Dyfarniad Lefel 3 yn y Gofynion ar gyfer Gosodiadau Trydanol (Diweddariad) (Cyrsiau Byr a Dysgu Oedolion)
- Campws y Gelli Aur
- Caerdydd
Yn yr Academi Werdd, rydym ni’n falch o gynnig y cwrs undydd hwn, diweddariad i’r cymhwyster EAL BS7671 18fed Argraffiad Diogelwch Trydanol llawn. Bydd angen i ddysgwyr feddu ar wybodaeth ymarferol dda o gymhwyster 18fed Argraffiad Diogelwch Trydanol BS7671 gan y bydd y cwrs hwn yn canolbwyntio’n bennaf ar y diweddariadau i’r rheoliadau. Gallwch arbed amser ac arian drwy ymdrin â’r pynciau rydych chi eu hangen ar gyfer y rheoliadau newydd, heb orfod mynd dros bopeth rydych chi’n ei wybod eisoes.
Manylion y cwrs
- Wyneb i Wyneb
Cysylltwch am brisiau (Cyllid CDP ar gael)
Disgrifiad o'r Rhaglen
I fod yn gymwys, rhaid i chi fyw’n gyfreithlon yng Nghymru a bod yn 19 oed neu’n hŷn.
Yn ogystal, rhaid i chi fod:
● yn gyflogedig (gan gynnwys contractau Asiantaeth a Dim oriau) neu
● yn hunangyflogedig neu
● yn ofalwyr llawn amser (gan gynnwys di-dâl)
● nid yw eich cyflog sylfaenol blynyddol yn mynd dros £32,371.
Mae’r newidiadau i’r 18fed argraffiad fel a ganlyn:
● Aflonyddwch Electromagnetig
● Diogelwch rhag Ymchwydd
● Lleoliadau meddygol
● Eiliau Gweithredu a Chynnal a Chadw
● Dyfeisiau Canfod Nam Arc (AFDDs)
● Newidiadau i ofynion diogelwch tân ym mhennod 422, sy’n ymdrin â dylunio gosodiadau trydanol mewn cartrefi diwydiannol, masnachol ac amlfeddiannaeth, yn ogystal â gwybodaeth newydd ar gyfer ‘llwybrau dianc gwarchodedig’
● Amddiffyn rhag dros-folteddau
● Newidiadau ar draws Rhan 7: Lleoliadau Arbennig
● Adran newydd - Rhan 8
Mae’r cwrs diweddaru undydd hwn yn addas ar gyfer trydanwyr hyderus gyda’r 17eg Argraffiad sydd am gael y 18fed (gan gynnwys Gwelliant 2) neu drydanwyr cymwys 18fed Argraffiad sy’n dymuno diweddaru eu tystysgrifau a’u gwybodaeth i Welliant 2.
Ar ôl cwblhau’r cwrs EAL BS7671 18fed Argraffiad Diogelwch Trydanol (Diweddariad) yn llwyddiannus, gall dysgwyr fod yn hyderus eu bod wedi datblygu eu gwybodaeth a’u gyrfa. Gallai dysgwyr symud ymlaen i gymwysterau pellach os yw’n briodol.
Cyllid CDP
Mae’r Cyfrif Dysgu Personol (PLA) yn rhaglen gan Lywodraeth Cymru sy’n caniatáu i unigolion cymwys gael mynediad i gyrsiau wedi’u hariannu’n llawn a chymwysterau proffesiynol.
Cyllid ReAct+
Os ydych wedi bod yn ddi-waith neu wedi eich diswyddo yn ystod y 12 mis diwethaf, gallai ReAct+ ddarparu’r cymorth sydd ei angen arnoch i ddychwelyd i’r gwaith yn gyflym. Gyda chyllid ar gyfer hyfforddiant sgiliau, datblygiad personol, a chymorth gyda chostau fel gofal plant a theithio, mae ReAct+ yn cynnig amrywiaeth o adnoddau i’ch helpu i oresgyn rhwystrau a dod o hyd i gyfleoedd newydd.