Skip page header and navigation

Diploma Estynedig Cenedlaethol Lefel 3 mewn Hyfforddi a Datblygu Chwaraeon (Cwrs Coleg)

  • Campws Y Graig
2 Flynedd

Mae’r sector chwaraeon yn ddiwydiant sy’n tyfu’n gyflym.  Ar hyn o bryd mae’n werth £39 biliwn i’r economi ac mae’n parhau i dyfu bob blwyddyn.  Hyfforddi a datblygu chwaraeon yw un o feysydd pwysicaf y diwydiant hwn ar hyn o bryd, gan sicrhau bod iechyd a datblygu sgiliau yn digwydd o lawr gwlad i lefelau perfformiad elît.

Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer dysgwyr sy’n dymuno gweithio ym maes hyfforddi chwaraeon, datblygu neu’r sector addysg chwaraeon.  Fel myfyriwr ar y cwrs cewch fynediad i gyfleusterau a chyfarpar o safon y diwydiant megis ein cae chwarae 4G, neuadd chwaraeon, campfa ffitrwydd, swît ddadansoddi a hwb perfformiad.  Cewch brofiad uniongyrchol o’n cyfarpar ‘Safon Aur’, sy’n cynnwys ‘Wattbikes’ Brigbŵer, Dadansoddwr Màs y Corff, synwyryddion Smartspeed a dadansoddwr anadl-wrth-anadl VO2max.  Hefyd cewch y cyfle i ymgysylltu â’n Hacademïau Chwaraeon sy’n anelu at ddatblygu athletwyr a chwaraewyr mewn ystod o chwaraeon.

Bydd myfyrwyr yn astudio dau gymhwyster dros gyfnod eu cwrs dwy flynedd, gan gwblhau cymhwyster Sylfaen Cenedlaethol lefel tri mewn Hyfforddi a Datblygu Chwaraeon ym mlwyddyn un a symud ymlaen i Ddiploma Estynedig Cenedlaethol lefel tri mewn Hyfforddi a Datblygu Chwaraeon ym mlwyddyn dau.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Llawn amser
Hyd y cwrs:
2 Flynedd

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r gyfres hon o gymwysterau yn cynnwys achrediad gan y diwydiant, sy’n caniatáu i ddysgwyr symud ymlaen yn uniongyrchol i gyflogaeth yn y sector chwaraeon.

Bydd dysgwyr yn ennill gwybodaeth mewn meysydd fel technegau hyfforddi uwch, maetheg chwaraeon, dadansoddi chwaraeon, asesu ffitrwydd, tylino chwaraeon ac anatomeg a ffisioleg.

Ochr yn ochr â’ch cymhwyster craidd byddwch hefyd yn datblygu sgiliau hanfodol megis sgiliau rhifedd, llythrennedd a llythrennedd digidol trwy ein Twlcit Sgiliau Hanfodol Cymru ar-lein (WEST).

Mae’r cwrs 12 uned yn cyfuno theori â dulliau dysgu ymarferol.  Mae 1080 GLH yn gyfwerth o ran maint â thri phwnc Safon Uwch.

Blwyddyn 1:

  • Uned A: Gyrfaoedd yn y Diwydiant Chwaraeon a Hamdden Egnïol
  • Uned B: Iechyd, Lles a Chwaraeon
  • Uned C1: Datblygu Sgiliau Hyfforddi
  • Uned 1: Datblygu Chwaraeon
  • Uned 2: Hunangyflogaeth mewn Chwaraeon a Gweithgareddau Corfforol
  • Uned 5: Anatomeg a Ffisioleg mewn Chwaraeon

Blwyddyn 2:

  • Uned D1: Sgiliau Hyfforddi Cymhwysol
  • Uned E: Prosiect Ymchwil mewn Chwaraeon    
  • Uned 4: Maeth ar gyfer Perfformiad Corfforol
  • Uned 7: Tylino Chwaraeon Gweithredol
  • Uned 8: Profi Ffitrwydd
  • Uned 12: Cymhwyso Chwaraeon Ymarferol

Gall cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus arwain at gyfleoedd yn y sector chwaraeon, hamdden ac iechyd gan gynnwys cyflogaeth mewn canolfannau hamdden, campfeydd ffitrwydd, swyddogion hwb chwaraeon ysgolion, adrannau hyfforddi cymunedol lleol a chyrff llywodraethu.

Bydd y cwrs hwn hefyd yn galluogi myfyrwyr i symud ymlaen i gyrsiau addysg uwch yn y brifysgol mewn meysydd fel; Hyfforddi a Pherfformiad Chwaraeon, Therapi Chwaraeon, Maetheg Chwaraeon, Cryfder a Chyflyru, Addysg Gorfforol a/neu Seicoleg Chwaraeon i enwi ond ychydig.

Caiff yr holl waith ei asesu’n fewnol trwy aseiniadau ysgrifenedig, asesiadau ymarferol, cyflwyniadau, llyfrau log, defnyddio tystiolaeth fideo, profion llyfr agored, taflenni/pamffledi, ac ati.  Caiff pob uned ei graddio fel Pas, Teilyngdod neu Ragoriaeth, gyda gradd driphlyg gyffredinol e.e. PPP i Rh*Rh*Rh* yn cael ei dyfarnu ar ôl cwblhau.

Mae’r cymhwyster hwn ar gael i’w asesu drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.

O leiaf pump TGAU graddau A*-C/9-4, gan gynnwys naill ai Saesneg iaith neu Gymraeg (iaith gyntaf) a mathemateg. Mae cael TGAU addysg gorfforol yn fanteisiol, ond nid yn hanfodol. 

Mae dilyniannau o lefel dau chwaraeon gyda phroffil TT yn dderbyniol. Mae meddu ar ddiddordeb brwd a chyfranogiad gweithredol mewn chwaraeon hefyd yn fanteisiol. Asesir pob dysgwr ar sail unigol trwy gyfweliad.

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a phrynu cit chwaraeon y coleg i’w ddefnyddio mewn gweithgareddau ymarferol a theithiau coleg.