Skip page header and navigation

Diploma Estynedig Cenedlaethol L3 mewn Chwaraeon, Ffitrwydd a Hyfforddiant Personol (Cwrs Coleg)

  • Campws Y Graig
2 Flynedd

Mae chwaraeon, ffitrwydd a hyfforddiant personol yn yrfa ddelfrydol i helpu ysgogi pobl i ymarfer yn effeithiol a mwynhau’r canlyniad a ddaw yn sgil hyn.

Mae’r Diploma Estynedig Cenedlaethol Lefel 3 Pearson BTEC mewn Chwaraeon, Ffitrwydd a Hyfforddiant Personol yn gymhwyster a gydnabyddir gan y diwydiant (CIMSPA/REPS). Mae’n canolbwyntio’n bennaf ar symud ymlaen i gyflogaeth fel hyfforddwr personol ac mae’n cefnogi dysgwyr i sefydlu eu busnes hyfforddiant personol a hyfforddi ymarfer eu hunain.

Caiff dysgwyr hefyd y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i ddarparu sesiynau hyfforddi a rhaglenni ymarfer i gleientiaid i gyd-fynd â’u hanghenion penodol. Bydd dysgwyr yn ennill gwybodaeth ac arbenigedd ychwanegol sy’n caniatáu iddynt ddarparu gwasanaethau eraill sy’n gysylltiedig â chwaraeon neu ffitrwydd  i’r cleientiaid y maent yn eu hyfforddi’n bersonol, megis tylino chwaraeon a phrofion ffitrwydd.

Cewch fynediad i gyfleusterau a chyfarpar o safon y diwydiant megis ein cae chwarae 4G, neuadd chwaraeon, campfa ffitrwydd, swît ddadansoddi a hwb perfformiad.  Hefyd fe’ch anogir i ymgysylltu â’n Hacademïau Chwaraeon sy’n anelu at ddatblygu athletwyr a chwaraewyr mewn ystod o chwaraeon.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Llawn amser
Hyd y cwrs:
2 Flynedd

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae meysydd astudio yn cynnwys Datblygu Sgiliau Ffitrwydd, Datblygu Sgiliau Hyfforddwr Personol, Maetheg ar gyfer Perfformiad Corfforol a Thylino Chwaraeon Gweithredol.

Byddwch yn datblygu’r sgiliau canlynol:

  • Sgiliau gwybyddol a datrys problemau: defnyddio meddwl beirniadol, mynd i’r afael â phroblemau anarferol wrth ddefnyddio datrysiadau creadigol.
  • Sgiliau rhyngbersonol: cyfathrebu, gweithio ar y cyd, trafod a dylanwadu, hunan-gyflwyniad.
  • Sgiliau personol: hunanreolaeth, gallu i addasu a gwytnwch, monitro eich hun a datblygu.

Mae’r cwrs yn cynnwys 12 uned a all gynnwys:

  • Gyrfaoedd yn y Diwydiant Chwaraeon a Hamdden Egnïol
  • Iechyd, Lles a Chwaraeon
  • Datblygu Sgiliau Ffitrwydd
  • Datblygu Sgiliau Hyfforddwr Personol
  • Hunangyflogaeth mewn Chwaraeon a Gweithgareddau Corfforol
  • Maeth ar gyfer Perfformiad Corfforol
  • Tylino Chwaraeon Gweithredol
  • Profi Ffitrwydd
  • Gweithrediadau Cyfleusterau Chwaraeon a Hamdden
  • Busnes a Thechnoleg mewn Hyfforddiant Personol

Mae’r prif ffocws ar ddilyniant i gyflogaeth fel hyfforddwr personol ac mae’n cefnogi dysgwyr i sefydlu eu busnes hyfforddiant personol a hyfforddi ymarfer eu hunain. Gall dysgwyr symud ymlaen o’r cymhwyster hwn i raglenni gradd addysg uwch, megis BA (Anrh) mewn Iechyd a Ffitrwydd a BSc (Anrh) mewn  Diet, Ffitrwydd a Lles.

Fel arall, gall dysgwyr symud ymlaen i gymhwyster atgyfeirio meddygol Lefel 4, fel Diploma mewn Atgyfeirio Ymarfer.

Caiff yr holl asesiadau eu cynllunio a’u hasesu’n fewnol, gyda samplu allanol yn digwydd ar gais.

Asesir pob uned i gyrraedd proffil pas, teilyngdod neu ragoriaeth. Rhaid i fyfyrwyr fodloni meini prawf asesu penodol er mwyn cyflawni pob marc.

O leiaf 5 TGAU graddau A*-C/9-4, gan gynnwys naill ai Cymraeg (Iaith Gyntaf) neu Saesneg Iaith a Mathemateg. Mae cael TGAU Addysg Gorfforol yn fanteisiol, ond nid yn hanfodol.

Derbynnir dilyniannau o Lefel 2 Chwaraeon gyda phroffil TT. Mae meddu ar ddiddordeb brwd a chyfranogiad gweithredol mewn ffitrwydd ac ymarfer hefyd yn fanteisiol.  Asesir pob dysgwr ar sail unigol trwy gyfweliad.

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.