Skip page header and navigation

Diploma Lefel 3 mewn Therapi Tylino Chwaraeon (Cwrs Coleg, Lefel 3)

  • Campws Aberteifi
34 Wythnos

Mae gyrfa fel therapydd tylino chwaraeon yn golygu darparu triniaethau tylino therapiwtig i athletwyr ac unigolion sy’n ymwneud â gweithgareddau corfforol. Mae therapi tylino chwaraeon yn canolbwyntio ar atal a thrin anafiadau, gwella perfformiad, hybu adferiad, a gwella lles corfforol yn gyffredinol.

Bydd y therapydd tylino chwaraeon lefel tri cymwysedig yn gallu gweithio’n ddiogel ac yn effeithiol ar feinwe gamweithredol mewn ystod o gyd-destunau, gan gynnwys cyn digwyddiad, ar ôl digwyddiad, yn ystod digwyddiad ac at ddibenion cynnal. 

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Rhan amser
Hyd y cwrs:
34 Wythnos

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Cyflwynir y cwrs yn rhan-amser, tair awr yr wythnos dros 34 o wythnosau. Bydd y garfan gyntaf o ddysgwyr yn dechrau ym mis Medi bob blwyddyn.

Mae cynnwys y cymhwyster yn cwmpasu’r unedau gorfodol canlynol: Mae cynnwys y cymhwyster yn cwmpasu’r unedau gorfodol canlynol: 

  • USP41: Anatomeg a ffisioleg ar gyfer tylino chwaraeon 
  • USP42: Egwyddorion iechyd a ffitrwydd 
  • USP43: Deall egwyddorion meinwe feddal gamweithredol 
  • USP44: Ymarfer proffesiynol mewn tylino chwaraeon 
  • USP45: Triniaethau tylino chwaraeon

Cynlluniwyd y cymhwyster hwn i arwain at gyflogaeth fel therapydd tylino chwaraeon. 

Byddwch yn rhan o raglen ffyniannus o weithgareddau a chewch gipolwg ar ragolygon gyrfa yn y diwydiant, trwy deithiau a digwyddiadau. 

Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, fe allech chi symud ymlaen i gwrs lefel uwch fel y dystysgrif lefel pedwar mewn therapi tylino chwaraeon.

Yn ddelfrydol byddai dysgwyr yn meddu ar radd C mewn TGAU Saesneg neu Gymraeg a bod â diddordeb brwd mewn chwaraeon. Caiff addasrwydd ar gyfer y cwrs hwn ei asesu yn y cyfweliad; fodd bynnag mae angen agwedd gadarnhaol at ddysgu sgil galwedigaethol ac mae’n rhaid i chi fod yn awyddus i weithio gyda’r cyhoedd a meddu ar agwedd broffesiynol.

£560.00

Bydd angen prynu iwnifform a gwerslyfr. Rhoddir y wybodaeth hon cyn eich dyddiad dechrau a gellir trafod hyn yn y cyfweliad.