Tystysgrif Lefel 2 Active IQ mewn Hyfforddi Campfa (Cwrs Coleg)
- Campws Y Graig
Ydych chi am helpu pobl i gyflawni eu cyrchnodau ffitrwydd a helpu i’w cymell i ffordd iach o fyw?
Mae angen hwb i’w hyder ar rai pobl i fynd i’r gampfa ac yna efallai y byddant angen gwybod sut i wneud ymarfer corff yn iawn ac yn effeithiol, a dyna eich gwaith chi.
Bydd Tystysgrif Lefel 2 IQ Active mewn Hyfforddi Campfa yn datblygu gwybodaeth a sgiliau dysgwyr mewn hyfforddi yn y gampfa i’w galluogi i ddilyn gyrfa fel hyfforddwr campfa. Bydd y cymhwyster hwn yn darparu cyfuniad o wybodaeth a sgiliau i ragnodi, cynllunio a chyflwyno rhaglenni ymarfer corff diogel ac effeithiol i ystod o gleientiaid.
Mae hwn yn gymhwyster a gydnabyddir gan y diwydiant a bydd ei gyflawni’n llwyddiannus yn rhoi mynediad i’r Sefydliad Siartredig Rheoli Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol (CIMSPA) fel aelod cyswllt (ymarfer corff a ffitrwydd).
Manylion y cwrs
- Rhan amser
£250
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r cymhwyster yn rhoi cipolwg da i ddysgwyr o’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnynt, nid yn unig ar gyfer gweithio yn y sector hwn, ond sgiliau cyffredinol, trosglwyddadwy y byddai pob cyflogwr yn eu croesawu. Mae’r dewis o unedau a gynigir ar draws lefel dau yn rhoi cyfle i ddysgwyr ddangos amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.
Yn ystod y cymhwyster bydd dysgwyr yn cwmpasu’r canlynol:
- Gwybodaeth am anatomeg a ffisioleg sy’n berthnasol i hyfforddi campfa.
- Egwyddorion ymarfer corff, ffitrwydd ac iechyd.
Iechyd a diogelwch mewn amgylchedd ffitrwydd.
- Gofal cwsmer.
- Sgiliau cyfathrebu effeithiol ar gyfer ymgyngoriadau cleientiaid i gefnogi newid cadarnhaol mewn ymddygiad.
- Y sgiliau sydd eu hangen i gynllunio a chynnal sesiynau ymarfer corff yn y gampfa gydag unigolion a grwpiau.
- Gofynion cyfreithiol a phroffesiynol ar gyfer hyfforddi ffitrwydd.
Sut i reoli, gwerthuso a gwella eu perfformiad eu hunain.
Er mwyn cyflawni’r cymhwyster rhaid i ddysgwyr gwblhau’r pum uned orfodol:
- Egwyddorion anatomeg, ffisioleg a ffitrwydd
- Proffesiynoldeb a gofal cwsmer ar gyfer hyfforddwyr ffitrwydd
- Iechyd a diogelwch yn yr amgylchedd ffitrwydd
- Cynnal ymgyngoriadau cleientiaid i gefnogi newid cadarnhaol mewn ymddygiad
- Cynllunio a hyfforddi ymarfer corff yn y gampfa
Mae’r cymhwyster hwn yn darparu dilyniant i:
- Diploma Lefel 3 Active IQ mewn Hyfforddiant Personol.
- Diploma Lefel 3 Active IQ mewn Atgyfeirio Ymarfer Corff.
- Dyfarniad Lefel 3 Active IQ mewn Cynllunio Rhaglenni Ymarfer Corff Cyn-enedigol ac Ôl-enedigol.
- Dyfarniad Lefel 3 Active IQ mewn Cynllunio Rhaglenni Ymarfer Corff ar gyfer Oedolion Hŷn.
- Dyfarniad Lefel 3 Active IQ mewn Cynllunio Rhaglenni Ymarfer Corff ar gyfer Cleientiaid Anabl.
Cymwysterau Lefel 2 a/neu Lefel 3 cysylltiedig eraill, er enghraifft:
- Dyfarniad Lefel 2 Active IQ mewn Hyfforddi Ymarferion Cylchol.
- Dyfarniad Lefel 2 Active IQ mewn Hyfforddi Pwysau Tegell (Kettlebells).
- Dyfarniad Lefel 2 Active IQ mewn Hyfforddi Hyfforddiant Symudiadau Crog.
- Tystysgrif Lefel 2 Active IQ mewn Hyfforddi Ffitrwydd (Ymarfer Corff Grŵp)
- Tystysgrif Lefel 2 Active IQ mewn Hybu Iechyd a Lles Cymunedol.
- Dyfarniad Lefel 3 Active IQ mewn Maeth ar gyfer Ymarfer Corff ac Iechyd.
Cewch eich asesu drwy:
- Waith Cwrs/Prosiect.
- Arholiad Amlddewis.
- Portffolio o Dystiolaeth.
- Arddangosiad/Aseiniad Ymarferol.
- Rhaid i ddysgwyr fod yn 16 oed o leiaf.
- Argymhellir peth profiad o ymarferion corff yn y gampfa, gan gynnwys pwysau rhydd.
- Mae’r cwrs yn gofyn am ymdrech gorfforol, ac mae cyfranogiad unigol yn hanfodol; felly, mae angen rhywfaint o ffitrwydd corfforol.
- Mae’n cynnwys elfen o gyfathrebu (trafod, cyflwyno, darllen ac ysgrifennu) a dylai dysgwyr feddu ar sgiliau sylfaenol mewn cyfathrebu ar lefel 2.
Grwp O. Cysylltwch am fwy o fanylion.