FdSc Hyfforddiant a Pherfformiad Rygbi (Gradd Sylfaen)
- Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
Mae hyfforddi rygbi yn un o’r gyrfaoedd mwyaf cyffrous sy’n rhoi boddhad wrth feithrin a datblygu chwaraewyr gan ddefnyddio dadansoddi a datblygu sgiliau perfformio.
Chwaraeon hefyd yw un o feysydd pwnc mwyaf dynamig Coleg Sir Gâr ac rydym yn falch i gynnig rhaglenni gradd cyffrous, arloesol mewn chwaraeon. Mae’r Radd Sylfaen mewn Hyfforddiant a Pherfformiad Rygbi yn rhaglen seiliedig ar waith ymarferol er mwyn paratoi myfyrwyr am yrfa yn y diwydiant rygbi a chwaraeon.
Mae’r rhaglen hon wedi’i chynllunio i sicrhau profiad dysgu cyfredol ac academaidd trylwyr sy’n bodloni anghenion y diwydiant lleol. Mae gan y rhaglen gysylltiadau cryf â thimau proffesiynol elit megis Y Scarlets a thimau lled-broffesiynol fel Llanymddyfri, Cwins Caerfyrddin a Llanelli lle mae gan fyfyrwyr y cyfle i ennill profiad diwydiannol ar y lefel uchaf.
Hefyd mae’r radd yn elwa o gysylltiadau cymunedol a ddatblygwyd yn yr adran dros nifer o flynyddoedd, gan leoli myfyrwyr mewn ysgolion lleol a gyda swyddogion datblygu rygbi sy’n rhoi cipolwg ar lwybrau cyflogaeth posibl.
Mae’r cwrs yn un unigryw wedi’i leoli ym Mhrifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), Caerfyrddin a chaiff ei gyflwyno gan Goleg Sir Gâr felly byddwch yn fyfyrwyr ym Mhrifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant a Choleg Sir Gâr hefyd.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
- Rhan amser
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r meysydd astudio yn cynnwys Hyfforddi Rygbi, Dadansoddi Rygbi a Chryfder a Chyflyru. Hefyd byddwch yn datblygu sgiliau rhyngbersonol trosglwyddadwy fel sgiliau ymchwil uwch, datrys problemau, dysgu annibynnol a sgiliau meddwl yn feirniadol wrth baratoi at yrfa mewn rygbi a chwaraeon. Mae gan y rhaglen elfen dysgu’n seiliedig ar waith hefyd fel y gall myfyrwyr ennill profiad hanfodol yn eu maes diddordeb.
Mae’r maes pwnc yn elwa o gael cyfleusterau ardderchog sy’n cynnwys labordy chwaraeon o’r radd flaenaf, swît ddadansoddi, neuadd chwaraeon, swît cryfder a chyflyru ac arwyneb 3G bob tywydd.
Lefel 4
- Cyflwyniad i Gysyniadau Gwyddor Chwaraeon
- Hyfforddi Rygbi
- Cryfder a Chyflyru
- Dysgu Seiliedig ar Waith
- Perfformiad Chwaraeon Ymarferol (Tîm)
Lefel 5
- Hyfforddi Rygbi Uwch
- Cryfder a Chyflyru
- Dysgu Seiliedig ar Waith
- Perfformiad Chwaraeon Ymarferol (unigol)
Bydd myfyrwyr hefyd yn astudio dau o Fodiwlau Priodoleddau Graddedigion PCYDDS - Dysgu yn yr Oes Ddigidol (Lefel 4) a Chreadigrwydd a Chreu Gwerth (Lefel 5)
Mae’r cwrs hwn yn anelu at baratoi myfyrwyr ar gyfer symud ymlaen i’n BSc mewn Hyfforddiant a Pherfformiad Rygbi (blwyddyn atodol) neu i yrfa mewn rygbi, chwaraeon ac addysg gorfforol.
Gall llwybrau gyrfa posibl gynnwys Gweinyddwr Rygbi/Chwaraeon, Hyfforddwr, Swyddog Datblygu, Dadansoddwr Rygbi, Hyfforddwr Cryfder a Chyflyru, Athro Addysg Gorfforol neu Ddarlithydd Coleg.
Gall llwybrau gyrfa amgen gynnwys y gwasanaethau brys, y lluoedd arfog a gwaith ieuenctid.
Caiff modiwlau eu hasesu trwy gyfuniad o aseiniadau, astudiaethau achos, llyfrau log ac asesiadau o sgiliau ymarferol.
Bydd angen o leiaf 48 pwynt UCAS arnoch, fodd bynnag rydym yn awyddus i farnu pob ymgeisydd ar sail teilyngdod drwy gyfweliad ffurfiol. Rhoddir ystyriaeth yn ogystal i fyfyrwyr hŷn sydd â phrofiad perthnasol.
Does dim ffi ychwanegol, fodd bynnag, mae’n debygol y byddwch yn mynd i gostau ychwanegol ar gyfer cyfarpar personol/cit chwaraeon ac ar gyfer teithiau’n gysylltiedig â’r cwrs.
Nod y Fframwaith hwn yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth bwnc academaidd. Byddwch yn astudio hyd at 40 credyd fesul lefel ar hyd eich rhaglen o’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion. Mae modiwlau’r Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a dangos tystiolaeth, o ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar yrfaoedd sy’n gysylltiedig â’ch maes pwnc chi. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys gallu digidol, ymchwil a rheoli prosiect, yn ogystal â’r fath gymwyseddau personol â chyfathrebu, creadigrwydd, hunanfyfyrio, gwytnwch a datrys problemau.
Dewch i wybod mwy am y Fframwaith Priodoleddau Graddedigion