Skip page header and navigation

Therapi Harddwch Lefel 2 (Cwrs Coleg)

  • Campws Y Graig
1 flwyddyn

Mae therapi harddwch yn ddiwydiant ehangol a phroffesiynol sy’n cwmpasu amrywiol ddiwydiannau fel salonau harddwch, gwestai, sbâu a llongau gwyliau.

Mae’r cymhwyster lefel dau hwn wedi’i gynllunio ar gyfer y rheiny sydd am gael gyrfa yn y diwydiant therapi harddwch. 

Mae’n cwmpasu’r holl driniaethau therapi harddwch sylfaenol a bydd yn rhoi   sail dda i chi allu symud ymlaen i gyrsiau pellach.  

Wrth ddysgu yn salon hyfforddi’r coleg, byddwch yn datblygu’r sgiliau hanfodol sydd eu hangen ar gyfer eich llwybr gyrfa fel harddwr/harddwraig. 

Yn ystod y cwrs cewch eich cefnogi i ddatblygu arbenigedd ymarferol a gwybodaeth hanfodol am y diwydiant.

Mae’r cwrs hwn yn darparu cyfleoedd ymarferol i chi sy’n caniatáu i chi gwblhau eich aseiniadau a rhoi eich sgiliau ar waith mewn amgylchedd salon harddwch go iawn.

Drwy gydol y cwrs hwn, byddwch yn cael eich asesu trwy brofion sgiliau ymarferol ac aseiniadau ysgrifenedig a fydd yn rhedeg ochr yn ochr â’r modiwlau rydych yn eu hastudio.

Mae’r cwrs lefel dau hwn yn cynnwys yr holl elfennau sy’n ofynnol i weithio’n effeithiol fel therapydd harddwch gan gynnwys gofal croen yr wyneb, gwella golwg aeliau a blew amrant, gwasanaethau cwyro, triniaeth dwylo, triniaeth traed, effeithiolrwydd yn y gwaith, iechyd a diogelwch a hyrwyddo cynhyrchion a gwasanaethau ychwanegol i gleientiaid.

Fel rhan o’r cwrs, mae’n ofynnol i chi ymgymryd â phrofiad gwaith a fydd yn caniatáu i chi ddefnyddio’r sgiliau trosglwyddadwy y byddwch yn eu dysgu yn y coleg.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Llawn amser
Hyd y cwrs:
1 flwyddyn

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae gan y coleg salon gweithredol sydd ar agor i’r cyhoedd. Mae hwn yn darparu amgylchedd gwaith go iawn i chi ac yn caniatáu i chi gael ymdeimlad o sut y bydd yn teimlo i weithio yn y diwydiant. 

Mae yna bwyslais ar eich cynorthwyo i ddod yn ddysgwr annibynnol trwy gynllunio, gosod targedau a datblygiad unigol. 

Mae gan fyfyrwyr raglen ffyniannus o weithgareddau, teithiau a digwyddiadau sy’n cynnwys cymryd rhan mewn cystadlaethau cenedlaethol gyda dilyniant i gystadlaethau rhyngwladol.             

Mae’r cymhwyster hwn yn seiliedig ar safonau galwedigaethol cenedlaethol therapi harddwch ac fe’i cydnabyddir gan gyrff proffesiynol blaenllaw’r DU fel un sy’n addas at y pwrpas o baratoi dysgwyr ar gyfer gyrfa fel therapydd harddwch iau.

Mae hwn yn gwrs llawn amser a disgwylir i chi weithio un noson yr wythnos yn salon masnachol y coleg.

Mae’r cwrs yn cynnwys unedau gorfodol a gyflwynir dros flwyddyn:

  • Darparu triniaethau gofal croen yr wyneb
  • Cyflawni gwasanaethau cwyro
  • Gwella golwg aeliau a blew amrant
  • Gwasanaethau triniaeth dwylo
  • Gwasanaethau triniaeth traed
  • Gwasanaethau colur
  • Sicrhau bod eich gweithredoedd eich hun yn lleihau risgiau i iechyd a diogelwch
  • Hyrwyddo cynhyrchion neu wasanaethau ychwanegol i gleientiaid
  • Datblygu a chynnal eich effeithiolrwydd yn y gwaith
  • Cyflawni dyletswyddau derbynfa salon

Ochr yn ochr â’ch cymhwyster harddwch, cewch gyfle i wella eich graddau naill ai drwy ailsefyll pynciau TGAU neu Sgiliau Hanfodol mewn llythrennedd a rhifedd, a fydd yn eich galluogi i symud ymlaen i gyrsiau pellach a datblygu eich hyder ac opsiynau gyrfaol.

Mae’r cwrs hwn yn canolbwyntio ar ddarparu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch er mwyn symud ymlaen i lefel uwch, prentisiaethau ac yn y pen draw i waith fel therapydd iau.

Gall ymgymryd â’r hyfforddiant cywir ar gychwyn eich gyrfa fod yn fuddsoddiad hirdymor gwych o ran eich rhagolygon gyrfa.

Bydd cyfleoedd gyrfaol yn eich galluogi i symud ymlaen naill ai i gwrs lefel tri neu i salonau masnachol, gwaith teledu, ffilm, theatr a’r cyfryngau, llongau gwyliau, a hunangyflogaeth fel gwaith symudol neu leoliadau yn y cartref.

Fel rhan o’r rhaglen hon bydd y dulliau asesu canlynol yn cael eu defnyddio:

  • Arholiad ymarferol
  • Asesiadau parhaus
  • Portffolio o dystiolaeth
  • Asesiadau ysgrifenedig 

Mae’r cymhwyster hwn ar gael i’w asesu drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.

Bydd addasrwydd ar gyfer y cwrs hwn yn cael ei asesu mewn cyfweliad fodd bynnag mae angen agwedd gadarnhaol at ddysgu sgil galwedigaethol. 

O leiaf pedwar TGAU graddau A* i D gyda dwy radd C, un naill ai mewn Cymraeg (iaith gyntaf)/Saesneg neu fathemateg.  

Neu wedi cwblhau cymhwyster galwedigaethol lefel un yn llwyddiannus mewn pwnc perthnasol. 

Mae Saesneg a mathemateg yn rhan annatod o’r cwrs a bydd myfyrwyr nad ydynt hyd yn hyn wedi cael y graddau C neu uwch angenrheidiol yn cael addysgu a chymorth ychwanegol i astudio ar gyfer naill ai TGAU neu Sgiliau Hanfodol, gan ddibynnu ar eich graddau TGAU blaenorol.