Skip page header and navigation

Lefel 2 Barbro (Cwrs Coleg)

  • Campws Aberteifi
Blwyddyn

Mae barbro yn broffesiwn sy’n golygu torri, steilio, twtio a chynnal a chadw gwallt a blew’r wyneb i ddynion. Mae barbwyr yn darparu ystod o wasanaethau gan gynnwys torri gwallt, siafio, trimio barf a steilio gwallt.

Cynlluniwyd y cymhwyster lefel dau hwn ar gyfer y rheiny sydd ag uchelgais i gael gyrfa yn y diwydiant barbro.

Mae’n cwmpasu’r holl driniaethau barbro sylfaenol a bydd yn rhoi sail dda i chi allu symud ymlaen i gyrsiau pellach.  Wrth ddysgu yn salon masnachol y coleg, byddwch yn datblygu’r sgiliau hanfodol sydd eu hangen ar gyfer eich llwybr gyrfa fel barbwr. 

Yn ystod y cwrs byddwch yn datblygu arbenigedd ymarferol a gwybodaeth hanfodol am y diwydiant.

Mae’r cwrs hwn yn rhoi’r cyfleoedd ymarferol i chi sy’n caniatáu i chi gwblhau eich aseiniadau a rhoi eich sgiliau ar waith mewn amgylchedd salon barbro go iawn. 

Drwy gydol y cwrs hwn, byddwch yn cael eich asesu trwy brofion sgiliau ymarferol ac aseiniadau ysgrifenedig a fydd yn rhedeg ochr yn ochr â’r modiwlau rydych yn eu hastudio.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Rhan amser
Iaith:
  • Cymysg
Hyd y cwrs:
Blwyddyn

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r coleg yn rhedeg salon hyfforddi masnachol sy’n agored i’r cyhoedd ac sy’n darparu amgylchedd gwaith go iawn i chi, gan ganiatáu i chi gael ymdeimlad o sut y bydd yn teimlo i weithio yn y diwydiant. 

Mae yna bwyslais hefyd ar eich cynorthwyo i ddod yn ddysgwr annibynnol trwy gynllunio, gosod targedau a datblygiad unigol. 

Byddwch yn rhan o raglen ffyniannus o weithgareddau gan gynnwys teithiau a digwyddiadau ynghyd â chymryd rhan mewn cystadlaethau cenedlaethol sy’n gallu arwain at waith cystadleuaeth rhyngwladol.

Cwrs rhan-amser yw hwn fydd yn cynnwys gweithio un noson yr wythnos yn salon y coleg.

Mae’r cwrs hwn yn cynnwys unedau gorfodol a gyflwynir dros flwyddyn yn rhan-amser:

  • Ymgynghoriad cleient ar gyfer gwasanaethau gwallt
  • Torri gwallt dynion 
  • Torri blew’r wyneb 
  • Dilyn arferion iechyd a Diogelwch yn y salon

Mae’r cwrs hwn yn canolbwyntio ar ddarparu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch er mwyn symud ymlaen i gwrs lefel uwch, prentisiaeth ond yn y pen draw i waith fel barbwr iau. 

Mae ymgymryd â’r hyfforddiant cywir ar gychwyn eich gyrfa yn fuddsoddiad hirdymor gwych o ran eich rhagolygon gyrfa.

Bydd cyfleoedd gyrfaol yn eich galluogi i symud ymlaen naill ai i’r cwrs diploma lefel tri neu i mewn i salonau masnachol, siopau barbwr neu hunangyflogaeth.

Fel rhan o’r rhaglen hon bydd y dulliau asesu canlynol yn cael eu defnyddio:

  • Arholiad ymarferol
  • Asesiadau parhaus
  • Portffolio o dystiolaeth
  • Aseiniadau ysgrifenedig ac Arholiadau

Bydd addasrwydd ar gyfer y cwrs hwn yn cael ei asesu mewn cyfweliad, fodd bynnag, mae angen agwedd gadarnhaol at ddysgu sgil galwedigaethol.

Rydym yn argymell o leiaf pedwar TGAU graddau A* i D gyda dwy radd C, un naill ai mewn Saesneg/Cymraeg (iaith gyntaf) neu fathemateg.  Neu rydym yn derbyn cwblhau cymhwyster galwedigaethol lefel un yn llwyddiannus mewn pwnc perthnasol. Byddwn hefyd yn ystyried cymwysterau a phrofiad blaenorol.

Ffi’r cwrs rhan-amser hwn ar hyn o bryd yw £275.

Cewch fynediad i ystod o gyfarpar ac adnoddau yn y coleg ond ar ben hynny, bydd angen prynu cit ac iwnifform.  Rhoddir y wybodaeth hon cyn eich dyddiad cychwyn a gellir rhoi cyngor yn y cyfweliad.

Trefnir amrywiol deithiau trwy gydol y flwyddyn academaidd sy’n ymwneud â’r diwydiant gwallt, y bydd gofyn i chi dalu cyfraniad tuag atynt.