Prentisiaeth Sylfaen - Ffabrigo a Weldio (Cwrs Prentisiaeth)
- Campws Y Graig
Mae’r Brentisiaeth Sylfaen Peirianneg mewn Ffabrigo a Weldio. Mae’n rhaglen dysgu seiliedig ar waith ar lefel dau lle mae’r dysgwr yn “ennill cyflog wrth ddysgu”. Bydd y Prentis Sylfaen yn gyflogedig ac yn derbyn o leiaf yr isafswm cyflog prentisiaeth, gan gael ei ryddhau am ddiwrnod i fynychu’r coleg.
Manylion y cwrs
- Rhan amser
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Caiff yr holl ddysgwyr eu cefnogi gan Ymgynghorydd Hyfforddi / Aseswr a fydd yn ymweld â’r gweithle yn rheolaidd i fonitro cynnydd tuag at gyflawni targedau. Bydd yr Ymgynghorydd Hyfforddi / Aseswr yn cysylltu’n agos â’r cyflogwr a’r tîm addysgu i sicrhau bod cymwysterau yn cael eu cyflawni o fewn y graddfeydd amser cytunedig. Bydd y prentis yn dilyn NVQ yn y gweithle a fydd yn cael ei asesu gan yr Ymgynghorydd Hyfforddi / Aseswr.
Bydd rhaid i ddysgwyr sy’n dilyn y brentisiaeth hon gyflawni fframwaith o gymwysterau a fydd yn cynnwys:
- Diploma NVQ Lefel 2 mewn Ffabrigo a Weldio
- Diploma Lefel 2 mewn Peirianneg (yn y coleg)
- Sgiliau Hanfodol Cymru Cymhwyso Rhif lefel 1*
- Sgiliau Hanfodol Cymru Cyfathrebu lefel 1*
- Sgiliau Hanfodol Cymru Llythrennedd Digidol lefel 1
* Mae cymwysterau procsi ar gael ar gyfer y rheiny sydd â gradd C neu uwch mewn TGAU Mathemateg a Saesneg.
Mae Prentisiaid Sylfaen eisoes yn gyflogedig a gallent symud ymlaen i’r rhaglen brentisiaeth lefel 3.
Caiff y rhaglen ei hasesu’n barhaol drwy waith cwrs, profion, aseiniadau, arsylwadau ymarferol a thystiolaeth yn y gwaith.
Rhaid i ymgeiswyr feddu ar o leiaf pedwar TGAU gradd C neu uwch sy’n cynnwys Mathemateg a Chymraeg Iaith Gyntaf neu Saesneg.