Effeithlonrwydd Ynni (Rhan L) (Cyrsiau Byr a Dysgu Oedolion)
- Campws y Gelli Aur
- Caerdydd
Os ydych chi’n osodwr gwresogi, yn blymwr neu’n beiriannydd nwy wrth eich gwaith, ac yn awyddus i ennill cymhwysedd er mwyn bodloni gofynion Rhan L - yr adran o’r Rheoliadau Adeiladu sy’n ymdrin ag effeithlonrwydd ynni - yna dyma’r cwrs i chi. Mae Rhan L yn cyfeirio at y Rheoliadau Adeiladu sy’n berthnasol i arbed tanwydd ac ynni. Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i adeiladu ar eich dealltwriaeth ddamcaniaethol ac ymarferol o’r rheoliadau hyn er mwyn sicrhau diogelwch defnyddwyr yn ogystal â’ch cydymffurfiaeth gyfreithiol.
Manylion y cwrs
- Wyneb i Wyneb
Cysylltwch am brisiau (Cyllid CPD ar gael)
Programme Description
I fod yn gymwys, rhaid i chi fyw’n gyfreithlon yng Nghymru a bod yn 19 oed neu’n hŷn.
Yn ogystal, rhaid i chi fod:
● yn gyflogedig (gan gynnwys contractau Asiantaeth a Dim oriau) neu
● yn hunangyflogedig neu
● yn ofalwyr llawn amser (gan gynnwys di-dâl)
Does dim cap cyflogau o ran cyllid ar gyfer y cwrs hwn.
Mae’r pynciau’n cynnwys:
- Rheoliadau adeiladu
- Deddfwriaeth
- Maint Boeleri
- Egwyddorion Boeleri cyddwyso
- Safonau gofynnol ar gyfer gosod neu ailosod silindr dŵr poeth
Mae’n ofyniad cyfreithiol i unrhyw un sy’n gosod systemau gwresogi domestig a dŵr poeth gydymffurfio â Rhan L y Rheoliadau Adeiladu. Felly, mae’r cwrs a’r cymhwyster Rhan L wedi’u hanelu at osodwyr presennol, peirianwyr nwy a phlymwyr neu unrhyw un sy’n gosod systemau gwresogi a dŵr poeth newydd. Bydd angen i ymgeiswyr fod wedi cael profiad yn y diwydiant gwresogi er mwyn deall deunydd y cwrs.
Gosod Pympiau Gwres NICEIC
Cyllid CDP
Mae’r Cyfrif Dysgu Personol (PLA) yn rhaglen gan Lywodraeth Cymru sy’n caniatáu i unigolion cymwys gael mynediad i gyrsiau wedi’u hariannu’n llawn a chymwysterau proffesiynol.
Cyllid ReAct+
Os ydych wedi bod yn ddi-waith neu wedi eich diswyddo yn ystod y 12 mis diwethaf, gallai ReAct+ ddarparu’r cymorth sydd ei angen arnoch i ddychwelyd i’r gwaith yn gyflym. Gyda chyllid ar gyfer hyfforddiant sgiliau, datblygiad personol, a chymorth gyda chostau fel gofal plant a theithio, mae ReAct+ yn cynnig amrywiaeth o adnoddau i’ch helpu i oresgyn rhwystrau a dod o hyd i gyfleoedd newydd.