Rheoliadau Dŵr / Is-ddeddfau (Cyrsiau Byr a Dysgu Oedolion)
- Campws y Gelli Aur
- Caerdydd
Mae’r cwrs hwn yn ymdrin â Rheoliadau Cyflenwi Dŵr (Ffitiadau Dŵr) 1999 (Cymru a Lloegr) ac mae’n bodloni gofynion y WRAS (Cynllun Ymgynghori Rheoliadau Dŵr) y mae’r mwyafrif o gwmnïau Dŵr y DU yn aelodau ohono.
Manylion y cwrs
Cysylltwch am brisiau (Cyllid ar Gael)
Disgrifiad o'r Rhaglen
I fod yn gymwys, rhaid i chi fyw’n gyfreithlon yng Nghymru a bod yn 19 oed neu’n hŷn.
Yn ogystal, rhaid i chi fod:
● yn gyflogedig (gan gynnwys contractau Asiantaeth a Dim oriau) neu
● yn hunangyflogedig neu
● yn ofalwyr llawn amser (gan gynnwys di-dâl)
Does dim cap cyflogau o ran cyllid ar gyfer y cwrs hwn.
Mae’r deuddeg modiwl sydd eu hangen i ennill ardystiad wedi’u cynnwys yn yr hyfforddiant hwn. Mae cwblhau’r cwrs hwn yn galluogi’r unigolyn/busnes i gofrestru gyda chynllun Personau Cymwys sy’n caniatáu hunanardystio gosodiadau systemau storio dŵr poeth heb fentiau. Gellir defnyddio’r cwrs hwn hefyd fel rhagofyniad ar gyfer mynychu ein cwrs Hyfforddiant Pympiau Gwres.
Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer plymwyr sy’n bwriadu ennill dealltwriaeth o Reoliadau Dwr 1999.
Mae cwblhau’r cwrs hwn yn galluogi’r unigolyn/busnes i gofrestru gyda chynllun Personau Cymwys sy’n caniatáu hunanardystio gosodiadau systemau storio dŵr poeth heb fentiau.
Gellir defnyddio’r cwrs hwn hefyd fel rhagofyniad ar gyfer mynychu ein cwrs Hyfforddiant Pympiau Gwres.
Cyllid CDP
Mae’r Cyfrif Dysgu Personol (PLA) yn rhaglen gan Lywodraeth Cymru sy’n caniatáu i unigolion cymwys gael mynediad i gyrsiau wedi’u hariannu’n llawn a chymwysterau proffesiynol.
Cyllid ReAct+
Os ydych wedi bod yn ddi-waith neu wedi eich diswyddo yn ystod y 12 mis diwethaf, gallai ReAct+ ddarparu’r cymorth sydd ei angen arnoch i ddychwelyd i’r gwaith yn gyflym. Gyda chyllid ar gyfer hyfforddiant sgiliau, datblygiad personol, a chymorth gyda chostau fel gofal plant a theithio, mae ReAct+ yn cynnig amrywiaeth o adnoddau i’ch helpu i oresgyn rhwystrau a dod o hyd i gyfleoedd newydd.