Skip page header and navigation

Diploma Lefel Mynediad mewn Sgiliau Diwydiant Lletygarwch

  • Campws Pibwrlwyd
1 flwyddyn

Sianelwch eich brwdfrydedd am fwyd a choginio i flwyddyn werth chweil o dwf personol a datblygiad sgiliau.  Byddwch yn dysgu’r sgiliau a’r technegau sydd eu hangen i roi cychwyn ar yrfa yn y diwydiant bwytai, arlwyo neu letygarwch. 

Mae’r cwrs hwn yn seiliedig ar ddysgu ymarferol gweithredol ac mae’n ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr sydd am ddatblygu eu hyder a’u sgiliau cyfathrebu.  Bydd y cwrs yn darparu cyfleoedd i chi ddatblygu ystod o sgiliau a thechnegau personol, sy’n hanfodol ar gyfer llwyddiant yn eich bywyd gwaith.

Mae’r cwrs yn borth i mewn i un o’r diwydiannau sy’n tyfu gyflymaf yn lleol ac yn genedlaethol. Mae’r mwyafrif o fyfyrwyr yn defnyddio’r cwrs hwn fel cam ar y ffordd i raglen Lefel 1 mewn Coginio Proffesiynol a Gwasanaeth Bwyd a Diod, ar gwblhau’r cwrs yn llwyddiannus a chyflawni’r presenoldeb gofynnol. 

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Llawn amser
Iaith:
  • Cymysg
Hyd y cwrs:
1 flwyddyn

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Elfen ganolog y cwrs yw’r profiad cysylltiedig â gwaith. Bydd yr holl ddysgwyr yn gweithio ochr yn ochr â’n staff i redeg y gwasanaeth yng Nghegin Sir Gâr, ein bwyty hyfforddi ar y safle. 

Yma byddwch yn cael golwg realistig ar alwadau gweithio yn y diwydiant arlwyo mewn amgylchedd diogel a chefnogol. Bydd staff tra phrofiadol yn dysgu sgiliau coginio a gwasanaeth bwyd i chi trwy arddangosiadau bywiog a sesiynau sgiliau ymarferol.  Mae’r profiad ymarferol yn y bwyty hyfforddi yn darparu digonedd o gyfleoedd i roi’r sgiliau hyn ar waith.

Ar gwrs Diploma Mynediad Lefel 3 mewn Sgiliau Diwydiant Lletygarwch byddwch yn astudio amrywiaeth o unedau bwyty a chegin. 

Mae’r unedau craidd yn canolbwyntio ar ddiogelwch bwyd, hylendid a gweithio’n effeithiol fel tîm. Bydd unedau eraill yn cwmpasu pynciau fel paratoi Geirfa a ddefnyddir mewn Lletygarwch ac Arlwyo, Nwyddau, Gosod a Chlirio Ystafell Fwyta, Gweini bwyd a diodydd.

Mae llythrennedd a rhifedd yn bwysig i bob myfyriwr. Bydd myfyrwyr nad oes ganddynt radd C neu uwch mewn Mathemateg, Saesneg neu Gymraeg (iaith gyntaf) yn cael addysgu a chymorth ychwanegol i astudio naill ai TGAU neu Sgiliau Hanfodol yn dibynnu ar eu lefel gyfredol

Cewch ddigon o gymorth wrth ddatblygu eich sgiliau gwasanaeth cwsmer a sgiliau a thechnegau cegin, a bydd eich profiadau ar y cwrs yn eich helpu i ddeall y llwybrau sy’n agored i chi yn y diwydiant. 

Diben y cymhwyster hwn yw datblygu’r sgiliau trosglwyddadwy, y priodoleddau a’r ymddygiadau sydd eu hangen ar ddysgwyr i symud ymlaen i astudiaeth bellach. Bydd cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus yn eich galluogi i symud ymlaen i gyrsiau lefel uwch megis y rhaglen Lefel 1 mewn Coginio Proffesiynol, sy’n cynnwys gwasanaeth bwyd a diod. 

Ar gwblhau’r Cwrs Lefel 1 yn llwyddiannus gall dysgwyr barhau i symud ymlaen drwy’r cymhwyster Lefel 2, os dangoswyd presenoldeb ac ymrwymiad

Asesir unedau trwy arsylwi gwaith ymarferol yn ein bwyty Cegin Sir Gâr ar y safle a chwblhau aseiniadau ysgrifenedig a phrofion cwestiynau gwybodaeth greiddiol yn llwyddiannus. 

Nid oes unrhyw ragofynion mynediad ar gyfer y cymhwyster hwn. Bydd angen i chi ddangos diddordeb brwd mewn arlwyo yn y cyfweliad. Asesir addasrwydd ar gyfer y cwrs yn y cyfweliad a thrwy gydol y cyfnod cynefino.

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol. Dylid prynu set lawn o ddillad ar gyfer y gegin a’r bwyty. Anfonir rhestr at fyfyrwyr Cyfarpar, set o gyllyll.

Gwahanol fathau o grantiau ar gael ar gais.