Skip page header and navigation

Dyfarniad Lefel 3 yn y Gofynion ar gyfer Gosod Mannau Gwefru Cerbydau Trydan (Cyrsiau Byr a Dysgu Oedolion)

  • Campws y Gelli Aur
  • Caerdydd
1 Diwrnod
Rhaid fod wedi pasio Gofynion 18fed Argraffiad ar gyfer Gosodiadau Trydan

Mae’r cwrs undydd hwn, dyfarniad lefel 3 achrededig EAL sy’n cwmpasu’r gofynion ar gyfer gosod mannau gwefru cerbydau trydan (EAL 603/3929/9). Mae’n dilyn Cod Ymarfer yr IET ar gyfer Gosod Mannau Gwefru Cerbydau Trydan a BS 7671.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Wyneb i Wyneb
Hyd y cwrs:
1 Diwrnod
Gofynion mynediad:
Rhaid fod wedi pasio Gofynion 18fed Argraffiad ar gyfer Gosodiadau Trydan

Cysylltwch am brisiau (Cyllid CDP ar gael)

Achrededig:
EAL logo

Disgrifiad o'r Rhaglen

I fod yn gymwys, rhaid i chi fyw’n gyfreithlon yng Nghymru a bod yn 19 oed neu’n hŷn.

Yn ogystal, rhaid i chi fod:

●    yn gyflogedig (gan gynnwys contractau Asiantaeth a Dim oriau) neu

●    yn hunangyflogedig neu

●    yn ofalwyr llawn amser (gan gynnwys di-dâl)

Does dim cap cyflogau o ran cyllid ar gyfer y cwrs hwn.

Mae’r cwrs yn cwmpasu gofynion BS7671 mewn perthynas â’r adran newydd ar fannau gwefru cerbydau trydan, yn trafod sut y gellir cyflenwi’r cyflenwad trydan o gyflenwadau preifat a chyhoeddus. Erbyn diwedd y cwrs byddwch yn deall sut i osod y mannau hyn yn unol â BS7671.

Yn ogystal ag ennill achrediad EAL, byddwch hefyd yn dod yn gyfarwydd â chyfarpar Rolec, prif wneuthurwr mannau gwefru cerbydau trydan Prydain, ac yn cael tystysgrif Rolec.

Rhaid i bob ymgeisydd fod wedi pasio Gofynion 18fed Argraffiad ar gyfer Gosodiadau Trydan (Rheoliadau). RHAID darparu copïau o dystysgrifau.

Yn ymarferol, rhaid i ymgeiswyr allu gosod a therfynu cebl SWA a chyflawni Gwiriad Cychwynnol ar osodiad trydanol a chwblhau’r holl waith papur cysylltiedig.

Bydd y tystysgrifau EAL a Rolec yn galluogi ymgeiswyr i osod mannau gwefru cerbydau trydan a gwneud cais am gyllid OLEV, sy’n sicrhau grant o £350 am bob gosodiad.

Cyllid CDP

Mae’r Cyfrif Dysgu Personol (PLA) yn rhaglen gan Lywodraeth Cymru sy’n caniatáu i unigolion cymwys gael mynediad i gyrsiau wedi’u hariannu’n llawn a chymwysterau proffesiynol.

Cyllid ReAct+

Os ydych wedi bod yn ddi-waith neu wedi eich diswyddo yn ystod y 12 mis diwethaf, gallai ReAct+ ddarparu’r cymorth sydd ei angen arnoch i ddychwelyd i’r gwaith yn gyflym. Gyda chyllid ar gyfer hyfforddiant sgiliau, datblygiad personol, a chymorth gyda chostau fel gofal plant a theithio, mae ReAct+ yn cynnig amrywiaeth o adnoddau i’ch helpu i oresgyn rhwystrau a dod o hyd i gyfleoedd newydd.