Skip page header and navigation

Prentisiaethau Trin Gwallt (Cwrs Prentisiaeth)

  • Campws Y Graig
18 Mis

Mae’r prentisiaethau hyn wedi’u cynllunio ar gyfer unigolion dros 16 oed sy’n ceisio cyflogaeth yn y diwydiant trin gwallt. Mae’r Brentisiaeth Sylfaen Lefel 2 yn cynnig cyflwyniad cyffrous i’r diwydiant gwallt, gan ddarparu’r sgiliau a’r cymwysterau hanfodol i ddysgwyr sydd eu hangen i ddod yn steilydd iau. Mae’r Brentisiaeth Lefel 3 yn adeiladu ar y sylfaen hon, gan ganolbwyntio ar dechnegau trin gwallt uwch ac arferion salon, a pharatoi dysgwyr i ddod yn uwch steilyddion. Mae’r ddwy lefel yn cyfuno dysgu seiliedig ar waith gyda mynychu’r coleg, gan alluogi dysgwyr i ennill cyflog wrth iddynt ddysgu ac ennill cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Rhan amser
Hyd y cwrs:
18 Mis

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Lefel 2:
● Cyflwyniad i’r diwydiant gwallt a sgiliau steilydd iau
● Cyfleoedd ymarferol i weithio ar gleientiaid mewn salon
● Datblygu proffesiynoldeb a sgiliau safon-diwydiant
● Mynychu’r coleg ar sail rhyddhau am ddiwrnod
● Asesu rheolaidd trwy brofion sgiliau ymarferol ac aseiniadau ysgrifenedig

Lefel 3:
● Technegau trin gwallt uwch ac arferion salon
● Hyfforddiant i ddod yn uwch steilydd
● Mynychu’r coleg ar sail rhyddhau am ddiwrnod
● Asesu rheolaidd trwy brofion sgiliau ymarferol, gwaith cwrs ac aseiniadau ysgrifenedig

Lefel 2:
● Torri gwallt gan ddefnyddio technegau sylfaenol
● Lliwio a goleuo gwallt
● Rhoi cyngor ac ymgynghori â chleientiaid
● Sgiliau Hanfodol mewn llythrennedd, rhifedd, llythrennedd digidol
 

Lefel 3:
● Steilio a gwisgo gwallt yn greadigol
● Lliwio a goleuo gwallt yn greadigol
● Datblygu, gwella a gwerthuso sgiliau trin gwallt creadigol
● Sgiliau Hanfodol mewn llythrennedd, rhifedd, ac o bosib ailsefyll arholiadau TGAU

Lefel 2:
● Symud ymlaen i Brentisiaeth Lefel 3

● Cymhwyster i weithio fel steilydd iau
 

Lefel 3:
● Symud ymlaen i gyflogaeth mewn salon neu hunangyflogaeth
● Cyfleoedd i weithio ar longau gwyliau, mewn salonau rhyngwladol, neu fynd ymlaen i
addysg bellach

● Profion sgiliau ymarferol
● Gwaith cwrs ac aseiniadau
● Arsylwadau seiliedig ar waith
● Portffolio o dystiolaeth
● Asesiadau ysgrifenedig

Lefel 2:
● Does dim gofynion mynediad lleiaf a gytunwyd yn genedlaethol
● Mae sgiliau ymarferol, trefniadol a chymdeithasol ynghyd â safon uchel o ddeheurwydd a
chydsymudiad yn hanfodol.
● Cyflwyniad a hylendid personol priodol
 

Lefel 3:
● NVQ/VRQ Lefel 2 mewn trin gwallt neu brofiad cyfwerth
● Y gallu i redeg cronfa gleientiaid brysur
● Cyflwyniad a hylendid personol priodol

● Efallai y bydd angen i ddysgwyr ddarparu eu deunydd ysgrifennu a’u cyfarpar personol eu
hun.
● Costau posibl ar gyfer ymweliadau addysgol a drefnir gan yr adran