Skip page header and navigation

Tystysgrif Estynedig Lefel 2 mewn Chwaraeon (Cwrs Coleg)

  • Campws Y Graig
1 Flwyddyn

Cynlluniwyd y cwrs hwn i’ch ysbrydoli ac i ennyn brwdfrydedd ynoch i ystyried gyrfa yn y sector chwaraeon.

Trwy gydol y flwyddyn cewch y cyfle i ennill gwybodaeth a dealltwriaeth ehangach am y diwydiant chwaraeon, a fydd yn tanategu ac yn gwella eich sgiliau fel mabolgampwr uchelgeisiol. Ei nod yw eich paratoi ar gyfer cyfleoedd astudio pellach ac mae’n darparu cam ar y ffordd i L3 Chwaraeon, neu L3 Gwasanaethau Cyhoeddus.

Nod y cwrs yw cysylltu addysg â byd gwaith mewn ffyrdd sy’n ennyn diddordeb, sy’n berthnasol ac yn ymarferol, ochr yn ochr â datblygu sgiliau hanfodol megis llythrennedd, rhifedd a llythrennedd digidol.  Cewch fynediad i gyfleusterau a chyfarpar o safon y diwydiant megis ein cae chwarae 4G, ein neuadd chwaraeon a’n swît ffitrwydd. Hefyd fe’ch anogir i ymgysylltu â’n Hacademïau Chwaraeon sy’n anelu at ddatblygu athletwyr a chwaraewyr mewn ystod o chwaraeon.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Llawn amser
Hyd y cwrs:
1 Flwyddyn

What you will learn

Mae meysydd astudio yn cynnwys cymryd rhan mewn chwaraeon, anatomeg a ffisioleg ymarfer, hyfforddi chwaraeon a datblygu ffitrwydd personol. Hefyd byddwch yn datblygu sgiliau rhyngbersonol trosglwyddadwy fel gweithio gydag eraill, datrys problemau, astudio annibynnol a sgiliau dysgu/meddwl. Bydd myfyrwyr hefyd yn datblygu sgiliau mewn trefnu, cynllunio dilyniant personol ac ymchwil ar lefel briodol.

Cewch eich gwahodd i redeg ac arwain digwyddiadau i’ch cymheiriaid a fydd yn datblygu sgiliau cynllunio, hyder a sgiliau cyfathrebu.

Mae’r cwrs yn cynnwys 7 uned a all gynnwys:

  • Cymryd Rhan mewn Chwaraeon
  • Anatomeg a Ffisioleg ar gyfer Ymarfer.     
  • Cyflwyniad i Ymarfer Iach a Maetheg
  • Hyfforddi Chwaraeon
  • Datblygu Ffitrwydd Personol Trwy Hyfforddiant
  • Cynllunio a rhedeg Digwyddiad Chwaraeon
  • Cynllunio, Cyflwyno a Gwerthuso Sesiwn Weithgaredd

Hefyd mae’r cwrs yn cynnwys sesiynau datblygu sgiliau a rhaglen diwtorial.

Cynlluniwyd y cwrs hwn i’ch ysbrydoli ac i ennyn brwdfrydedd ynoch i ystyried gyrfa yn y sector chwaraeon.

Trwy gydol y flwyddyn cewch y cyfle i ennill gwybodaeth a dealltwriaeth ehangach am y diwydiant chwaraeon, a fydd yn tanategu ac yn gwella eich sgiliau fel mabolgampwr uchelgeisiol. Ei nod yw eich paratoi ar gyfer cyfleoedd astudio pellach ac mae’n darparu cam ar y ffordd i L3 Chwaraeon, neu L3 Gwasanaethau Cyhoeddus.

Nod y cwrs yw cysylltu addysg â byd gwaith mewn ffyrdd sy’n ennyn diddordeb, sy’n berthnasol ac yn ymarferol, ochr yn ochr â datblygu sgiliau hanfodol megis llythrennedd, rhifedd a llythrennedd digidol.  Cewch fynediad i gyfleusterau a chyfarpar o safon y diwydiant megis ein cae chwarae 4G, ein neuadd chwaraeon a’n swît ffitrwydd. Hefyd fe’ch anogir i ymgysylltu â’n Hacademïau Chwaraeon sy’n anelu at ddatblygu athletwyr a chwaraewyr mewn ystod o chwaraeon.

Mae asesiad yn 100% aseiniadau ysgrifenedig wedi’u hasesu’n fewnol trwy asesiadau ymarferol, cyflwyniadau, llyfrau log, defnyddio tystiolaeth fideo, profion llyfr agored, taflenni/pamffledi, ac ati.  Caiff pob uned ei graddio fel Pas, Teilyngdod neu Ragoriaeth, gyda gradd  gyffredinol e.e. P, T neu Rh yn cael ei dyfarnu ar ôl cwblhau. Ceir 3 uned graidd a 4 uned opsiynol. Rhaid i fyfyrwyr fodloni meini prawf asesu penodol er mwyn cyflawni pob marc.

Bydd angen o leiaf tri TGAU graddau A*-C arnoch, sy’n cynnwys naill ai Saesneg iaith, Cymraeg (iaith gyntaf) neu fathemateg. Derbynnir dilyniannau o lefel un chwaraeon yn ogystal.

Asesir yr holl fyfyrwyr ar sail unigol a chynigir cyfle iddynt i ddod am gyfweliad.

Mae Saesneg a Mathemateg yn rhan annatod o’r cwrs Bydd myfyrwyr nad ydynt wedi cael y graddau C neu uwch angenrheidiol hyd yn hyn yn cael addysgu a chymorth ychwanegol i astudio ar gyfer naill ai TGAU, Cymwysterau Agored neu Sgiliau Hanfodol yn dibynnu ar raddau TGAU blaenorol.

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.

Oherwydd y gofynion ffitrwydd ar y cwrs, bydd yn ofynnol i ddysgwyr gael cit chwaraeon.  Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.