BSc Hyfforddiant a Pherfformiad Pêl-droed (BSc)
- Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
Chwaraeon yw un o feysydd pwnc mwyaf dynamig Coleg Sir Gâr ac rydym yn falch i gynnig rhaglenni gradd cyffrous, arloesol mewn chwaraeon.
Mae’r BSc atodol blwyddyn o hyd mewn Hyfforddiant a Pherfformiad Pêl-droed wedi’i gynllunio ar gyfer myfyrwyr sydd eisoes wedi cyflawni Gradd Sylfaen neu 240 credyd mewn disgyblaeth gysylltiedig. Mae’r rhaglen hon wedi’i chynllunio i sicrhau profiad dysgu cyfredol ac academaidd trylwyr sy’n bodloni anghenion y diwydiant lleol.
Mae gan y rhaglen gysylltiadau cryf â thimau proffesiynol elît megis Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe, a thimau lled-broffesiynol fel Clwb Pêl-droed Tref Llanelli lle caiff myfyrwyr y cyfle i ennill profiad o’r diwydiant ar y lefel uchaf.
Hefyd mae’r radd yn elwa o gysylltiadau cymunedol a ddatblygwyd yn yr adran dros nifer o flynyddoedd, gan leoli myfyrwyr mewn ysgolion lleol a gyda swyddogion datblygu pêl-droed NGB sy’n rhoi cipolwg ar lwybrau cyflogaeth posibl.
Mae’r cwrs yn un unigryw wedi’i leoli ym Mhrifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), Caerfyrddin a chaiff ei gyflwyno gan Goleg Sir Gâr felly byddwch yn fyfyrwyr ym Mhrifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant a Choleg Sir Gâr hefyd.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
- Rhan amser
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r meysydd astudio yn cynnwys hyfforddi pêl-droed, dadansoddi pêl-droed a chryfder a chyflyru. Hefyd byddwch yn datblygu sgiliau rhyngbersonol trosglwyddadwy fel sgiliau ymchwil uwch, datrys problemau, dysgu annibynnol a sgiliau meddwl yn feirniadol wrth baratoi at yrfa mewn pêl-droed a chwaraeon. Mae gan y rhaglen elfen dysgu’n seiliedig ar waith hefyd fel y gall myfyrwyr ennill profiad hanfodol yn eu maes diddordeb.
Mae’r maes pwnc yn elwa o gael cyfleusterau ardderchog sy’n cynnwys labordy chwaraeon o’r radd flaenaf, swît ddadansoddi, neuadd chwaraeon, swît cryfder a chyflyru ac arwyneb 3G bob tywydd.
Lefel 6
- Arsylwi a Dadansoddi Perfformiad Pêl-droed
- Hyfforddi Perfformiad Uchel mewn Pêl-droed
- Cryfder a Chyflyru 3
- Dysgu Seiliedig ar Waith 3
- Astudiaeth Annibynnol
Mae’r cwrs hwn yn anelu at baratoi myfyrwyr ar gyfer symud ymlaen i yrfa mewn pêl-droed, chwaraeon ac addysg gorfforol.
Gall llwybrau gyrfa posibl gynnwys Gweinyddwr Pêl-droed/Chwaraeon, Hyfforddwr Pêl-droed, Swyddog Datblygu Pêl-droed, Dadansoddwr Pêl-droed, Hyfforddwr Cryfder a Chyflyru, Athro Addysg Gorfforol neu Ddarlithydd Coleg.
Gall llwybrau gyrfa amgen gynnwys y gwasanaethau brys, y lluoedd arfog a gwaith ieuenctid.
Caiff modiwlau eu hasesu trwy gyfuniad o aseiniadau, astudiaethau achos, llyfrau log ac asesiadau o sgiliau ymarferol.
Mae hwn yn gwrs blwyddyn sydd wedi’i gynllunio ar gyfer myfyrwyr sydd wedi cyflawni Gradd Sylfaen neu 240 credyd ar lefel Addysg Uwch (120 ar Lefel 4 a 120 ar Lefel 5) mewn disgyblaeth gysylltiedig.
Does dim ffi ychwanegol, fodd bynnag, mae’n debygol y byddwch yn mynd i gostau ychwanegol ar gyfer cyfarpar personol/cit chwaraeon ac ar gyfer teithiau’n gysylltiedig â’r cwrs.