Skip page header and navigation

Therapi Harddwch Lefel 1 (Cwrs Coleg)

  • Campws Y Graig
1 flwyddyn

Mae’r cymhwyster harddwch lefel un hwn yn gwrs rhagflas cyffrous a fydd yn rhoi cipolwg i chi ar fyd y diwydiant harddwch. 

Wrth ddysgu yn salon hyfforddi’r coleg, byddwch yn datblygu’r sgiliau hanfodol sydd eu hangen ar gyfer eich llwybr gyrfa fel harddwr/harddwraig. 

Mae’r cwrs hwn yn darparu cyfleoedd ymarferol i chi sy’n caniatáu i chi gwblhau eich aseiniadau a rhoi eich sgiliau ar waith mewn amgylchedd salon harddwch go iawn. 

Drwy gydol y cwrs hwn, byddwch yn cael eich asesu trwy brofion sgiliau ymarferol ac aseiniadau ysgrifenedig a fydd yn rhedeg ochr yn ochr â’r modiwlau rydych yn eu hastudio.

Fel rhan o’r cwrs, mae’n ofynnol i chi ymgymryd â phrofiad gwaith a fydd yn caniatáu i chi ddefnyddio’r sgiliau trosglwyddadwy y byddwch yn eu dysgu yn y coleg. 

Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer rhai sy’n gadael ysgol sydd â diddordeb mewn gyrfa fel harddwr/harddwraig ac mae’r cymhwyster yn rhoi dealltwriaeth gadarn am yr hyn sy’n gysylltiedig â’r sector harddwch.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Llawn amser
Hyd y cwrs:
1 flwyddyn

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae gan y coleg salon gweithredol sydd yn agored i’r cyhoedd, sy’n darparu amgylchedd gwaith go iawn i chi, ac yn caniatáu i chi gael ymdeimlad o sut y bydd yn teimlo i weithio yn y diwydiant. 

Yn ogystal, yn ystod y flwyddyn byddwch yn cwblhau cymhwyster gwasanaeth cwsmer Cymraeg ychwanegol er mwyn rhoi’r sgiliau hanfodol i chi sydd eu hangen i weithio yn y diwydiant yng Nghymru.

Mae yna bwyslais ar eich cynorthwyo i ddod yn ddysgwr annibynnol trwy gynllunio, gosod targedau a datblygiad unigol. 

Mae gan fyfyrwyr raglen ffyniannus o weithgareddau, teithiau a digwyddiadau sy’n cynnwys cymryd rhan mewn cystadlaethau cenedlaethol gyda llwybrau dilyniant i gystadlaethau rhyngwladol.

Mae’r cwrs harddwch lefel un yn cynnwys pum uned dros flwyddyn ac mae’r unedau’n cynnwys:

  • Cyfrifoldeb dros weithredoedd i leihau risgiau i iechyd a diogelwch
  • Paratoi a chynnal ardaloedd gwaith triniaethau’r salon
  • Cynorthwyo gyda thriniaeth gofal wyneb
  • Cynorthwyo gyda gwasanaethau ewinedd

Ochr yn ochr â’ch cymhwyster harddwch, cewch gyfle i wella eich graddau naill ai drwy ailsefyll pynciau TGAU neu Sgiliau Hanfodol mewn llythrennedd a rhifedd, a fydd yn eich galluogi i symud ymlaen i gyrsiau pellach yn ogystal â chynyddu eich hyder a’ch opsiynau gyrfaol.

Mae’r cwrs hwn yn canolbwyntio ar ddarparu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch er mwyn symud ymlaen i gyrsiau lefel uwch, prentisiaethau a gwaith yn y pen draw. 

Gall ymgymryd â’r hyfforddiant cywir ar gychwyn eich gyrfa fod yn fuddsoddiad hirdymor gwych o ran eich rhagolygon gyrfa.

Bydd cyfleoedd gyrfaol yn eich galluogi i symud ymlaen ar ôl addysg bellach naill ai i gyrsiau lefel dau neu lefel tri neu i salonau masnachol, gwaith teledu, ffilm, theatr a’r cyfryngau, llongau gwyliau, a hunangyflogaeth fel amgylcheddau gwaith symudol neu waith yn y cartref.

Fel rhan o’r rhaglen hon bydd y dulliau asesu canlynol yn cael eu defnyddio:

  • Arholiad ymarferol
  • Asesiadau parhaus
  • Portffolio o dystiolaeth
  • Asesiadau ysgrifenedig 

Mae’r cymhwyster hwn ar gael i’w asesu drwy gyfrwng y Saesneg yn unig.

Bydd addasrwydd ar gyfer y cwrs hwn yn cael ei asesu mewn cyfweliad a thrwy brawf sgiliau ymarferol. 

Byddwch angen: 

Agwedd gadarnhaol at ddysgu sgil galwedigaethol

O leiaf dau TGAU graddau A* i G mewn Cymraeg (iaith gyntaf) neu Saesneg, bydd mathemateg a gwyddoniaeth o fantais. 

Mae Saesneg a mathemateg yn rhan annatod o’r cwrs.   Bydd myfyrwyr nad ydynt hyd yn hyn wedi cael y graddau angenrheidiol yn cael addysgu a chymorth ychwanegol i astudio ar gyfer naill ai TGAU neu Sgiliau Hanfodol, gan ddibynnu ar raddau TGAU blaenorol.

Cewch fynediad i ystod o gyfarpar ac adnoddau ond ar ben hynny, bydd angen prynu cynhyrchion traul ac iwnifform. Rhoddir y wybodaeth hon cyn eich dyddiad dechrau.

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol sy’n ymwneud â’ch cwrs.