Skip page header and navigation

Diploma Estynedig Lefel 3 NCFE mewn Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol (Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer) (Cwrs Coleg)

  • Campws Y Graig
2 Flynedd

Os oes gennych ddiddordeb brwd mewn chwaraeon a meddwl sy’n naturiol chwilfrydig gyda’r awydd i gyrraedd perfformiad brig, dyma’r cwrs i chi.

Mae gwyddonwyr chwaraeon ac ymarfer corff yn parhau i fod yn bresenoldeb cynyddol ym myd chwaraeon, ac wrth i ni edrych i’r dyfodol, mae pob arwydd yn awgrymu y bydd eu dylanwad ym myd chwaraeon yn cynyddu. Nod y cwrs hwn yw eich paratoi ar gyfer cyfleoedd astudio pellach ac mae’n darparu cam ar y ffordd i addysg uwch a/neu gyflogaeth.

Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer y dysgwyr hynny sydd am ddysgu mwy am ddadansoddi perfformiad chwaraeon a’r hyn mae’n ei gymryd i anelu tuag at berfformiad brig. Bydd y cwrs yn datblygu eich sgiliau a’ch gwybodaeth o fewn y maes, ochr yn ochr â datblygu sgiliau hanfodol fel llythrennedd, rhifedd a llythrennedd digidol.

Cewch fynediad i gyfleusterau a chyfarpar o safon y diwydiant megis ein cae chwarae 4G, neuadd chwaraeon, campfa ffitrwydd, swît ddadansoddi a hwb perfformiad.  Cewch brofiad uniongyrchol o’n cyfarpar ‘Safon Aur’, sy’n cynnwys ‘Wattbikes’ Brigbŵer, Dadansoddwr Màs y Corff, synwyryddion Smartspeed a dadansoddwr anadl-wrth-anadl VO2max.  Hefyd fe’ch anogir i ymgysylltu â’n Hacademïau Chwaraeon sy’n anelu at ddatblygu athletwyr a chwaraewyr mewn ystod o chwaraeon gan gynnwys ein Rhaglen Perfformiwr Elitaidd (EPP).

Bydd myfyrwyr yn astudio dau gymhwyster dros gyfnod eu cwrs dwy flynedd, gan gwblhau Diploma Lefel 3 NCFE (540) mewn Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol (Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff) ym mlwyddyn un ac yn symud ymlaen i Ddiploma Estynedig Lefel 3 NCFE mewn Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol (Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff) ym mlwyddyn dau.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Llawn amser
Hyd y cwrs:
2 Flynedd

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae meysydd astudio yn cynnwys anatomeg weithredol, ffisioleg a seicoleg gymhwysol, biomecaneg chwaraeon, hyfforddiant ffitrwydd arbenigol, maetheg, tylino chwaraeon ac anafiadau chwaraeon.  Hefyd byddwch yn datblygu sgiliau rhyngbersonol trosglwyddadwy fel gweithio gydag eraill, datrys problemau, dysgu annibynnol a sgiliau meddwl yn feirniadol. Hefyd bydd dysgwyr yn datblygu sgiliau mewn trefnu, cynllunio dilyniant personol ac ymchwil ar lefel briodol.

Trwy gydol y cwrs byddwch hefyd yn datblygu eich sgiliau rhifedd, llythrennedd a llythrennedd digidol ymhellach trwy ein Twlcit Sgiliau Hanfodol Cymru ar-lein (WEST) ynghyd â chyfle i gael profiad ymarferol gyda’n cyfarpar gwyddor chwaraeon ‘Safon Aur’ yn ein Hwb Perfformiad.

Mae’r cwrs 18 uned yn cyfuno theori â dulliau dysgu ymarferol.  Mae 1080 o oriau dysgu dan arweiniad (GLH) yn gyfwerth o ran maint â thri phwnc Safon Uwch.

Blwyddyn 1:

  • U1: Ymarfer corff, iechyd a ffordd o fyw *
  • U2: Paratoi ar gyfer gyrfa mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol *
  • U3: Egwyddorion anatomeg a ffisioleg *
  • U5: Biomecaneg
  • U6: Profi ffitrwydd ar gyfer chwaraeon ac ymarfer corff
  • U9: Seicoleg ar gyfer perfformiad chwaraeon
  • U11: Chwaraeon tîm ymarferol
  • U13: Ffisioleg ffitrwydd
  • U15: Hyfforddi a rhaglennu ffitrwydd 

*mae’n dynodi modiwlau craidd gorfodol a osodir gan y corff dyfarnu

Blwyddyn 2:

  • U4: Ffisioleg ymarfer corff gymhwysol
  • U7: Dulliau arbrofi yn y labordy a’r maes
  • U8: Prosiect ymchwil ar gyfer gwyddorau chwaraeon ac ymarfer corff
  • U10: Seicoleg chwaraeon gymhwysol
  • U16: Maetheg chwaraeon
  • U21: Anafiadau chwaraeon
  • U24: Dadansoddi perfformiad chwaraeon
  • U26: Tylino ar gyfer chwaraeon ac ymarfer corff
  • U30: Profiad gwaith mewn chwaraeon

Gall cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus arwain at gyfleoedd yn y sector chwaraeon, hamdden ac iechyd gan gynnwys cyflogaeth mewn canolfannau hamdden, campfeydd ffitrwydd, cyrff llywodraethu yn ogystal â chyrsiau Addysg Uwch perthnasol yn y brifysgol sy’n arwain at y proffesiynau canlynol; Gwyddonydd Chwaraeon, Therapydd Chwaraeon, Seicolegydd Chwaraeon ac Ymarfer Corff, Maethegydd Perfformiad, Biomecanyddion Chwaraeon, Ffisiolegydd Ymarfer Corff Clinigol, Ymgynghorydd Atgyfeiriadau Ymarfer Corff Meddygon Teulu, Hyfforddwr Cryfder a Chyflyru i enwi ond ychydig.

Mae asesiad yn 100% aseiniadau ysgrifenedig wedi’u hasesu’n fewnol trwy asesiadau ymarferol, cyflwyniadau, llyfrau log, defnyddio tystiolaeth fideo, profion llyfr agored, taflenni/pamffledi, ac ati.  Caiff pob uned ei graddio fel Pas, Teilyngdod neu Ragoriaeth, gyda gradd  gyffredinol e.e. P, T neu Rh yn cael ei dyfarnu ar ôl cwblhau.

O leiaf 5 TGAU graddau A*-C/9-4, gan gynnwys naill ai Cymraeg (Iaith Gyntaf) neu Saesneg Iaith, mathemateg a Gwyddoniaeth. Mae cael TGAU mewn Addysg Gorfforol yn fanteisiol, ond nid yn hanfodol.

Derbynnir dilyniannau o lefel dau chwaraeon gyda phroffil teilyngdod. Mae meddu ar ddiddordeb brwd a chymryd rhan yn weithredol mewn chwaraeon yn fanteisiol. Asesir pob dysgwr ar sail unigol trwy gyfweliad.

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a phrynu cit chwaraeon y coleg i’w ddefnyddio mewn gweithgareddau ymarferol a theithiau coleg.