Skip page header and navigation

Ffabrigo a Weldio Lefel 2 (Cwrs Coleg)

  • Campws Y Graig
1 i 2 flynedd yn dibynnu ar y dull astudio

Mae weldio’n broses hynod ddiddorol a hanfodol sy’n dod â chrefftwaith a manwl gywirdeb peirianneg ynghyd.

Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar sgiliau weldio a ffabrigo penodol ac mae’n cydnabod yr hyn mae person yn gallu gwneud yn y gwaith ar y lefel hon. Mae’n cynnwys y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i gyflawni’r swydd, y gallu i drefnu gwaith, nodi ac atal problemau.

Mae’r rhaglen ddysgu ffabrigo a weldio lefel 2 hon yn dilyn Diploma lefel 2 City & Guilds, unedau lefel 2 yn NVQ Perfformio Gweithrediadau Peirianneg (PEO) EAL ac unedau Sgiliau Hanfodol Cymru ble y bo’n berthnasol.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Llawn amser
Hyd y cwrs:
1 i 2 flynedd yn dibynnu ar y dull astudio

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

  • Cwrs galwedigaethol yw hwn gyda phwyslais ar ddatblygu sgiliau ar gyfer ceisiadau prentisiaeth
  • Seilir yr asesu ar bortffolio o dystiolaeth a gesglir trwy waith ymarferol ynghyd ag asesiadau ysgrifenedig/ar-lein.
  • Mae’r cwrs yn cynnig dilyniant o lefel un neu gymhwyster cyfwerth
  • Ar gwblhau’n llwyddiannus, mae’n darparu mynediad i lefel tri City & Guilds
  • Cymhwyster a gydnabyddir gan y diwydiant
  • Mae’n cynyddu rhagolygon gwaith
  • Mae’n bodloni gofynion cyfrannol y fframwaith prentisiaeth

Mae enghreifftiau o’r unedau a gwmpesir yn cynnwys;  Gweithio ym maes Peirianneg, Egwyddorion Technoleg Peirianneg, Egwyddorion Technoleg Ffabrigo a Weldio, Weldio drwy MIG, Proses Ffabrigo Plât Trwchus, Bar ac Adrannau.

Byddai cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus yn caniatáu i fyfyrwyr wneud cais am brentisiaeth peirianneg a/neu symud ymlaen i raglen Ffabrigo a Weldio lefel tri City & Guilds.

Asesiad parhaus o waith cwrs ymarferol a datblygu portffolio, a ategir gan brofion aml-ddewis ar-lein, papurau cwestiynau atebion byrion ac aseiniadau.

Mae’r cymhwyster hwn ar gael i’w asesu drwy gyfrwng y Saesneg yn unig.

O leiaf tri TGAU graddau A* - C, gan gynnwys mathemateg a Saesneg/Cymraeg iaith gyntaf ar radd C neu uwch.

Gall ymgeiswyr feddu ar dystysgrif weldio lefel un ac mae rhaid bod ganddynt ddiddordeb brwd mewn weldio neu ffabrigo. Mae cael eich derbyn ar y cwrs yn amodol ar gyfweliad byr.

Mae’r holl gyrsiau peirianneg llawn amser yn cynnwys mecanyddol, trydanol/electronig/ffabrigo a weldio a cherbydau modur, yn cael eu hariannu’n llawn. 

Yn ogystal bydd gofyn i’r dysgwr ddarparu ei ddeunydd ysgrifennu ei hun a chyfarpar dosbarth sylfaenol sy’n briodol i’w gwrs (e.e. pennau a chyfrifiannell).

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.