianneg Drydanol ac Electronig deinamig ac amrywiol yn cynnig porth i fyd o gyfleoedd gyrfa cyffrous. P’un a ydych wedi cwblhau cwrs peirianneg L3, Safon Uwch yn ddiweddar neu rydych yn weithiwr proffesiynol sydd am wella eich sgiliau, mae’r rhaglen ran-amser, sefydledig hon wedi’i chynllunio i ddarparu addysg gynhwysfawr ac ymarferol.

Prif Nodweddion ein Rhaglen Beirianneg:

  • Dull Myfyriwr-Ganolog: Profwch gwrs sy’n canolbwyntio arnoch chi! Mae ein methodoleg myfyriwr-ganolog yn sicrhau ymgysylltu a chyfrannu’n weithredol, gan wneud dysgu yn bleserus ac yn effeithiol.
  • Dysgu sy’n Canolbwyntio ar Dasgau: Plymiwch i ddysgu ymarferol sy’n canolbwyntio ar dasgau sy’n eich paratoi ar gyfer heriau’r byd go iawn. Mae ein pwyslais ar aseiniadau ymarferol yn sicrhau eich bod yn ennill y sgiliau sydd eu hangen i ragori yn y diwydiant.
  • Integreiddio â Diwydiant: Mae’r bont hon rhwng academia a diwydiant yn hanfodol ar gyfer pontio di-dor i’r byd proffesiynol.
  • Sylfaen Gadarn mewn Peirianneg Drydanol ac Electronig: Gan gwmpasu agweddau ar galedwedd a meddalwedd, mae ein cwricwlwm yn cyd-fynd â gofynion y diwydiant. Dewch i wybod am y technolegau diweddaraf a thueddiadau’r diwydiant er mwyn aros ar y blaen ym maes peirianneg sy’n esblygu’n barhaus.
  • Llwybr i Gorffori: Bydd graddedigion wedi’u paratoi’n dda ar gyfer ymarfer fel Peirianwyr Corfforedig, a bydd y wybodaeth a enillir yn sylfaen gadarn ar gyfer addysg uwch i lefel gradd.
    Ymunwch â ni ar y daith drawsnewidiol hon, lle mae theori yn cwrdd ag ymarfer, ac arloesi yw conglfaen llwyddiant. Taniwch eich brwdfrydedd dros beirianneg ac ewch ati i ddatgloi byd o bosibiliadau gyda’n rhaglen Peirianneg Drydanol ac Electronig!

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Rhan amser
Hyd y cwrs:
2 flynedd yn rhan-amser

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae gan y dyfarniad hwn y nodau addysgol cyffredinol canlynol:

  • a) Datblygu lefel briodol o ddealltwriaeth o egwyddorion peirianneg drydanol ac electronig, mathemateg a rhaglennu.
  • b) Datblygu’r gallu i gymhwyso’r wybodaeth a’r sgiliau a enillwyd i ddatrys problemau peirianegol.
  • c) Datblygu’r gallu i gymathu a chyfathrebu gwybodaeth mewn amrywiaeth o ffyrdd, gan gynnwys TGCh.
  • d) Paratoi myfyriwr ar gyfer byd gwaith neu i wella ei ragolygon gyrfa o fewn gwaith presennol trwy ddatblygu sgiliau ymarferol, personol a throsglwyddadwy.
  • e) Gwneud y myfyriwr yn ymwybodol o gyfrifoldebau sy’n gysylltiedig â materion iechyd a diogelwch, busnes, rheolaeth, amgylcheddol a chynaladwyedd ar lefel briodol.

Lefel 4: Egwyddorion Trydanol ac Electronig, Mathemateg Peirianneg, Electroneg I, Rheolyddion Rhesymeg Rhaglenadwy, Cyflwyniad i Raglennu C a Systemau wedi’u Mewnblannu, Offeryniaeth a Systemau Awtomatiaeth Integredig, Prosiect Peirianneg Drydanol ac Electronig HNC.

Lefel 5: Electroneg II, Mathemateg Peirianneg Bellach, Egwyddorion Trydanol, Dulliau ac Efelychu.

Bydd cwblhau HNC yn llwyddiannus yn cymhwyso myfyrwyr ar gyfer mynediad i gyrsiau HND/gradd mewn pynciau perthynol.  Mae gyrfaoedd sy’n uniongyrchol gysylltiedig â’r ddisgyblaeth hon yn cynnwys: Peirianneg Datblygu Trydanol ac Electronig; Peirianneg Dylunio; Peiriannydd Cynhyrchu (Gwerthiannau Technegol) a Thechnegwyr Dylunio gyda Chymorth Cyfrifiadur.  Caiff Peirianwyr Trydanol ac Electronig eu cyflogi gan y diwydiant gweithgynhyrchu; y diwydiannau gwasanaethu; y lluoedd arfog, sefydliadau ymchwil a’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Arholiad a hyd at ddau ddarn o waith cwrs ar gyfer modiwlau nad ydynt yn brosiectau. Cyflwyniad llafar ac adroddiadau prosiect ar gyfer y modiwl prosiect.

Diploma Cenedlaethol Lefel 3 mewn Peirianneg Drydanol ac Electronig neu debyg, neu Safon Uwch mewn 2 bwnc addas (e.e. mathemateg, gwyddoniaeth, cyfrifiadura) gradd C neu uwch.  TGAU mathemateg, Saesneg ac un pwnc gwyddoniaeth gradd C neu uwch.

Mae ffioedd addysg uwch yn gymwys a chaiff unrhyw gostau ychwanegol eu pennu’n flynyddol gan y coleg. Y ffioedd ar gyfer y flwyddyn academaidd 2023-24 yw: Blwyddyn 1af £2,196, 2il Flwyddyn £2,097.

Yn ogystal bydd gofyn i’r dysgwr ddarparu ei ddeunydd ysgrifennu ei hun a chyfarpar dosbarth sylfaenol sy’n briodol i’w gwrs (e.e. pennau a chyfrifiannell).