
Peirianneg Drydanol/Electronig - Rhaglen Uwch Lefel 3
- Campws Y Graig
Mae Peirianneg yn faes deinamig ac amrywiol sy’n cynnig nifer o gyfleoedd gyrfa cyffrous.
Mae’r rhaglen peirianneg drydanol ac electronig hon yn gwrs blwyddyn llawn amser yn y coleg sy’n cynnwys lleoliad gwaith o fewn y diwydiant.
Datblygir sgiliau ymarferol gan ddefnyddio diploma NVQ Perfformio Gweithrediadau Peirianneg (PEO) llawn 64 credyd lefel 2 EAL. Yn gynwysedig yn y rhaglen ddysgu uwch hon, ble bo’n berthnasol, mae unedau sgiliau hanfodol.
Mae diploma atodol mewn peirianneg 49 credyd lefel tri EAL yn ffurfio blwyddyn gyntaf y Diploma Estynedig Technegol 149 credyd llawn (ar gyfer dilyniant llawn amser) neu’r Diploma Estynedig 99 credyd (ar gyfer dilyniant prentis, rhan-amser).
Manylion y cwrs
- Llawn amser
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
- Bydd cwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus yn sicrhau bod dysgwyr yn barod am waith ac i symud ymlaen i’r Brentisiaeth Fodern, neu astudio pellach ar lefel tri ar Ddiploma Estynedig Technegol llawn amser
- Datblygu Sgiliau Ymarferol
- Lleoliad gwaith gyda chyflogwr
- Ymweliadau ymwybyddiaeth ddiwydiannol
- Diploma Atodol Peirianneg Drydanol/Electronig Lefel 3
- NVQ Lefel 2 Perfformio Gweithrediadau Peirianneg
- Cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymhwyso Rhif, Cyfathrebu a Llythrennedd Digidol ble y bo’n berthnasol
- Cyfleoedd lleoliad gwaith
Bydd cwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus yn darparu sgiliau sy’n galluogi dilyniant i brentisiaeth statws cyflogedig, neu’r Diploma Estynedig Technegol L3 llawn amser.
Asesir pob uned trwy arholiadau, profion, aseiniadau a gweithgareddau ymarferol.
Pum TGAU graddau A* - C sy’n cynnwys mathemateg a Saesneg/Cymraeg iaith gyntaf.
Cyfweliad llwyddiannus yn dangos cymhelliant ac ymrwymiad i’r rhaglen yn cynnwys prawf tueddfryd ac asesiad cychwynnol.
Mae’r holl gyrsiau peirianneg llawn amser yn cynnwys mecanyddol, trydanol/electronig/ffabrigo a weldio a cherbydau modur, yn cael eu hariannu’n llawn.
Yn ogystal bydd gofyn i’r dysgwr ddarparu ei ddeunydd ysgrifennu ei hun a chyfarpar dosbarth sylfaenol sy’n briodol i’w gwrs (e.e. pennau a chyfrifiannell).
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.