Skip page header and navigation

HND Peirianneg Fecanyddol

  • Campws Y Graig
2 flynedd yn Llawn Amser neu 3 Blynedd yn Rhan-amser yn dibynnu ar y dull dysgu

Nod cyffredinol y dyfarniad hwn yw datblygu sgiliau meddwl, ymarferol a phersonol y myfyriwr hyd eithaf ei allu neu ei gallu. Dyfarniad dwy flynedd o hyd yw hwn sydd yn addas i fyfyrwyr sydd am astudio yn llawn amser ac sy’n chwilio am yrfa yn y proffesiwn Peirianneg Fecanyddol a Gweithgynhyrchu ar lefel uwch dechnegydd.

Mae yna un dyfarniad canolradd, sef yr HNC. Gellir cyflawni’r dyfarniad hwn ar ôl dwy flynedd o astudiaeth ran-amser a gellir ei uwchraddio i HND ar ôl blwyddyn arall o astudiaeth ran-amser. Fel rheol caiff myfyrwyr eu cofrestru ar yr HNC yn gyntaf ac mae ganddynt gyfle i ddychwelyd i uwchraddio i’r HND. Hefyd gellir cyflawni’r HND mewn dwy flynedd wrth astudio’n llawn amser. Ar ôl ennill yr HND, caiff myfyrwyr wedyn y cyfle i uwchraddio i radd anrhydedd lawn gyda dwy flynedd bellach o astudiaeth ran-amser. 

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Llawn amser
  • Rhan amser
Hyd y cwrs:
2 flynedd yn Llawn Amser neu 3 Blynedd yn Rhan-amser yn dibynnu ar y dull dysgu

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae unedau, deilliannau a chyflwyniad y cwrs yn:

  • Galluogi dysgwyr i arddangos lefel briodol o sgiliau datrys problemau fel y sail ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, fel eu bod yn gallu gweithio mewn tîm, gan felly gyfrannu at eu hamgylchedd gwaith.
  • Caniatáu i ddysgwyr gymhwyso eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o ddadansoddi peirianegol ac egwyddorion gwyddonol.
  • Hyrwyddo ymwybyddiaeth o reolaeth ansawdd, systemau iechyd a diogelwch, materion amgylcheddol a chynaladwyedd.
  • Caniatáu i ddysgwyr brosesu a dadansoddi’r wybodaeth a gafwyd o waith labordy a gwaith prosiect er mwyn datrys problemau peirianegol.
  • Datblygu sgiliau mewn technoleg gwybodaeth fel y caiff ei chymhwyso i beirianneg ac arddangos cymhwysedd mewn sgiliau llafar ac ysgrifenedig, sy’n galluogi dysgwyr i weithio’n effeithiol fel aelodau o dîm.
  • Annog dysgwyr i nodi eu hanghenion dysgu eu hunain i’w galluogi i symud ymlaen a gwella eu sail addysgol ar gyfer datblygiad proffesiynol
  • Datblygu agwedd broffesiynol yn y myfyrwyr tuag at eu cyfrifoldebau fel peirianwyr i’r gymdeithas.

Mae enghreifftiau o unedau’r cwrs yn cynnwys: Dylunio a Gweithgynhyrchu, Technoleg Drydanol ar gyfer Peirianwyr Mecanyddol, Arfer Proffesiynol ar gyfer Peirianwyr, Mathemateg Peirianneg 1, Gwyddor Fecanyddol 1, Thermohylifau 1, Deunyddiau, Prosiect, Busnes, Diogelwch a Chyflogadwyedd, Thermohylifau 2, Gwyddor Fecanyddol 2, Mathemateg Peirianneg 2, Offeryniaeth a Rheoli, Dylunio Peirianegol a Thechnoleg Awtomatiaeth.

Bydd cwblhau’r HND yn llwyddiannus i safon foddhaol yn cymhwyso myfyrwyr ar gyfer mynediad i gyrsiau gradd mewn pynciau perthynol o fewn grŵp PCYDDS.  Mae gyrfaoedd sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’r ddisgyblaeth hon yn cynnwys Peiriannydd Datblygiad Mecanyddol, Peiriannydd Dylunio Mecanyddol, Peiriannydd Cynhyrchu a Gwerthiannau Technegol.  Caiff Peirianwyr Mecanyddol / Gweithgynhyrchu eu cyflogi gan y diwydiant gweithgynhyrchu, y diwydiannau gwasanaethu, y lluoedd arfog a sefydliadau ymchwil.

Asesir trwy aseiniadau ac arholiadau diwedd modiwl. Asesir myfyrwyr hefyd mewn ystod o sgiliau cyffredin o fewn eu modiwlau technegol.

Mae’r cymhwyster hwn ar gael i’w asesu drwy gyfrwng y Saesneg yn unig.

Yn ychwanegol i bum pwnc TGAU gradd C neu uwch, yn ddelfrydol yn cynnwys Mathemateg, Saesneg a phwnc Gwyddoniaeth, bydd y meini prawf lleiafswm canlynol yn berthnasol:

TAG lefel UG/Safon Uwch, VCE UG dyfarniad sengl neu ddwbl, Diploma Estynedig VRQ L3 mewn disgyblaeth briodol, neu o leiaf dau Safon Uwch neu gyfwerth.    Y pynciau Safon Uwch neu gyfwerth derbyniol yw mathemateg neu bwnc Gwyddoniaeth rifog megis Ffiseg, Cemeg, Daeareg, Daearyddiaeth, Technoleg Dylunio neu Beirianneg.

Neu

Dystysgrif/Diploma/Diploma Estynedig Cenedlaethol Lefel 3, fel rheol mewn peirianneg fecanyddol.  Graddau PP/PPP yn y drefn honno, yn cynnwys modiwl mathemateg a modiwl dadansoddol ychwanegol megis mecaneg neu wyddor amgylcheddol.

Neu

Uwchraddio o Dystysgrif Genedlaethol Uwch mewn Peirianneg Fecanyddol.

Mae ffioedd addysg uwch yn gymwys a chaiff unrhyw gostau ychwanegol eu pennu’n flynyddol gan y coleg. Uwchraddio i HND o HNC ar gyfer y flwyddyn academaidd 2023-24: £2,196

Hefyd, bydd angen i’r dysgwr ddarparu ei ddeunydd ysgrifennu ei hun a chyfarpar ystafell ddosbarth sylfaenol sy’n briodol i’w gwrs (e.e. pennau ysgrifennu a chyfrifiannell).