Dyfarniad Lefel 3 mewn Gosodiadau Trydanol, Arolygu, Profi, Ardystio ac Adrodd (Cyrsiau Byr a Dysgu Oedolion)
- Caerdydd
Yn yr Academi Werdd, rydyn ni’n falch o allu cynnig y cymwysterau hyn fel cwrs cyfunol. Ar gwblhau’n llwyddiannus, bydd yr unigolyn wedi cael y wybodaeth a’r sgiliau ymarferol sy’n ofynnol ar gyfer gosod, profi, archwilio ac ardystio gosodiadau trydanol yn broffesiynol.
Manylion y cwrs
- Wyneb i Wyneb
Cysylltwch am brisiau (Cyllid CDP ar gael)
Disgrifiad o'r Rhaglen
I fod yn gymwys, rhaid i chi fyw’n gyfreithlon yng Nghymru a bod yn 19 oed neu’n hŷn.
Yn ogystal, rhaid i chi fod:
● yn gyflogedig (gan gynnwys contractau Asiantaeth a Dim oriau) neu
● yn hunangyflogedig neu
● yn ofalwyr llawn amser (gan gynnwys di-dâl)
● nid yw eich cyflog sylfaenol blynyddol yn mynd dros £32,371.
Mae’r pynciau a gwmpesir yn cynnwys:
- Ynysu diogel
- Archwilio, profi a chofnodi cyflwr systemau
- Profi diogelwch systemau mewn gwasanaeth
- Profi diogelwch cylchedau mewn gwasanaeth
- Profi diogelwch systemau egnioledig
- Archwilio canlyniadau profion
Trydanwyr cymwysedig gydag ardystiad lefel 2 neu uwch.
Mae’r cwrs hwn ar gyfer trydanwyr cymwysedig sydd angen cynnal yr archwiliadau a’r profion perthnasol sy’n gysylltiedig â gofynion eu swydd neu gyflogaeth, mae hyn yn cynnwys yr archwiliadau landlordiaid newydd sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith ers 1af Gorffennaf 2020.
Cyllid CDP
Mae’r Cyfrif Dysgu Personol (PLA) yn rhaglen gan Lywodraeth Cymru sy’n caniatáu i unigolion cymwys gael mynediad i gyrsiau wedi’u hariannu’n llawn a chymwysterau proffesiynol.
Cyllid ReAct+
Os ydych wedi bod yn ddi-waith neu wedi eich diswyddo yn ystod y 12 mis diwethaf, gallai ReAct+ ddarparu’r cymorth sydd ei angen arnoch i ddychwelyd i’r gwaith yn gyflym. Gyda chyllid ar gyfer hyfforddiant sgiliau, datblygiad personol, a chymorth gyda chostau fel gofal plant a theithio, mae ReAct+ yn cynnig amrywiaeth o adnoddau i’ch helpu i oresgyn rhwystrau a dod o hyd i gyfleoedd newydd.