Skip page header and navigation

Peirianneg Fecanyddol - Rhaglen Uwch Lefel 3 (Cwrs Coleg)

  • Campws Y Graig
1 Flwyddyn

Mae Peirianneg Fecanyddol yn faes amrywiol a deinamig sy’n cwmpasu dylunio, dadansoddi, a gweithgynhyrchu systemau a dyfeisiau mecanyddol. 

Cwrs blwyddyn llawn amser yn y coleg yw’r cwrs peirianneg fecanyddol hwn sy’n ymgorffori lleoliad gwaith o fewn y diwydiant.

Mae’r Diploma Atodol peirianneg 49 credyd lefel 3 EAL yn ffurfio blwyddyn gyntaf y Diploma Estynedig Technegol 149 credyd llawn (ar gyfer dilyniant llawn amser) neu’r Diploma Estynedig 99 credyd (ar gyfer dilyniant prentis, rhan-amser). Datblygir sgiliau ymarferol gan ddefnyddio diploma NVQ Perfformio Gweithrediadau Peirianneg (PEO) llawn 64 credyd lefel 2 EAL. Yn gynwysedig yn y rhaglen ddysgu uwch hon, ble bo’n berthnasol, mae unedau sgiliau hanfodol.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Llawn amser
Hyd y cwrs:
1 Flwyddyn

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

  • Bydd cwblhau’r rhaglen hon yn llwyddiannus yn sicrhau bod dysgwyr yn barod am waith ac wedi cael eu paratoi ar gyfer Prentisiaeth Fodern. 
  • Datblygu Sgiliau Ymarferol
  • Lleoliad gwaith gyda chyflogwr 
  • Ymweliadau ymwybyddiaeth ddiwydiannol  
  • Diploma Atodol Lefel 3 mewn Peirianneg Fecanyddol
  • NVQ Lefel 2 Perfformio Gweithrediadau Peirianneg
  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol  Cymhwyso Rhif, Cyfathrebu a Llythrennedd Digidol ble y bo’n berthnasol
  • Cyfleoedd lleoliad gwaith

Bydd cwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus yn darparu sgiliau sy’n galluogi dilyniant i brentisiaeth statws cyflogedig, neu’r Diploma Estynedig Technegol lefel tri llawn amser.


 

Asesir pob uned trwy arholiadau, profion, aseiniadau a gweithgareddau ymarferol.

Mae’r cymhwyster hwn ar gael i’w asesu drwy gyfrwng y Saesneg yn unig.

  • Pum TGAU graddau A* - C sy’n cynnwys mathemateg a Saesneg/Cymraeg iaith gyntaf.
  • Cyfweliad llwyddiannus sy’n dangos cymhelliant ac ymrwymiad i’r rhaglen. 
  • Prawf tueddfryd / asesiad cychwynnol.

Mae’r holl gyrsiau peirianneg llawn amser yn cynnwys mecanyddol, trydanol/electronig/ffabrigo a weldio a cherbydau modur, yn cael eu hariannu’n llawn. 

Yn ogystal bydd gofyn i’r dysgwr ddarparu ei ddeunydd ysgrifennu ei hun a chyfarpar dosbarth sylfaenol sy’n briodol i’w gwrs (e.e. pennau a chyfrifiannell). 

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.