Skip page header and navigation

Prentisiaethau Peirianneg (Cwrs Prentisiaeth)

  • Campws Y Graig
Amrywio yn ôl Lefel

Mae gan y Brentisiaeth Beirianneg nifer o opsiynau, gan gynnwys, Peirianneg Drydanol ac Electronig, Peirianneg Fecanyddol, Peirianneg Cynnal a Chadw, Amlsgilio, Ystafell Offer, Dylunio, Technegol a Ffabrigo a Weldio.

Mae Prentisiaeth yn rhaglen dysgu seiliedig ar waith ar lefel tri lle mae’r dysgwr yn “ennill cyflog wrth ddysgu”. Mae’r rhaglen yn ddelfrydol ar gyfer gweithwyr cyflogedig sydd ag elfen o gyfrifoldeb yn rôl eu swydd. Bydd y Prentis yn gyflogedig ac yn derbyn o leiaf yr isafswm cyflog prentisiaeth, gan gael ei ryddhau am ddiwrnod i fynychu’r coleg.

Bydd ymgeiswyr di-waith yn cael eu cyfeirio at gyrsiau hyfforddiant addysg bellach i helpu i’w paratoi ar gyfer prentisiaeth, nes iddynt ddod o hyd i waith a chael cynnig lle fel prentis.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Rhan amser
Hyd y cwrs:
Amrywio yn ôl Lefel

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Caiff yr holl ddysgwyr eu cefnogi gan Ymgynghorydd Hyfforddi / Aseswr a fydd yn ymweld â’r gweithle yn rheolaidd i fonitro cynnydd tuag at gyflawni targedau.

Bydd yr Ymgynghorydd Hyfforddi / Aseswr yn cysylltu’n agos â’r cyflogwr a’r tîm addysgu i sicrhau bod cymwysterau yn cael eu cyflawni o fewn y graddfeydd amser cytunedig.

Bydd y prentis yn dilyn NVQ yn y gweithle a fydd yn cael ei asesu gan yr Ymgynghorydd Hyfforddi / Aseswr.

Bydd rhaid i ddysgwyr sy’n dilyn y brentisiaeth hon gyflawni fframwaith o gymwysterau a fydd yn cynnwys:

  • Diploma Estynedig NVQ Lefel 3 mewn Peirianneg (yn y gwaith)
  • Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Technolegau Peirianneg (yn y coleg)
  • Sgiliau Hanfodol Cymru Cymhwyso Rhif lefel 2*
  • Sgiliau Hanfodol Cymru Cyfathrebu lefel 2*
  • Sgiliau Hanfodol Cymru Llythrennedd Digidol lefel 2

* Mae cymwysterau procsi ar gael ar gyfer y rheiny sydd â gradd C neu uwch mewn TGAU Mathemateg a Saesneg.

Mae prentisiaid eisoes yn gyflogedig ond gallent symud ymlaen i HNC a gradd-brentisiaeth.

Caiff y rhaglen ei hasesu’n barhaol drwy waith cwrs, profion, aseiniadau, arsylwadau ymarferol a thystiolaeth yn y gwaith.

Rhaid i ymgeiswyr feddu ar o leiaf pedwar TGAU gradd C neu uwch sy’n cynnwys Mathemateg a Chymraeg Iaith Gyntaf neu Saesneg.

Mae rhaglenni prentisiaeth wedi’u hariannu’n llawn.