Skip page header and navigation

Cynllunio Systemau Pympiau Gwres (Cyrsiau Byr a Dysgu Oedolion)

  • Campws y Gelli Aur
  • Caerdydd
1 Diwrnod
Gofynion mynediad isod

Mae’r cwrs hwn ar gyfer cynllunwyr systemau pympiau gwres. Mae’n cwmpasu amrywiaeth o feysydd gan gynnwys maint systemau a dewis cydrannau, deddfwriaeth berthnasol, cynllunio a maint cylchedau casglu ffynhonnell ddaear, systemau dolen agored a chaeedig, gofynion cynllunio cylchedau gwresogi, effeithlonrwydd ynni, pibwaith, allyrwyr gwres a dylunio systemau dŵr poeth tymheredd isel.

Gofynion mynediad isod

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Wyneb i Wyneb
Hyd y cwrs:
1 Diwrnod
Gofynion mynediad:
Gofynion mynediad isod

Cyllid CDP ar Gael

Achrededig:
OFTEC logo

Disgrifiad o'r Rhaglen

I fod yn gymwys, rhaid i chi fyw’n gyfreithlon yng Nghymru a bod yn 19 oed neu’n hŷn.

Yn ogystal, rhaid i chi fod:

●    yn gyflogedig (gan gynnwys contractau Asiantaeth a Dim oriau) neu

●    yn hunangyflogedig neu

●    yn ofalwyr llawn amser (gan gynnwys di-dâl)

Does dim cap cyflogau o ran cyllid ar gyfer y cwrs hwn.

Cwblheir yr asesiad trwy gyfrwng papurau theori amlddewis, taflenni gwaith a asesir yn ymarferol ac asesiad ymarferol.

Cwmpesir amrywiol bynciau yn y cwrs hwn, gan gynnwys y canlynol:

  • Gwybod gofynion rheoliadau/safonau perthnasol yn ymwneud â gosod ymarferol, profi a gweithgareddau comisiynu ar gyfer gwaith gosod pympiau gwres (cylchedau nad ydynt yn oeri).
  • Adnabod ac egluro’r mathau o systemau gwres canolog carbon isel.
  • Deall ac ystyried ffactorau priodol, cyn gosod offer gwres canolog carbon isel.
  • Deall gofynion gosod systemau gwresogi a dŵr poeth carbon isel.
  • Gwybod egwyddorion sylfaenol dewis pympiau gwres a chynllunio systemau sy’n gyffredin i bob pwmp gwres.
  • Gwybod y gweithdrefnau trosglwyddo yn dilyn comisiynu systemau pympiau gwres.
  • Deall ac ystyried ffactorau priodol, cyn gosod offer gwres canolog carbon isel.
  • Dewis maint a dewis systemau a chydrannau pympiau gwres.
  • Dewis maint a chylchedau a chydrannau casglu pympiau gwres ‘dolen gaeedig’ ffynhonnell ddaear.
  • Gwybod cynlluniau gosod cylchedau casglu pympiau gwres ‘dolen agored’ wedi’u llenwi â dŵr.
  • Gwybod cynlluniau gosodiad cylchedau casglu pympiau gwres ‘dolen gaeedig’ wedi’u llenwi â dŵr.
  • Gwybod yr ystyriaethau cynllunio sylfaenol a’r egwyddorion sy’n benodol i bympiau gwres ffynhonnell aer.
  • Gwybod yr ystyriaethau cynllunio sylfaenol a’r egwyddorion sy’n benodol i bympiau gwres ffynhonnell ddaear.
  • Gwybod yr egwyddorion sylfaenol ar gyfer cynllunio cylched casglu pympiau gwres ffynhonnell ddaear a maint cydrannau.
  • Gwybod y gofynion sylfaenol ar gyfer cynllunio systemau pympiau gwres.

Mae’r cwrs hwn wedi’i fwriadu ar gyfer peirianwyr a thechnegwyr gwresogi a fydd yn gosod, comisiynu a gwasanaethu pympiau gwres ffynhonnell ddaear (cylchedau nad ydynt yn oeri).

Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn gall unigolion symud ymlaen i unrhyw un o’n cyrsiau adnewyddadwy neu ôl-ffitio.

Gofynion Mynediad

Mae’n rhaid i ymgeiswyr feddu ar gymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol a/neu gofrestriad mewn crefft sy’n gysylltiedig â gwaith gwresogi a/neu waith plymwr am gyfnod nid llai na dwy flynedd, a meddu ar dystysgrifau Rheoliadau Dŵr a Dŵr Poeth heb Fentiau cyfredol a dilys.

Neu

Rhaid meddu ar brofiad gosod gwresogi a/neu gynnal a chadw ‘yn y gwaith’ am gyfnod nid llai na dwy flynedd, a meddu ar dystysgrifau Rheoliadau Dŵr a Dŵr Poeth heb Fentiau cyfredol a dilys.

Cyllid CDP

Mae’r Cyfrif Dysgu Personol (PLA) yn rhaglen gan Lywodraeth Cymru sy’n caniatáu i unigolion cymwys gael mynediad i gyrsiau wedi’u hariannu’n llawn a chymwysterau proffesiynol.

Cyllid ReAct+

Os ydych wedi bod yn ddi-waith neu wedi eich diswyddo yn ystod y 12 mis diwethaf, gallai ReAct+ ddarparu’r cymorth sydd ei angen arnoch i ddychwelyd i’r gwaith yn gyflym. Gyda chyllid ar gyfer hyfforddiant sgiliau, datblygiad personol, a chymorth gyda chostau fel gofal plant a theithio, mae ReAct+ yn cynnig amrywiaeth o adnoddau i’ch helpu i oresgyn rhwystrau a dod o hyd i gyfleoedd newydd.