Dyfarniad Lefel 3 yn y Gofynion ar gyfer Gosodiadau Trydanol (Cymhwyster Llawn) (Cyrsiau Byr a Dysgu Oedolion)
- Campws y Gelli Aur
- Caerdydd
BS 7671:2018 (a adnabyddir yn fwy cyffredinol fel y 18fed Argraffiad) yw’r fersiwn gyfredol o Safon Brydeinig BS 7671. Dyma safon genedlaethol y DU ar gyfer gosodiadau trydanol. Rhaid i bob trydanwr gweithredol yn y DU ddangos gwybodaeth weithiol dda o Reoliadau Gosod Gwifrau’r 18fed Argraffiad – neu’r ‘regs’, fel y bydd trydanwyr profiadol yn tueddu eu galw.
Manylion y cwrs
- Wyneb i Wyneb
Cysylltwch am brisiau (Cyllid CDP ar gael)
Disgrifiad o'r Rhaglen
Mae ennill eich tystysgrif 18fed Argraffiad yn gam hollbwysig ar eich taith i ddod yn drydanwr proffesiynol. Mae’r cymhwyster hwn yn profi eich bod yn gyfarwydd â gofynion diweddaraf y DU ar gyfer gosodiadau trydanol a bod eich gwaith yn cydymffurfio’n llawn â’r rheoliadau. Efallai eich bod yn adnabod y cymhwyster hwn fel City & Guilds 2382, ond dylech nodi ein bod yn cyflwyno’r cwrs hwn drwy nifer o wahanol sefydliadau dyfarnu.
Yn ystod y cwrs, byddwch yn cwmpasu:
- Cwmpas, Pwrpas ac Egwyddorion Sy;faenol
- Diffiniadau
- Asesu Nodweddion Cyffredinol
- Amddiffyniad er Diogelwch
- Dewis a Chodi Cyfarpar
- Archwillio a Phrofi
- Gosodiadau neu Leoliadau Arbennig
- Atodiadau
Os ydych yn aflwyddiannus yn eich ymgais i basio’r arholiad, bydd gofyn i chi dalu am ailsefyll, a chost hyn fydd £60 + TAW. (efallai bydd cyllid ar gael ar gyfer unigolion a chyflogwyr cymwys)
Mae’r cwrs 18fed Argraffiad yn hanfodol ar gyfer y rheiny sy’n bwriadu dilyn gyrfa fel trydanwyr proffesiynol. Mae hwn yn gyfle ardderchog i ymgyfarwyddo â’r ‘regs’ a datblygu sgiliau defnyddiol yn barod ar gyfer gweithio yn y diwydiant.
Anelir y cwrs yn bennaf at drydanwyr a gosodwyr domestig gweithredol, fodd bynnag mae’n boblogaidd iawn hefyd gyda gweithwyr proffesiynol cysylltiol megis rheolwyr contractau, dylunwyr, peirianwyr trydanol, ymgynghorwyr, syrfewyr, a chrefftwyr perthynol eraill sydd angen diweddaru a gwella eu dealltwriaeth o Reoliadau Gosod Gwifrau Sefydliad y Peirianwyr Trydanol (IEE).
Mae’r cwrs hwn yn hanfodol ar gyfer unrhyw un sy’n dymuno gweithio yn y diwydiant electrodechnegol. Mae dilyniannau’n cynnwys Dyfarniad Lefel 3 EAL yn y Gofynion ar gyfer Gosod Mannau Gwefru Cerbydau Trydan.
I fod yn gymwys, rhaid i chi fyw’n gyfreithlon yng Nghymru a bod yn 19 oed neu’n hŷn.
Yn ogystal, rhaid i chi fod:
● yn gyflogedig (gan gynnwys contractau Asiantaeth a Dim oriau) neu
● yn hunangyflogedig neu
● yn ofalwyr llawn amser (gan gynnwys di-dâl)
Does dim cap cyflogau o ran cyllid ar gyfer y cwrs hwn.
Cyllid CDP
Mae’r Cyfrif Dysgu Personol (PLA) yn rhaglen gan Lywodraeth Cymru sy’n caniatáu i unigolion cymwys gael mynediad i gyrsiau wedi’u hariannu’n llawn a chymwysterau proffesiynol.
Cyllid ReAct+
Os ydych wedi bod yn ddi-waith neu wedi eich diswyddo yn ystod y 12 mis diwethaf, gallai ReAct+ ddarparu’r cymorth sydd ei angen arnoch i ddychwelyd i’r gwaith yn gyflym. Gyda chyllid ar gyfer hyfforddiant sgiliau, datblygiad personol, a chymorth gyda chostau fel gofal plant a theithio, mae ReAct+ yn cynnig amrywiaeth o adnoddau i’ch helpu i oresgyn rhwystrau a dod o hyd i gyfleoedd newydd.