Gosod, Comisiynu a Gwasanaethu Pympiau Gwres Ffynhonnell Aer (Cyrsiau Byr a Dysgu Oedolion)
- Campws y Gelli Aur
- Caerdydd
Mae’r cwrs yn archwilio’r elfennau allweddol sy’n gysylltiedig â gosod pympiau gwres yn ogystal â chomisiynu, gwasanaethu a chynnal a chadw unedau pympiau gwres ffynhonnell aer. Bydd y cwrs yn cwmpasu iechyd a diogelwch, y ddeddfwriaeth a’r gofynion rhanbarthol diweddaraf, ynysu trydanol diogel, ffactorau i’w hystyried cyn ac yn ystod gosod, gofynion llenwi a fflysio, gosod offer, profion cadarnhau cadernid, gwiriadau a gweithdrefnau gweithredu, canfod diffygion gan nodi sefyllfaoedd anniogel, a chomisiynu a gwasanaethu ymarferol.
Manylion y cwrs
- Wyneb i Wyneb
Cyllid CDP ar Gael
Disgrifiad o'r Rhaglen
I fod yn gymwys, rhaid i chi fyw’n gyfreithlon yng Nghymru a bod yn 19 oed neu’n hŷn.
Yn ogystal, rhaid i chi fod:
● yn gyflogedig (gan gynnwys contractau Asiantaeth a Dim oriau) neu
● yn hunangyflogedig neu
● yn ofalwyr llawn amser (gan gynnwys di-dâl)
Does dim cap cyflogau o ran cyllid ar gyfer y cwrs hwn.
Cwblheir yr asesiad trwy gyfrwng papurau theori amlddewis, taflenni gwaith a asesir yn ymarferol ac asesiad ymarferol.
Cwmpesir amrywiol bynciau yn y cwrs hwn, gan gynnwys y canlynol:
- Deall ac ystyried ffactorau priodol, cyn gosod offer gwres canolog carbon isel.
- Deall gofynion gosod systemau gwresogi a dŵr poeth carbon isel.
- Gwybod egwyddorion sylfaenol dewis pympiau gwres a chynllunio systemau sy’n gyffredin i bob pwmp gwres.
- Gwybod y gweithdrefnau trosglwyddo yn dilyn comisiynu systemau pympiau gwres.
- Deall ac ystyried ffactorau priodol, cyn gosod offer gwres canolog carbon isel.
- Gosod gwresogi carbon isel a systemau dŵr poeth.
- Comisiynu offer pwmp gwres, cydrannau a systemau.
- Deall a chymhwyso prawf cadarnhau cadernid i fodloni gofynion y diwydiant ar bibwaith a chydrannau systemau.
- Deall a chymhwyso gofynion fflysio gan gynnwys defnyddio ychwanegion system ar gyfer systemau newydd a chyfredol.
- Deall a chymhwyso’r gwiriadau gweithredol sydd eu hangen yn ystod y comisiynu.
- Deall a chymhwyso gweithdrefnau comisiynu a throsglwyddo ar gyfer systemau pympiau gwres.
- Ymgymryd â gwasanaethu arferol cylched nad yw’n oeri a chynnal a chadw system pwmp gwres ffynhonnell aer.
Mae’r cwrs hwn wedi’i fwriadu ar gyfer peirianwyr a thechnegwyr gwresogi a fydd yn gosod, comisiynu a gwasanaethu pympiau gwres ffynhonnell aer (cylchedau nad ydynt yn oeri).
Ar gwblhau’r cwrs hwn, gall unigolion symud ymlaen i’r OFT21-504G - Gosod, comisiynu a gwasanaethu pympiau gwres ffynhonnell ddaear.
Gofynion Mynediad
Cwrs undydd yw hwn, yn dilyn y cwrs tridiau OFTEC OFT21-504A Gosod, Comisiynu a Gwasanaethu Pympiau Gwres Ffynhonnell Aer
Mae’n rhaid i ymgeiswyr feddu ar gymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol a/neu gofrestriad mewn crefft sy’n gysylltiedig â gwaith gwresogi a/neu waith plymwr am gyfnod nid llai na dwy flynedd, a meddu ar dystysgrifau Rheoliadau Dŵr a Dŵr Poeth heb Fentiau cyfredol a dilys.
Neu
Rhaid meddu ar brofiad gosod gwresogi a/neu gynnal a chadw ‘yn y gwaith’ am gyfnod nid llai na dwy flynedd, a meddu ar dystysgrifau Rheoliadau Dŵr a Dŵr Poeth heb Fentiau cyfredol a dilys.
Cyllid CDP
Mae’r Cyfrif Dysgu Personol (PLA) yn rhaglen gan Lywodraeth Cymru sy’n caniatáu i unigolion cymwys gael mynediad i gyrsiau wedi’u hariannu’n llawn a chymwysterau proffesiynol.
Cyllid ReAct+
Os ydych wedi bod yn ddi-waith neu wedi eich diswyddo yn ystod y 12 mis diwethaf, gallai ReAct+ ddarparu’r cymorth sydd ei angen arnoch i ddychwelyd i’r gwaith yn gyflym. Gyda chyllid ar gyfer hyfforddiant sgiliau, datblygiad personol, a chymorth gyda chostau fel gofal plant a theithio, mae ReAct+ yn cynnig amrywiaeth o adnoddau i’ch helpu i oresgyn rhwystrau a dod o hyd i gyfleoedd newydd.