
Gosod, comisiynu a gwasanaethu pympiau gwres ffynhonnell ddaear
- Campws y Gelli Aur
- Caerdydd
Cwrs undydd yw hwn, yn dilyn y cwrs tridiau OFTEC OFT21-504A Gosod, Comisiynu a Gwasanaethu Pympiau Gwres Ffynhonnell Aer
Mae’r cwrs hwn ar gyfer technegwyr sy’n dymuno gosod, comisiynu a gwasanaethu Pympiau Gwres Ffynhonnell Ddaear (system nad yw’n oeri). Mae’r cwrs yn cwmpasu amrywiaeth o feysydd gan gynnwys iechyd a diogelwch, deddfwriaeth a gofynion rhanbarthol, ynysu trydanol diogel, ffactorau i’w hystyried cyn ac yn ystod gosod, gofynion llenwi a fflysio, gosod offer, hylifau trosglwyddo thermol, gosod a dewis maint cylched casglu, profion cadarnhau cadernid, gwiriadau a gweithdrefnau gweithredu, canfod diffygion gan nodi sefyllfaoedd anniogel, a gwasanaethu a chomisiynu ymarferol.
Gofynion mynediad isod
Manylion y cwrs
- Wyneb i Wyneb
Cyllid CDP ar Gael

Disgrifiad o'r Rhaglen
I fod yn gymwys, rhaid i chi fyw’n gyfreithlon yng Nghymru a bod yn 19 oed neu’n hŷn.
Yn ogystal, rhaid i chi fod:
● yn gyflogedig (gan gynnwys contractau Asiantaeth a Dim oriau) neu
● yn hunangyflogedig neu
● yn ofalwyr llawn amser (gan gynnwys di-dâl)
Does dim cap cyflogau o ran cyllid ar gyfer y cwrs hwn.
Cwblheir yr asesiad trwy gyfrwng papurau theori amlddewis, taflenni gwaith a asesir yn ymarferol ac asesiad ymarferol.
Cwmpesir amrywiol bynciau yn y cwrs hwn, gan gynnwys y canlynol:
- Gwybod pwrpas a nodweddion gweithredol unedau pympiau gwres ffynhonnell ddaear a chydrannau systemau pympiau gwres.
- Gwybod yr egwyddorion sylfaenol ar gyfer cynllunio cylched casglu pympiau gwres ffynhonnell ddaear ‘dolen gaeedig’ a maint cydrannau.
- Gwybod cynlluniau gosod cylchedau casglu ‘dolen agored’.
- Gwybod y gofynion i osod a phrofi systemau pympiau gwres ffynhonnell ddaear.
- Gwybod y gwaith paratoi ar gyfer gosod a phrofi pympiau gwres ffynhonnell ddaear
- Profi a rhoi gosodiad system ffynhonnell ddaear i weithio.
- Gwasanaethu a chynnal a chadw gosodiad system pympiau gwres ffynhonnell ddaear - cydrannau pympiau gwres.
- Gwasanaethu a chynnal a chadw gosodiad system pympiau gwres ffynnhonnell ddaear - cydrannau systemau gwresogi.
- Gwybod y gofynion ar gyfer trosglwyddo gosodiadau system.
- Gwybod y gweithdrefnau ar gyfer rhoi gwybod am osodiadau.
Cwrs undydd yw hwn, yn dilyn y cwrs tridiau OFTEC OFT21-504A Gosod, Comisiynu a Gwasanaethu Pympiau Gwres Ffynhonnell Aer
Mae’r cwrs hwn wedi’i fwriadu ar gyfer peirianwyr a thechnegwyr gwresogi a fydd yn gosod, comisiynu a gwasanaethu pympiau gwres ffynhonnell ddaear (cylchedau nad ydynt yn oeri).
Ar gwblhau’r cwrs hwn, gall unigolion symud ymlaen i’r cwrs Cynllunio systemau pympiau gwres.
Gofynion Mynediad
Cwrs undydd yw hwn, yn dilyn y cwrs tridiau OFTEC OFT21-504A Gosod, Comisiynu a Gwasanaethu Pympiau Gwres Ffynhonnell Aer
Mae’n rhaid i ymgeiswyr feddu ar gymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol a/neu gofrestriad mewn crefft sy’n gysylltiedig â gwaith gwresogi a/neu waith plymwr am gyfnod nid llai na dwy flynedd, a meddu ar dystysgrifau Rheoliadau Dŵr a Dŵr Poeth heb Fentiau cyfredol a dilys.
Neu
Rhaid meddu ar brofiad gosod gwresogi a/neu gynnal a chadw ‘yn y gwaith’ am gyfnod nid llai na dwy flynedd, a meddu ar dystysgrifau Rheoliadau Dŵr a Dŵr Poeth heb Fentiau cyfredol a dilys.
Cyllid CDP
Mae’r Cyfrif Dysgu Personol (PLA) yn rhaglen gan Lywodraeth Cymru sy’n caniatáu i unigolion cymwys gael mynediad i gyrsiau wedi’u hariannu’n llawn a chymwysterau proffesiynol.
Cyllid ReAct+
Os ydych wedi bod yn ddi-waith neu wedi eich diswyddo yn ystod y 12 mis diwethaf, gallai ReAct+ ddarparu’r cymorth sydd ei angen arnoch i ddychwelyd i’r gwaith yn gyflym. Gyda chyllid ar gyfer hyfforddiant sgiliau, datblygiad personol, a chymorth gyda chostau fel gofal plant a theithio, mae ReAct+ yn cynnig amrywiaeth o adnoddau i’ch helpu i oresgyn rhwystrau a dod o hyd i gyfleoedd newydd.