Skip page header and navigation

Systemau Storio Ynni Trydanol (Cyrsiau Byr a Dysgu Oedolion)

Mae Systemau Storio Ynni Trydanol (EESS) yn cael eu hystyried yn helaeth i fod yn hollbwysig o ran cefnogi trosglwyddo i garbon isel, gan gynnwys rheoli cynhyrchu ynni adnewyddadwy, cefnogi rhwydweithiau a helpu datgarboneiddio dulliau trawsgludo. Mae’r cwrs hwn yn archwilio dyluniad, modelu a gosodiad EESS sefydlog o fewn cyd-destun ehangach datgarboneiddio a hyblygrwydd.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Wyneb i Wyneb
Hyd y cwrs:
1 Diwrnod

Cysylltwch am brisiau (Cyllid CDP ar gael)

Disgrifiad o'r Rhaglen

I fod yn gymwys, rhaid i chi fyw’n gyfreithlon yng Nghymru a bod yn 19 oed neu’n hŷn.

Yn ogystal, rhaid i chi fod:

●    yn gyflogedig (gan gynnwys contractau Asiantaeth a Dim oriau) neu

●    yn hunangyflogedig neu

●    yn ofalwyr llawn amser (gan gynnwys di-dâl)

Does dim cap cyflogau o ran cyllid ar gyfer y cwrs hwn.

Cynlluniwyd y cwrs hwn ar y cyd â’r Cynllun Ardystio Microgynhyrchu (MCS) yn unol â Chod Ymarfer IET ar gyfer Systemau Storio Ynni Trydanol a Safonau Batris MIS 3012 y Cynllun Ardystio Microgynhyrchu (MCS).

Mae’r cwrs a’r llawlyfr yn cwmpasu:

• Adran 1 - Cyflwyniad i Systemau Storio Ynni Trydanol (EESS) (storio batris)
• Adran 2 - Deddfwriaeth, Safonau, a chanllawiau’r Diwydiant
• Adran 3 - Systemau Storio Ynni Trydanol (EESS)
• Adran 4 - Paratoi ar gyfer Dylunio a Gosod
• Adran 5 - Dylunio a Gosod
• Ymarferion (enghraifft o ddull MGD-003)
• Adran 6 - Dulliau Gwirio Cychwynnol Perthnasol i EESS
• Adran 7 - Trosglwyddo a Hysbysu DNO
• Atodiad A - Geirdaon a Dogfennau Perthnasol
• Atodiad B - Talfyriadau a Thermau Arbenigol
• Atodiad C - Atebion i Ymarferion yn Adran 5

Mae’r cwrs wedi’i anelu’n benodol at drydanwyr gweithredol presennol, technegwyr trydanol, a pheirianwyr â phrofiad o osodiadau trydanol, ac archwilio a phrofi cysylltiedig a rhoi’r hyfforddiant angenrheidiol iddynt er mwyn uwchsgilio eu sgiliau presennol ar gyfer gwaith gosod EESS.

Mae’r cwrs wedi’i anelu’n benodol at drydanwyr gweithredol presennol, technegwyr trydanol, a pheirianwyr â phrofiad o osodiadau trydanol, ac archwilio a phrofi cysylltiedig a rhoi’r hyfforddiant angenrheidiol iddynt er mwyn uwchsgilio eu sgiliau presennol ar gyfer gwaith gosod EESS.

Cyllid CDP

Mae’r Cyfrif Dysgu Personol (PLA) yn rhaglen gan Lywodraeth Cymru sy’n caniatáu i unigolion cymwys gael mynediad i gyrsiau wedi’u hariannu’n llawn a chymwysterau proffesiynol.

Cyllid ReAct+

Os ydych wedi bod yn ddi-waith neu wedi eich diswyddo yn ystod y 12 mis diwethaf, gallai ReAct+ ddarparu’r cymorth sydd ei angen arnoch i ddychwelyd i’r gwaith yn gyflym. Gyda chyllid ar gyfer hyfforddiant sgiliau, datblygiad personol, a chymorth gyda chostau fel gofal plant a theithio, mae ReAct+ yn cynnig amrywiaeth o adnoddau i’ch helpu i oresgyn rhwystrau a dod o hyd i gyfleoedd newydd.