Skip page header and navigation

Lefel 1 mewn Trin Gwallt (Cwrs Coleg, Lefel 1)

  • Campws Aberteifi
1 Flwyddyn

Mae trin gwallt yn ddewis gyrfaol poblogaidd a gwerth chweil i unigolion sy’n frwdfrydig dros steilio gwallt a helpu cleientiaid.

Mae’r cymhwyster lefel un hwn yn cynnig cam cychwynnol i ddechrau gyrfa mewn trin gwallt ac mae wedi’i gynllunio i greu sylfeini cadarn ar gyfer y rheiny sydd ag uchelgais i gael gyrfa yn y diwydiant trin gwallt.

Mae’n cwmpasu gwasanaethau trin gwallt sylfaenol o’r hyn y gallech chi symud ymlaen i gyrsiau pellach. Wrth ddysgu yn salon hyfforddi masnachol y coleg, byddwch yn datblygu’r sgiliau hanfodol sydd eu hangen i gyflawni eich llwybr gyrfa fel trinydd gwallt. 

Yn ystod y cwrs byddwch yn datblygu arbenigedd ymarferol a gwybodaeth hanfodol am y diwydiant. Mae’r cwrs hwn yn rhoi’r cyfleoedd ymarferol i chi sy’n caniatáu i chi roi eich sgiliau ar waith mewn amgylchedd salon trin gwallt go iawn. 

Drwy gydol y cwrs hwn, byddwch yn cael eich asesu trwy brofion sgiliau ymarferol ac aseiniadau/arholiadau ysgrifenedig a fydd yn rhedeg ochr yn ochr â’r modiwlau rydych yn eu

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Llawn amser
Hyd y cwrs:
1 Flwyddyn

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae ein salonau wedi’u cynllunio’n benodol at ddibenion hyfforddi ac mae ganddynt yr holl gyfarpar ac adnoddau diweddaraf. Bydd angen i ymgeiswyr fod yn frwdfrydig iawn ac yn barod i weithio fel rhan o dîm. Fel adran rydym yn awyddus i annog myfyrwyr i gyrraedd eu llawn botensial drwy gymryd rhan mewn cystadlaethau mewnol a chenedlaethol hefyd. 

Yn ogystal rydym yn cynnal diwrnodau cyfoethogi sy’n cynnwys, hyfforddiant affinage, tyllu clustiau, estyniadau gwallt a cholur theatrig.  Byddwch yn ogystal yn cael y cyfle i fynychu sioeau masnach, seminarau, gweithdai yn ogystal â theithiau a drefnir sy’n gysylltiedig â’r sector. 

Mae’r coleg yn rhedeg salon hyfforddi masnachol sy’n agored i’r cyhoedd ac sy’n darparu amgylchedd gwaith go iawn, gan ganiatáu i chi gael ymdeimlad o sut y bydd yn teimlo i weithio yn y diwydiant. Mae yna bwyslais hefyd ar eich cynorthwyo i ddod yn ddysgwr annibynnol trwy gynllunio, gosod targedau a datblygiad unigol. 

Byddwch yn rhan o raglen ffyniannus o weithgareddau gan gynnwys teithiau a digwyddiadau ynghyd â chymryd rhan mewn cystadlaethau cenedlaethol sy’n gallu arwain at waith cystadleuaeth rhyngwladol. 

Rydych yn dysgu gyda’ch aseswr drwy sesiynau ymarferol, trafodaethau grŵp neu aseiniadau. Bydd gennych fynediad i amgylchedd trin gwallt realistig lle byddwch yn ymarfer ac yn arddangos eich sgiliau.

Rhestrir unedau’r cwrs yn y disgrifiad o’r rhaglen. Mae pob uned yn cynnwys elfen o waith theori a gwaith ymarferol hefyd. Bydd gwaith rhifedd a llythrennedd integredig yn ogystal o fewn yr unedau gan y bydd disgwyl i ddysgwyr gyflawni sgil hanfodol yn y ddau bwnc hyn.

Os byddwch yn dilyn gyrfa mewn trin gwallt mae’n bosibl y gallwch ennill cyflogaeth drwy unrhyw un o’r llwybrau canlynol:

  • Salonau
  • Hunangyflogaeth
  • Gwestai a Sbâu 
  • Llongau gwyliau
  • Theatr a Ffilm

Caiff gwaith ymarferol ei asesu gan ddefnyddio dulliau arsylwi a thystiolaeth cynnyrch. Bydd y gwaith theori yn cael ei asesu gydag aseiniadau ac arholiadau amlddewis ar-lein. 

Tri TGAU graddau A* i G naill ai mewn Saesneg/Cymraeg (iaith gyntaf) neu fathemateg neu gyfwerth. Rhaid i ymgeiswyr fynychu cyfweliad.

Bydd pob dysgwr yn dilyn llwybr sgiliau lle byddant yn datblygu eu sgiliau llythrennedd a rhifedd ar gyfer cyflogaeth. Bydd myfyrwyr nad ydynt hyd yma wedi cael y graddau TGAU angenrheidiol yn cael addysgu a chymorth ychwanegol i astudio ar gyfer naill ai TGAU neu gymwysterau Sgiliau Hanfodol yn dibynnu ar raddau TGAU blaenorol. 

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25.00 cyn cofrestru

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol